Mynd i'r cynnwys
Home » Dilyn Ein Cwrs Byr Ar-lein: Sut Aeth Hi?

Dilyn Ein Cwrs Byr Ar-lein: Sut Aeth Hi?

  • Flog

Ar 28 Ionawr 2021, cynhaliodd Peter Gee, Jeremy Segrott, aelodau ALPHA ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru sesiwn ar-lein gyntaf y cwrs byr ‘Sut i Gynnwys Pobl Ifanc wrth Gynllunio a Chynnal Ymchwil’. Yma, mae Pete yn trafod sut y trawsnewidiwyd y cwrs o fod yn un wyneb yn wyneb i’w gynnal ar-lein.

Peter Gee

Nawr fod llawer ohonom wedi addasu i weithio a dysgu o bell, roedd yn anochel y byddai’n rhaid i ni symud ein cwrs byr ar-lein hefyd. Er bod galw o hyd i redeg y sesiwn*, roedden ni am wneud yn siŵr y byddai’r gweithdy ar-lein yn cael yr un effaith.

Cryfder y gweithdai blaenorol, yn ein barn ni, oedd yr elfen ryngweithiol. Sut oedd mynd ati i greu hyn ar-lein? Yn ôl eu harfer, roedd gan dîm ALPHA (y bobl ifanc sy’n cynghori ein hymchwilwyr), syniadau rhagorol, gan edrych ar yr hyn sy’n gweithio yn ein sesiynau ar-lein ein hunain.

Penderfynwyd y dylai’r cwrs fod yn 2.5 awr (fel arfer byddai sesiynau wyneb yn wyneb yn para diwrnod). Roedden ni am osgoi aflwydd ‘blinder Zoom’ ac yn teimlo bod hwn yn hyd rhesymol (yn cynnwys dwy egwyl). Fe’i rhannwyd yn dair:

Safonau Cynnwys y Cyhoedd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a dulliau o gynnwys plant a phobl ifanc mewn ymchwil;


Enghreifftiau o astudiaethau achos i ddangos y dulliau allweddol, yr hyn sy’n hwyluso a’r hyn a all rwystro cynnwys y cyhoedd, a’r effeithiau posibl;


Sesiwn ymarferol, gyda’r cynrychiolwyr yn cymhwyso eu dysgu i ddatblygu cynllun ar gyfer cynnwys plant/pobl ifanc yn eu prosiectau ymchwil neu syniadau ymchwil eu hunain.

Dechreuodd y sesiwn gyda ‘Storm Post It’ ar Padlet (hysbysfwrdd rhyngweithiol ar-lein) (chwith) i fesur yr hyn roedd mynychwyr am ei ddysgu a chadw’r sesiwn yn berthnasol i’w diddordebau.

Cadwon ni’r sesiynau grwp – gan ddefnyddio ystafelloedd grwpiau Zoom a hefyd Mentimeter, ap i greu cyflwyniadau gydag adborth mewn amser real (isod) i helpu i sicrhau bod yr hyfforddiant mor rhyngweithiol â phosibl.

Un o’r pethau atyniadol am yr hyfforddiant hwn oedd clywed yn uniongyrchol gan y bobl ifanc sy’n ymwneud ag ALPHA. Yn ffodus i ni, roedd Bethan, Elina ac Issy ar gael i helpu i gynllunio, rhedeg a hwyluso’r sesiwn – a gwneud hynny’n wych.

Roedd adborth mynychwyr yn gadarnhaol:

‘Roedd yn help cael ‘defnyddio’ rhywfaint o’r offer rydych chi’n eu ‘defnyddio’ – wrth fynd yn ôl i sesiynau wyneb yn wyneb byddai’n ddefnyddiol cadw’r elfen hon!’

‘Defnyddiol iawn, yn enwedig cael aelodau Alpha yn rhan o’r sesiwn.’

‘Rydych chi wedi fy ysbrydoli. Bu’n 2.5 awr gyfoethog iawn. Diolch!’

*I gloi, roedd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Jeremy a minnau’n hapus iawn gyda sut aeth y diwrnod, a dim tacluso ar y diwedd, sy’n fonws! Ond o gael y dewis, allwch chi ddim curo cyfarfod wyneb yn wyneb. Croesi bysedd y bydd hyn yn bosibl y flwyddyn nesaf.

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau byr DECIPHer.

*Pan ddaeth hi’n amser i bobl archebu lle ar y cwrs, roedd hi’n araf iawn, ac achosodd hynny nifer o nosweithiau di-gwsg i mi yn pendroni a ddylwn i ohirio! Yn y diwedd, roedd y cwrs yn llawn, gyda phobl yn archebu’n nes at yr amser. Wrth edrych yn ôl, mae’n debyg fod hyn am ei bod yn anodd cynllunio ymlaen llaw mewn pandemig a gofynion gweithio gartref, addysgu yn y cartref ac ati.