Ymunodd Dr Max Ashton â’r Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer) ym mis Ebrill 2024 fel Cynorthwy-ydd Ymchwil yn y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN). Yma, mae’n esbonio sut bydd ei gefndir ym maes ymchwil iechyd yn cynorthwyo gweithgareddau’r Rhwydwaith
Yn rhan o’r Cwricwlwm Cenedlaethol newydd i Gymru, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cwricwlwm addysg cydberthynas a rhywioldeb (ACRh) statudol newydd ar gyfer ysgolion Cymru. Mae’n disodli’r addysg rhyw a pherthnasoedd (ARhPh) flaenorol a oedd wedi dyddio. Datblygwyd ACRh yn raddol yng Nghymru rhwng 2016 a 2022, yn ystod proses fywiog a deinamig o ddiwygio polisïau ac arferion. Gwnaethpwyd hyn drwy ymgysylltu â rhanddeiliaid amrywiol, gan gynnwys llunwyr polisïau, athrawon, rhieni a gofalwyr, plant a phobl ifanc, ac ymchwilwyr academaidd.
Cefais y fraint o ddechrau fy ngyrfa ymchwil yn ystod y cyfnod hwn o newid cythryblus a blaengar. Roeddwn yn fyfyriwr PhD wedi fy ariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) yn edrych ar safbwyntiau athrawon a’u profiadau o newid o ARhPh i ACRh. A minnau wedi cwblhau fy mhrosiect PhD yn ddiweddar, rwyf newydd ddechrau fy swydd academaidd gyntaf fel Cynorthwy-ydd Ymchwil yn DECIPHer. Yno, rwy’n cynorthwyo gweithgareddau’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN).
Er bod tystiolaeth ymchwil ryngwladol sy’n dod i’r amlwg yn awgrymu bod dulliau gweithredu sy’n cynnwys yr ysgol gyfan yn cyfrannu at welliant addysgol, gall mapio eu heffeithiau ar draws cwricwla ysgolion fod yn dalcen caled.
Mae ymchwil ar bynciau sy’n gysylltiedig ag iechyd, gan gynnwys profiadau plant a phobl ifanc o berthnasoedd, rhywedd a rhywioldeb, o reidrwydd yn golygu edrych ar faterion cymhleth. Mae iechyd ar ei ben ei hun yn faes cymhleth ac amlweddog. Mae’n cynnwys elfennau sy’n ymwneud â gwleidyddiaeth, crefydd, diwylliant, hil, ffactorau ysbrydol, rhywedd, rhyw, a dosbarth, yn ogystal â fframweithiau eraill o ddealltwriaeth ac ystyr. Felly, mae ymchwilio i bynciau iechyd yn golygu bod gwyddonwyr cymdeithasol yn gorfod ymgysylltu nid yn unig â’r pethau y mae pobl yn eu dweud ac yn eu meddwl, ond hefyd eu profiadau mewnol ac emosiynol o hunaniaeth (1).
Yn y Cwricwlwm i Gymru, cyflwynir llawer o bynciau sy’n ymwneud ag iechyd gan gynnwys ACRh, hawliau dynol, amrywiaeth, a gwella iechyd a lles dysgwyr, trwy ‘ddull sy’n cynnwys yr ysgol gyfan’. Er bod tystiolaeth ymchwil ryngwladol sy’n dod i’r amlwg yn awgrymu bod dulliau gweithredu sy’n cynnwys yr ysgol gyfan yn cyfrannu at welliant addysgol, gall mapio eu heffeithiau ar draws cwricwla ysgolion fod yn dalcen caled.
Mae gweithio gyda rhwydwaith SHRN yn teimlo fel cam cyntaf perffaith i’m gyrfa ymchwil.
Felly, mae ymchwilio i bynciau iechyd yn golygu bod angen amrywiaeth a hyblygrwydd methodolegol. I rai ymchwilwyr, mae hyn yn golygu datblygu arbenigedd dwfn mewn ystod fach o ddulliau penodol – ond i mi, mae’n golygu ymrwymiad i ddefnyddio nifer o wahanol ddulliau ymchwil. Mewn gwaith blaenorol, rwyf wedi ymchwilio i’r pynciau hyn trwy ddulliau ansoddol ac ôl-ansoddol amrywiol. Mae hyn wedi cynnwys cyfweld, arsylwadau ethnograffig, recordio fideo a sain, ffotograffiaeth, cynhyrchu barddoniaeth ar sail data ymchwil, ac edrych ar wreiddiau etymolegol y geiriau y mae’r rhai sy’n cymryd rhan yn eu defnyddio i drafod addysgu a dysgu ym maes ACRh (2).
Yn fy rôl newydd gyda rhwydwaith SHRN, rwy’n gloywi fy sgiliau ymchwil meintiol a gweinyddol, yn cynorthwyo’r rhwydwaith i ddiweddaru metadata mewn arolygon, yn datblygu cynnwys newydd ar gyfer Holiaduron Amgylchedd yr Ysgol* a ddosbarthwyd i arweinwyr yr ysgolion sy’n cymryd rhan, yn ogystal â chynnal dadansoddiadau o dueddiadau sy’n dod i’r amlwg mewn data o arolygon diweddar. Mae fy ngwaith yn ehangu i feysydd eraill ymchwil iechyd hefyd y tu hwnt i ACRh, gan gynnwys defnydd plant a phobl ifanc o fêps/e-sigaréts.
Mae gweithio gyda rhwydwaith SHRN yn teimlo fel cam cyntaf perffaith i’m gyrfa ymchwil ar ôl cwblhau prosiect PhD a wynebodd heriau o ganlyniad i effeithiau parhaol pandemig COVID-19. Wrth edrych i’r dyfodol, fy nod yw parhau i ddefnyddio sgiliau ymchwil amrywiol wrth astudio pynciau cymhleth perthnasoedd, rhywioldeb, iechyd a lles, er mwyn helpu i wella addysg yng Nghymru yn barhaus.
- Ashton, M. R. 2024. Re\Assembling Welsh relationships and sexuality education: A post-qualitative journey through dynamic policy-practice contexts. PhD Thesis, Cardiff University.
- Renold, E., Ashton, M. R. and McGeeney, E. 2021. What if?: becoming response-able with the making and mattering of a new relationships and sexuality education curriculum. Professional Development in Education 47(2/3), pp. 538-555. (10.1080/19415257.2021.1891956).