Mynd i'r cynnwys
Home » Cyfle i gwrdd â’r cymrodorion o Namibia: Ndinelago (Dina) Shilongo 

Cyfle i gwrdd â’r cymrodorion o Namibia: Ndinelago (Dina) Shilongo 

  • Flog

 

 

Mae Prosiect Phoenix wedi trefnu bod DECIPHer yn croesawu chwech o weithwyr proffesiynol o Namibia sydd yng nghanol eu gyrfa, i gydweithio â’n hymchwilwyr. Yma, ym mlog tri, gofynnwn i Ndinelago (Dina) Shilongo am ei phrofiadau.

 

 

Beth yw eich gwaith yn Namibia?


Rwy’n Uwch Swyddog Addysg yn y Weinyddiaeth Addysg, y Celfyddydau a Diwylliant. Rwy’n sicrhau amgylchedd addysgu a dysgu iach ar gyfer athrawon a dysgwyr mewn ysgolion. Yn Adran DATS (Y Gwasanaeth Hyfforddi a Chwnsela sy’n Cynghori ar Faterion Diagnostig), rydym yn canolbwyntio ar adnabod a nodi anghenion dysgwyr a’u diwallu trwy roi’r dysgwyr mewn cysylltiad â Darparwyr Gwasanaethau Allanol. Rydym yn cynghori ac yn hyfforddi athrawon a rhanddeiliaid eraill sy’n rhan o’r gwaith ac yn cynnig cymorth seicolegol i ddysgwyr. Rydym yn sicrhau bod rhaglenni iechyd ysgolion a’r Cwricwlwm Sgiliau Bywyd o Raddau 4-12, yn cael eu gweithredu, eu monitro a’u gwerthuso’n llawn.

Pam oeddech chi eisiau bod yn rhan o gynllun Cymrodoriaeth Broffesiynol y Gymanwlad?


Rwyf am gryfhau’r systemau iechyd a’r hyn y gallant eu cyflawni, mewn ysgolion, gan ganolbwyntio ar addysg o safon, iechyd da a lles dysgwyr, gan fynd i’r afael â thlodi ar yr un pryd.

Crwydro Caerdydd

Pa argraff mae wedi’i gadael arnoch chi hyd yn hyn?


Mae DECIPHer yn ganolfan ddysgu sy’n gweithio er lles, ac yn gyfeillgar. Mae’r staff yn wybodus ac yn ymwybodol yn ddyngarol, felly. Mae gwaith tîm yn dra phwysig i’r ganolfan, ac mae’n digwydd trwy gyd-greu a dulliau amlddisgyblaethol.

Beth yw’r nodau yr ydych am eu cyflawni tra byddwch chi yma?


Nodi’r bylchau a meithrin gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth angenrheidiol a fydd o fudd ac yn grymuso iechyd a lles merched.

Unrhyw brofiadau sy’n aros yn y cof hyd yn hyn?


Proffesiynol: Sut i ddatblygu a gwerthuso ymyriadau cymhleth ac ymyriadau y gellir eu haddasu, gan ymgorffori timau amlddisgyblaethol i’r gwaith – timau sy’n cyd-greu yn effeithiol wrth ddatblygu a gwerthuso ymyriadau. Mae sut i greu proses werthuso bragmatig sy’n casglu a rhannu gwybodaeth mewn ffordd ystyrlon ac sy’n ymateb i drais mewn ysgolion, hefyd wedi gwneud argraff arnaf. Mae pŵer dulliau creadigol o ran trafod materion sensitif gyda phobl ifanc, a sut a phryd i baratoi addysg ynghylch rhyw a pherthnasoedd ar gyfer pobl ifanc, hefyd yn faterion sy’n aros yn y cof.

Ar lefel bersonol: Ymweld â Chastell Caerdydd Bod yn Ewrop am y tro cyntaf — y diwylliant, y ffordd o fyw gymdeithasol, y tywydd, y natur, y drafnidiaeth a’r system wleidyddol.

Gallwch chi ddod o hyd i gyfrir Twitter Dina yma: @dee78638218. Mae rhagor o wybodaetth am brosiect Phoenix yma: https://www.cardiff.ac.uk/cy/phoenix-project.