Mynd i'r cynnwys
Home » Chwalu rhwystrau rhag ymarfer corff – yn barhaol

Chwalu rhwystrau rhag ymarfer corff – yn barhaol

  • Flog

Canfu astudiaeth ddiweddar fod merched a menywod yn llai tebygol o wneud gweithgarwch corfforol rheolaidd na bechgyn a dynion ledled Cymru. Ond beth yw rôl y mislif yn hyn? Cyd-drefnodd Dr Kelly Morgan weithdy diweddar i gael gwybod mwy

Mae llawer o bwyslais ar iechyd menywod ar hyn o bryd, ac mae llywodraethau ac arianwyr ymchwil yn galw am yr angen i gynhyrchu mwy o ymchwil i gynorthwyo menywod. Mae Llywodraeth Cymru wedi llunio dogfen o’r enw Y Datganiad Ansawdd ar gyfer iechyd menywod a merched lle mae’r llywodraeth yn addo hyrwyddo tegwch a chynhwysiant mewn iechyd a gofal cymdeithasol. Mae rhan allweddol o’r ddogfen hon yn canolbwyntio ar fenywod iau a deall sut gallwn gefnogi lles merched yn y ffordd orau drwy gydol eu cyfnod yn yr ysgol. Er enghraifft, gall y glasoed ysgogi llawer o  newidiadau, yn gorfforol ac yn feddyliol, ac mae’n aml yn adeg heriol i bobl ifanc.

Dangosodd data diweddar gan arolwg Chwaraeon Cymru fod merched a menywod yn llai tebygol o wneud gweithgarwch corfforol rheolaidd na bechgyn a dynion ledled Cymru (Chwaraeon Cymru., 2024). Mae hyn wedi bod yn wir ers blynyddoedd lawer. Mae deall beth sy’n achosi’r lefelau is hyn o weithgarwch corfforol yn hanfodol i gynorthwyo merched a menywod fel y gallan nhw elwa o fod yn gorfforol egnïol, hefyd.

Dod at ein gilydd

Ar 4 Mehefin 2024, cynhaliwyd gweithdy gyda 24 o fynychwyr i drafod gweithgarwch corfforol ar gyfer merched, gyda phwyslais ar y mislif. Dan arweiniad Dr Lauren Copeland (yn y Ganolfan Ymchwil ar gyfer Iechyd, Gweithgarwch a Lles, Prifysgol Metropolitan Caerdydd) a chyda fy nghymorth i a phedwar o bobl eraill (Dr Christine McKnight, Dr Alison Cooper, Dr Sarah Brown, a Dr Robyn Jackowich), treuliwyd y prynhawn gydag aelodau’r cyhoedd, cynrychiolwyr elusennau, academyddion eraill ac aelodau sefydliadau chwaraeon.

Dechreuodd y gweithdy gyda chyflwyniad ynglŷn â rhywfaint o’r gwaith cysylltiedig sy’n mynd rhagddo yng Nghymru. Roedd hyn yn cynnwys trosolwg o’r canlynol:

Canfyddiadau cynnar astudiaeth sy’n adolygu strategaethau ar gyfer sut gallem fynd i’r afael â thlodi mislif.

Astudiaeth gyfredol sy’n edrych ar yr holl lenyddiaeth bresennol am effaith y mislif ar gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol.

Astudiaeth sy’n archwilio gwybodaeth dynion am y mislif a’u hymwybyddiaeth o sut gall y mislif effeithio ar lefelau gweithgarwch corfforol.

Symud ymlaen

Nesaf, anogwyd holl fynychwyr y gweithdy i feddwl am flaenoriaethau ar gyfer ymchwil bellach a chamau gweithredu polisi yn y dyfodol. Ar ôl trafod mewn grwpiau bach a rhannu safbwyntiau â’r ystafell gyfan, amlygwyd y meysydd allweddol canlynol:

Pwysigrwydd cynnwys y cyhoedd: Sicrhau bod y cyhoedd a chleifion yn cael cyfle i gymryd rhan mewn ymchwil o’r dechrau er mwyn ystyried profiad bywyd ar draws poblogaethau amrywiol a sicrhau bod yr ymchwil a gynhelir yn fwyaf perthnasol.

Rôl addysg: Ystyried y systemau cymorth ehangach o amgylch pobl sy’n cael mislif (e.e., y cwricwlwm, cyfoedion gwrywaidd, hyfforddwyr chwaraeon ac ati) er mwyn sicrhau bod ymwybyddiaeth a gwybodaeth am iechyd atgenhedlu a strategaethau i gynorthwyo pobl sy’n cael mislif i reoli eu mislif a phrofiadau iechyd cysylltiedig ehangach.

Yr amgylchedd: Sicrhau bod ardaloedd diogel, hylan a phreifat ar gael ym mhob ysgol a lleoliad chwaraeon, gan roi ystyriaeth i sicrhau bod cynhyrchion mislif rhad ac am ddim a mannau gwaredu ar gael. Roedd hyn hefyd yn ymwneud ag argaeledd cit ysgol addas ar gyfer addysg gorfforol a gweithgareddau allgyrsiol oherwydd fe allai hyn ddylanwadu ar gyfranogiad mewn gweithgarwch corfforol.

Effeithiau corfforol: Deall effeithiau’r mislif ar weithgarwch corfforol a pherfformiad chwaraeon a pha strategaethau ymdopi a ddefnyddir ar hyn o bryd neu y gellid eu hystyried i barhau i fod yn gorfforol egnïol yn ystod mislif.

Profiadau a rennir

Yn ogystal â’r meysydd allweddol uchod, rhannodd y mynychwyr straeon personol am eu rolau cysylltiedig neu brofiad bywyd yn ymwneud â’r mislif. Yn rhan o hyn, dysgwyd am y cynhyrchion mislif y gellir eu hailddefnyddio sy’n cael eu dylunio ar hyn o bryd a’u darparu i bobl sy’n byw yn rhannau tlotaf y byd. Clywsom gan Molly Fenton, sydd wedi brwydro â’r mislif wrth dyfu ac sydd bellach yn un o brif lefarwyr yr elusen fislif Love Your Period, gan wirfoddoli ei hamser i helpu pobl eraill. Clywsom am heriau’r amgylchedd ysgol newydd wrth i gyfleusterau tŷ bach rhywedd-niwtral gael eu cyflwyno a’r heriau yr oedd hyn yn eu hachosi i’r rhai sy’n cael mislif.

Daeth y gweithdy i ben gyda llawer o syniadau gwych yn cael eu rhannu a chysylltiadau newydd yn cael eu ffurfio, a’r gobaith am lawer o gydweithio ar waith cyffrous yn y dyfodol. Rhoddwyd adroddiad cryno ar y prynhawn i’r holl fynychwyr, hefyd.

Beth nesaf?

Rydym yn bwriadu parhau i ddatblygu ein rhwydweithiau, cwblhau’r gwaith sy’n mynd rhagddo ac, yn bwysig, symud ymlaen â’r meysydd allweddol a amlygwyd. Er enghraifft, ym Mhrifysgol Caerdydd, mae tîm y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN) bellach yn gweithio gydag ysgolion cynradd i ddeall anghenion mislif pobl iau a pha arferion presennol sy’n bodoli i gynorthwyo dysgwyr mewn ysgolion.

Ariannwyd y gweithdy gan ddyfarniad Grant Bach Arloesi Prifysgol Metropolitan Caerdydd.  

Trefnwyr y gweithdy:-

Prifysgol Metropolitan Caerdydd: Dr Lauren Copeland, Dr Christine McKnight a Dr Sarah Brown

Prifysgol Caerdydd: Dr Kelly Morgan, Dr Alison Cooper a Dr Robyn Jackowich

Mae Dr Kelly Morgan yn Uwch Gymrawd Ymchwil yn DECIPHer a Dirprwy Gyfarwyddwr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn datblygu a gwerthuso ymyriadau cymhleth sydd â’r nod o gynyddu gweithgarwch corfforol, gwella ymddygiadau deietegol a chanlyniadau iechyd meddwl.