Mynd i'r cynnwys
Home » Cyfle i Gwrdd â’r Cymrodorion o Namibia: Kavena Shalyefu

Cyfle i Gwrdd â’r Cymrodorion o Namibia: Kavena Shalyefu

  • Flog

Mae Rakel Kavena Shalyefu (a elwir yn Kavena) yn Athro Cyswllt Dysgu Gydol Oes a Datblygu Cymunedol ym Mhrifysgol Namibia. Mae’n un o Gymrodorion Prosiect Phoenix sy’n ymweld â DECIPHer. Yma, mae’n sôn am yr hyn y mae’n gobeithio ei gyflawni yn ystod ei harhosiad.


Dywedwch wrthym am eich gwaith yn Namibia.

Rwy’n Gynrychiolydd Gwlad i’r Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Addysgu a Dysgu ym maes Addysg Uwch (HETL), un o gynrychiolwyr UNAM ar Fforwm Dysgu ac Addysgu Prifysgolion De Affrica (SAULT) ac yn rhan o Sefydliad Addysg, Gwyddoniaeth a Diwylliant y Cenhedloedd Unedig (UNESCO). Rwyf wedi cael hyfforddiant i ddod yn gynllunydd hyfforddiant, yn ymchwilydd, yn addysgwr, yn ganolwr, yn gynghorydd, yn ymgynghorydd, yn arbenigwr addysg o bell, yn ddatblygwr proffesiynol academaidd ac yn addysgwr cymunedol ym meysydd datblygu cymdeithasol, iechyd meddwl a lles.

Pam roeddech am fod yn rhan o gynllun Cymrodoriaethau Proffesiynol y Gymanwlad?


Mae ffactorau cyd-destunol a’r amgylchedd dan sylw’n tarfu ar addysg merched mewn llawer o wledydd yn barhaus. Yn y rhan fwyaf o achosion, nid ydynt wedi gorffen eu haddysg, sy’n golygu eu bod yn cael eu hamddifadu o addysg. Mewn llawer o wledydd, mae eu haddysg yn cael ei hatal cyn ei gorffen am lawer o resymau, fel priodas gynnar neu feichiogrwydd, gwaith y tŷ, credoau diwylliannol, rolau’r rhywiau, ymyleiddio ac anghydraddoldeb, i enwi ond ychydig. Yn bwysig, nid yw addysg ar gael i rai merched am resymau ychwanegol, fel crefydd, diwylliant neu dlodi. O ganlyniad, mae llawer o rwystrau y mae angen eu chwalu o safbwynt arloesol.

A minnau’n Gymrawd, rwyf wedi cael fy nghyflwyno i’r wybodaeth, y sgiliau a’r agweddau sy’n berthnasol i ymyriadau arloesol a all helpu i newid y status quo. Rwy’n teimlo’n ffodus i sicrhau’r gymrodoriaeth arbennig hon.

L-R: Rosa PersendtRachel FreemanSimon Murphy, Kaven

Beth yw eich nodau tra byddwch yma?


Gobeithio y bydd ein prosiectau newid yn sicrhau newidiadau i addysg merched mewn rhanbarthau a gwledydd eraill. Rwy’n teimlo’n ffodus i gael fy newis i gychwyn neu fod yn rhan weithredol o’r prosiectau newid, naill ai i gefnogi’r hyn sy’n bodoli eisoes neu ddatblygu ymyriadau mwy arloesol drwy gael rhanddeiliaid i wneud ymdrech gydweithredol sy’n cael effaith sylweddol yn fy ngwlad.

Beth rydych yn edrych ymlaen at gael gwybod amdano fwyaf tra byddwch yma yng Nghaerdydd?


Mae’r cyfle hwn yn ychwanegu at lwybr fy ngyrfa ac yn rhoi hwb i fy CV. Edrychaf ymlaen at ychwanegu gwerth at yr ymyriadau lliniarol presennol. Byddaf yn canolbwyntio’n arbennig ar sgiliau bywyd i bobl ifanc ac oedolion drwy ddefnyddio ymyriadau digidol. Ar hyn o bryd, rwy’n ystyried cynllunio prosiect newid drwy ddefnyddio ymyriadau digidol. Y bwriad yw defnyddio Facebook, Instagram, TikTok, WhatsApp a phodlediadau’n arbennig i frwydro yn erbyn y trais ar sail rhywedd sydd mor gyffredin yn Namibia. Rwyf wedi cael fy atgoffa i beidio â gweithio mewn seilos. Oherwydd hynny, rwy’n awyddus i ddod â rhanddeiliaid ac unigolion eraill sy’n rhan o gynllun Cymrodoriaethau Proffesiynol y Gymanwlad ynghyd i gynllunio, datblygu, cyflwyno a gwerthuso’r prosiectau newid terfynol yn genedlaethol ac yn unigol.

Beth yw uchafbwynt eich arhosiad?


Cefais fy ysbrydoli gan Bafiliwn Grange yn Grangetown. Hoffwn drefnu i gael man hygyrch a chymunedol tebyg yn Namibia.

Mae cyfrif Twitter Kavena ar gael yma: https://twitter.com/kshalyefu. Mae rhagor o wybodaeth am Brosiect Phoenix ar gael yma: https://www.cardiff.ac.uk/cy/phoenix-project.