Mynd i'r cynnwys
Home » Lleisiau disgyblion a barn athrawon – Dull Ysgol Gyfan ar gyfer Lles Emosiynol a Meddyliol

Lleisiau disgyblion a barn athrawon – Dull Ysgol Gyfan ar gyfer Lles Emosiynol a Meddyliol

Fel rhan o’u gwerthusiad o’r dull ysgol gyfan o Ymdrin â Lles Emosiynol a Meddyliol, holodd ymchwilwyr y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyraethau Cymhleth er Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer) ddisgyblion ac athrawon mewn ysgolion cynradd ac uwchradd am les.
Dyma eu canfyddiadau

Yn 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y Fframwaith sy’n ymgorffori dull ysgol gyfan o ymdrin â lles emosiynol a meddyliol yn ganllaw statudol i ysgolion. Mae ymchwilwyr DECIPHer sy’n gweithio yng Nghanolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc yn cynnal gwerthusiadau o’r fframwaith hwn ac wedi nodi rhai canfyddiadau allweddol.

Yn 2023/24, siaradodd ymchwilwyr â 34 o ddisgyblion ysgol gynradd a 98 o ddisgyblion ysgol uwchradd fel rhan o’r gwerthusiad, i’w holi am weithgareddau llais yn eu hysgolion a pha mor effeithiol ydynt. Er bod disgyblion wedi dweud wrth ymchwilwyr fod newidiadau cadarnhaol yn digwydd o ganlyniad i’r gweithgareddau llais hyn, roedd rhai rhwystrau o hyd o ran effeithiolrwydd a chyrhaeddiad.

Yn seiliedig ar yr ymweliadau hyn, ailymwelodd ymchwilwyr â saith ysgol uwchradd i ofyn i’r un bobl ifanc raddio 14 eitem o ran eu pwysigrwydd i’w lles. Ceir crynodeb o’r pump uchaf isod, ynghyd â phoster sy’n manylu ar yr holl safleoedd.

Cyfwelwyd ag athrawon hefyd fel rhan o’r gwerthusiad. Siaradodd ymchwilwyr â 36 o staff ysgol am eu harferion presennol mewn perthynas â lles emosiynol a meddyliol a’u barn ar gyflwyno’r fframwaith yn eu hysgolion. Trafododd yr athrawon ffactorau oedd yn cefnogi ac yn herio gweithrediad y fframwaith, a sut roedd y dull ysgol gyfan yn cyd-fynd â’u harferion presennol. Gallwch ddarllen y posteri isod i gael trosolwg manylach o’r cyfweliadau.

Dywedodd y Prif Ymchwilydd Dr Rachel Brown:

Ail-ymwelwyd â’r ysgolion a gymerodd ran flwyddyn ar ôl yr ymweliad cyntaf i weld sut roedd pethau’n mynd ac i drafod cyflwyno fframwaith y dull ysgol gyfan. Dywedodd staff yr ysgolion fod llawer o’r materion a drafodwyd y llynedd yn dal i fod yn her, gan gynnwys cyfraddau uchel o broblemau mwy cymhleth ymhlith dysgwyr, yn ogystal â diffyg amser ac adnoddau i gefnogi lles meddwl.

Ar gyfer y Fframwaith, roedd y rhan fwyaf o ysgolion ar gam o’r broses gyflwyno ac roedd cefnogaeth gan arweinwyr ardal y dull ysgol gyfan yn ddefnyddiol. Siaradon ni hefyd gyda dysgwyr am eu barn ar yr hyn oedd bwysicaf ar gyfer lles. Ffrindiau, oedolyn dibynadwy a theimlo bod rhywun yn gwrando oedd bwysicaf, a nododd y rhan fwyaf o ddysgwyr oedolyn yr oedden nhw’n teimlo y gallen nhw droi atynt pe bai angen. Roedd y farn ar lais y disgybl yn eithaf cymysg, gyda rhai yn gweld newidiadau gwirioneddol yn eu hysgolion yn ei sgil ac eraill yn teimlo ei fod yn aneffeithiol. Byddwn yn parhau i ddadansoddi’r data a chyhoeddi canlyniadau, yn ogystal â chyflwyno mewn gweminar SHRN yn y dyfodol.  

Mae’r posteri i’w gweld isod:

Deunydd darllen pellach

Newidiadau a heriau: Sut brofiad o les sydd gan athrawon ysgol?

Yn ddiogel fel… ysgolion? Ble a gyda phwy mae disgyblion yn teimlo’n fwyaf diogel?

Protocol llawn

Tudalen astudio DECIPHer

Llywodraeth Cymru Fframwaith ar sefydlu dull ysgol gyfan ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol

Flog: Defnyddio dull ysgol gyfan ar gyfer iechyd meddwl yng Nghymru