Mynd i'r cynnwys
Home » Beth yw’r swm cywir o fwyd i blant oed cyn-ysgol?

Beth yw’r swm cywir o fwyd i blant oed cyn-ysgol?

  • Flog

Mae Alice Porter yn trafod ei gwaith ymchwil PhD ar feintiau dognau sy’n briodol i blant oed cyn-ysgol ac yn myfyrio ar ei lleoliad byr gyda DECIPHer

Alice Porter

Maint dogn yw faint o fwyd a/neu ddiod sy’n cael ei weini neu ei fwyta gan rywun. Gwyddom o’r gwaith ymchwil ei bod yn bwysig sicrhau bod meintiau dognau’n gywir ar gyfer twf plant. Bydd gweini’r swm cywir o fwyd a diod yn helpu plant i fwyta diet cytbwys iach, ar gyfer tyfu’n iach(1). Ar y llaw arall, os yw plant yn bwyta dognau rhy fawr yn rheolaidd, gall hyn arwain at fagu gormod o bwysau(2), a all arwain at broblemau iechyd yn ddiweddarach mewn bywyd(3).

Ychydig am fy lleoliad DECIPHer


Sicrheais gyllid gan Gronfa Cymorth Polisi Research England i wneud gweithgareddau sy’n cefnogi’r gwaith o lunio polisïau ar sail tystiolaeth. Fel rhan o’r cyllid hwn, penderfynais wneud lleoliad byr ar y cyd â DECIPHer ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Nod y lleoliad oedd cael cipolwg ar sut y gall ymchwilwyr weithio’n llwyddiannus gyda llunwyr polisïau a sut i gynnal gwaith ymchwil yn effeithiol a all lywio polisi. Rwyf wedi cael y pleser o gwrdd â sawl cydweithiwr yn DECIPHer i ddysgu o’u profiadau. Rwyf wedi gweithio gyda chydweithwyr i ddadansoddi data Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr a llunio papur briffio polisi ar gyfer Gweinidogion Cymru. Rwyf hefyd wedi mynychu cwrs byr Arloesedd Methodolegol ym maes Gwyddoniaeth Iechyd Cyhoeddus ac Ymyriadau, sydd wedi gwella fy ngwybodaeth am ddatblygu, addasu a gwerthuso ymyriadau. Mae fy lleoliad wedi bod yn brofiad gwerthfawr iawn. Rwy’n bwriadu cadw mewn cysylltiad â chydweithwyr yn DECIPHer ar gyfer cydweithio yn y dyfodol a defnyddio’r profiad a gefais ar fy lleoliad i wella fy ymarfer ymchwil fy hun.

Am beth oedd fy ymchwil PhD?


Roedd fy ngwaith ymchwil PhD yn edrych i weld a oes canllawiau ar feintiau dogn addas ar gael i roddwyr gofal sy’n bwydo plant oed cyn-ysgol (e.e. rhieni, gofalwyr, staff gofal plant), sut mae rhieni’n gwneud penderfyniadau ynghylch faint i roi i’w plant oed cyn-ysgol, a pha ffactorau allai ddylanwadu ar faint mae plant oed cyn-ysgol yn ei fwyta amser bwyd ac adeg byrbrydau.

Beth wnes i


Yn gyntaf, gwnes adolygiad systematig o adnoddau cyfarwyddyd ar feintiau dognau ar-lein (pethau fel taflenni ar-lein, gwefannau a dogfennau cyfarwyddyd) gyda’r nod o hysbysu rhoddwyr gofal am y meintiau dognau a argymhellir ar gyfer plant oed cyn-ysgol. Fe wnes i hyn trwy chwilio Google a gofyn i arbenigwyr. Fe wnes i goladu a chymharu’r adnoddau.

Fe wnes i archwilio a oedd ble mae plentyn yn bwyta, gyda phwy mae’n bwyta, eistedd wrth fwrdd wrth fwyta a gwylio’r teledu wrth fwyta yn gysylltiedig â bwyta prydau a byrbrydau mwy

Ar ôl coladu’r adnoddau cyfarwyddyd ar feintiau dognau, fe’u dangosais wedyn i rieni tro cyntaf sy’n byw yn y DU, a oedd â phlentyn 1-2 oed. Gofynnais i’r rhieni a oeddent yn adnabod neu’n defnyddio unrhyw rai o’r adnoddau a beth oedd eu barn am fformat, cynnwys a chynllun yr adnoddau. Gofynnais hefyd i rieni sut y gwnaethant benderfynu maint y dognau i weini i’w plentyn. Fe wnes i hyn trwy gyfweliadau ar-lein.

Edrychais hefyd ar ddata o arolwg cenedlaethol mawr, sy’n casglu gwybodaeth am beth, faint, ble a phryd mae plant yn bwyta (Arolwg Deiet a Maeth Cenedlaethol). Dadansoddais y data i weld a yw’r amgylchedd y mae plant yn bwyta ynddo yn gysylltiedig â faint y maent yn ei fwyta. Archwiliais a oedd ble mae plentyn yn bwyta, gyda phwy y mae’n bwyta, eistedd wrth fwrdd wrth fwyta a gwylio’r teledu wrth fwyta yn gysylltiedig â bwyta prydau a byrbrydau mwy.

Yr hyn a ddarganfyddais


Deuthum o hyd i lawer o adnoddau cyfarwyddyd ar feintiau dognau ar-lein, sy’n darparu argymhellion maint dognau i roddwyr gofal sy’n bwydo plant oed cyn-ysgol (22, mewn gwirionedd!). Roedd rhai o’r adnoddau’n argymell prydau iach i’w gweini i blant oed cyn-ysgol gyda’r meintiau dogn a argymhellir ar gyfer pob math o fwyd yn y pryd a ddarperir. Roedd adnoddau eraill yn cyflwyno meintiau dognau a argymhellir ar gyfer llawer o wahanol fwydydd ym mhob grŵp bwyd (startsh, llaeth, protein, ffrwythau a llysiau). Fodd bynnag, weithiau nid oedd y meintiau dognau a argymhellir yr un peth ar draws gwahanol adnoddau. Roedd hyn yn arbennig o wir am fwydydd yn y grwpiau bwyd llaeth, bwyd llawn starts a phrotein ac ar gyfer prydau amser cinio a swper.

Canfûm fod plant yn bwyta prydau mwy a byrbrydau pan oeddent yn bwyta gydag aelodau o’r teulu a ffrindiau (gallai hyn ymwneud â dylanwad cymdeithasol) a phan oeddent yn bwyta yn eistedd wrth fwrdd. Roedd dognau mwy hefyd yn cael eu bwyta wrth wylio’r teledu, o gymharu â pheidio â gwylio’r teledu

Ar ôl dangos nifer o’r adnoddau cyfarwyddyd i rieni tro cyntaf, roedd yn amlwg, er bod yr adnoddau ar gael am ddim ar-lein, nad oedd rhieni wedi eu gweld na’u defnyddio o’r blaen. Roedd hyn oherwydd nad oedd rhieni’n defnyddio’r canllawiau i benderfynu ar faint y dognau i weini i’w plentyn oed cyn-ysgol. Yn lle hynny roedden nhw’n defnyddio maint platiau a phowlenni (rhai i blant yn aml), maint pecynnau bwyd a’r profiad roedden nhw wedi’i gael o fwydo eu plentyn bob dydd. Teimlai rhieni nad oedd angen iddynt ddibynnu ar arweiniad oherwydd eu bod wedi dysgu faint mae eu plentyn yn ei fwyta bob pryd bwyd ac roeddent am gael eu harwain gan eu plentyn. Dywedodd rhieni hefyd nad oeddent yn poeni bod eu plentyn yn bwyta gormod, yn hytrach eu bod am sicrhau bod eu plentyn yn bwyta digon. Dywedodd rhieni eu bod yn chwilio am gyngor bwydo ar-lein a thrwy ffynonellau eraill wrth ddiddyfnu (cyflwyno bwydydd solet i blant tua 6 mis oed). Pan oedd rhieni’n chwilio am arweiniad, roeddent am iddo ddod o ffynhonnell y gellir ymddiried ynddi (fel y GIG) a hefyd iddo fod yn fyr, yn gryno, yn glir, yn weledol ac yn hawdd dod o hyd iddo.

Ar ôl dadansoddi data’r arolwg, canfûm y gallai’r amgylchedd bwyd effeithio ar faint y dognau y mae plant oed cyn-ysgol yn eu bwyta. Darganfûm pan oedd plant yn bwyta mewn bwytai a chaffis ac mewn gofal plant eu bod yn bwyta prydau a byrbrydau mwy. Ar gyfartaledd, roedd plant oed cyn-ysgol yn bwyta 90 o galorïau yn fwy mewn bwytai a chaffis o gymharu â phan oeddent yn bwyta gartref. Canfûm fod plant yn bwyta prydau mwy a byrbrydau pan oeddent yn bwyta gydag aelodau o’r teulu a ffrindiau (gallai hyn ymwneud â dylanwad cymdeithasol) a phan oeddent yn bwyta yn eistedd wrth fwrdd. Roedd dognau mwy hefyd yn cael eu bwyta wrth wylio’r teledu, o gymharu â pheidio â gwylio’r teledu.

Tair neges i’w cadw yn y cof

  • Mae adnoddau cyfarwyddyd ar feintiau dognau wedi’u lledaenu ar-lein ond nid ydynt wedi cyrraedd rhieni, ac nid dyma’r ffordd fwyaf effeithiol ychwaith o addysgu rhieni am bwysigrwydd gweini meintiau dognau sy’n briodol i’w hoedran ar gyfer eu plant oed cyn-ysgol.
  • Dylai strategaethau yn y dyfodol ystyried darparu canllawiau ar feintiau dognau sy’n briodol i’w hoedran i rieni am y tro cyntaf yn ystod blwyddyn gyntaf eu plentyn, pan fydd rhieni’n barod i dderbyn cyngor ar fwydo. Dylai’r broses o ddarparu canllawiau gyd-fynd â chymhellion rhieni, dewisiadau ac arferion bwydo presennol.
  • Mae’n bwysig ystyried yr amgylchedd y mae plant oed cyn-ysgol yn bwyta ynddo wrth hyrwyddo meintiau dognau sy’n briodol i’w hoedran.

Rwy’n bwriadu defnyddio’r hyn a ddysgwyd o fy PhD i gyfrannu at ymchwil newydd a phwysig ar ordewdra ymhlith plant.


  • (1) Nicklaus S. The Role of Dietary Experience in the Development of Eating Behavior during the First Years of Life. Ann Nutr Metab. 2017;70(3):241-245. doi:10.1159/000465532
  • (2) Syrad H, Llewellyn CH, Johnson L, et al. Meal size is a critical driver of weight gain in early childhood. Sci Rep. Jun 20 2016;6:28368. doi:10.1038/srep28368
  • (3) Koletzko B, Godfrey KM, Poston L, et al. Nutrition During Pregnancy, Lactation and Early Childhood and its Implications for Maternal and Long-Term Child Health: The Early Nutrition Project Recommendations. Ann Nutr Metab. 2019;74(2):93-106. doi:10.1159/000496471

Mae Alice Porter yn Gydymaith Ymchwil ym Mhrifysgol Bryste, a ymunodd â DECIPHer am leoliad byr ym mis Mai a mis Mehefin 2022. Mae ei chyfrif Twitter i’w weld yma.