
Ystyr PAG yw Grŵp Cynghori Rhieni. Grŵp cynghori ymchwil sy’n cynnwys rhieni a gofalwyr o bob rhan o Gymru yw PAG, ac mae’n rhan allweddol o waith Cynnwys y Cyhoedd yn DECIPHer.
Nod

Nod PAG yw gweithio gydag ymchwilwyr iechyd y cyhoedd yn DECIPHer, gan roi cyngor a mewnwelediad i farn, safbwyntiau a phrofiadau rhieni ar bynciau iechyd y cyhoedd a gwaith ymchwil sy’n berthnasol iddynt. Nod DECIPHer yw gwobrwyo rhieni trwy roi profiadau cyfoethog iddynt, cyfleoedd i feithrin gallu a sicrhau ein bod yn gwrando ar farn rhieni ac yn eu cynnwys yn ein prosesau gwneud penderfyniadau am ein gwaith ymchwil.
Dyma amcanion PAG:

- Gwneud ein gwaith ymchwil yn fwy perthnasol – fel bod canlyniadau’r gwaith ymchwil yn fwy tebygol o fod o fudd i iechyd y cyhoedd a’r boblogaeth.
- Cynyddu’r tebygolrwydd y bydd ein gwaith ymchwil yn dderbyniol i ddarpar gyfranogwyr – yn enwedig pan fyddwn yn ymdrin â phynciau sensitif neu ddadleuol.
- Gwella’r broses caniatâd gwybodus – gan ei gwneud yn haws i ddarpar gyfranogwyr ddeall y gwaith ymchwil, ei risgiau a’i fanteision posibl. ·
- Gwella’r profiad o gymryd rhan mewn gwaith ymchwil – gwirio bod y trefniadau ymarferol ar gyfer cyfranogwyr yn briodol ac yn ddefnydd parchus o amser pobl.
- Gwella cyfathrebu/lledaenu cynnydd a chanfyddiadau gwaith ymchwil i gyfranogwyr a’r cyhoedd yn ehangach – er mwyn gwella’r effaith y gall ein gwaith ymchwil ei chael.
Cysylltwch â Thîm Cynnwys y Cyhoedd DECIPHer drwy e-bostio:
Decipherpublicinvolvement@cardiff.ac.uk
Dyma’r tîm

Dr Jeremy Segrott
Arweinydd Academaidd

Sophie Jones
Uwch Swyddog Cynnwys y Cyhoedd

Sarah Collins
Cynorthwyydd Gweinyddol Cyffredinol
