Mynd i'r cynnwys
Home » Cynnal Gweithdy Ymchwil Tchd Ar-lein – Beth Ddysgom Ni?

Cynnal Gweithdy Ymchwil Tchd Ar-lein – Beth Ddysgom Ni?

  • Flog

Cyflwynodd Dr Rhiannon EvansDr Kelly Buckley a Bethan Pell weithdy rhithwir yng nghynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru eleni yn trafod dyfodol ymchwil i drais a cham-drin domestig. Yma, mae Bethan yn rhannu ei meddyliau ar y gweithdy

Yn gynharach eleni, hysbysebodd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru eu cynhadledd flynyddol, gan ofyn am gyflwyniadau cryno gan y rheini oedd â diddordeb mewn hwyluso gweithdy. Y thema eleni oedd: Gwneud Gwahaniaeth: Effaith Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Mae’r rhaglen ymchwil ryngddisgyblaethol ‘Perthnasau Cymdeithasol Iach’ newydd o fewn DECIPHer yn cynnwys pwyslais penodol ar drais a cham-drin domestig (TChD) Mae’r ganolfan yn cynnal ymchwil i’r maes hwn yn barod, ond golyga’r gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid ein bod wedi gallu datblygu ei blaenoriaethau ymchwil ar gyfer y dyfodol ymhellach.

Felly, penderfynodd Rhiannon, Kelly a minnau ysgrifennu a chyflwyno crynodeb gyda’r bwriad o hwyluso gweithdy ar sefydlu agenda ymchwil ar gyfer y dyfodol yng Nghymru. Yn dilyn adolygiad gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, dewiswyd Dyfodol Ymchwil Trais a Cham-drin Domestig yng Nghymru: Gosod Agenda ar gyfer Iechyd y Cyhoedd i fod yn un o’r gweithdai i’w hwyluso yn y gynhadledd.

Kelly, Rhiannon a Bethan

Beth yw TChD?

Diffinnir trais a cham-drin domestig fel ‘unrhyw ddigwyddiad neu batrwm o ddigwyddiadau o ymddygiad, trais neu gamdriniaeth reolgar, orfodol neu fygythiol rhwng pobl 16 oed neu hŷn sydd yn neu sydd wedi bod yn bartneriaid agos neu’n aelodau o’r teulu, waeth beth fo’u rhyw neu rywedd. Gall hyn gynnwys ond nid yw’n gyfyngedig i’r mathau canlynol o gamdriniaeth: seicolegol, corfforol, rhywiol, ariannol a/neu emosiynol’.

Mae TChD yn broblem iechyd cyhoeddus fyd-eang a allai effeithio ar unrhyw un. Mae’n gyffredin iawn, gydag amcangyfrifon fod 2.4 miliwn o oedolion 16-74 oed yn dioddef o TChD ar draws Cymru a Lloegr. Fodd bynnag, mae’r diffiniadau cyfreithiol o TChD yn golygu mai dim ond y rheini dros 16 oed a all gael eu herlyn, sy’n arwain at y camsyniad mai dim ond mewn perthnasau rhwng oedolion y gwelir TChD. Fodd bynnag, mae tystiolaeth yn dod i’r amlwg sy’n dangos y gall plant a phobl ifanc hefyd brofi TChD (e.e. Young et al, 2019). Mae ymchwil yn dangos effeithiau iechyd corfforol a seicolegol niweidiol TChD, sy’n tynnu sylw at yr angen am ymchwil o safon yn y maes hwn.

Paratoi yw popeth

Roeddem am hwyluso gweithdy diddorol i’n cyfranogwyr. Wrth gwrs, oherwydd COVID-19, byddai’r gynhadledd a’r gweithdy dilynol yn cael eu cynnal yn rhithwir. Roeddem yn dal i eisiau sicrhau y gallai’r gweithdy fod mor rhyngweithiol â phosibl a threuliom amser yn addasu ein gweithgareddau a’n trafodaethau, yn ymgyfarwyddo â’r platfform Crowdcast ac yn cynnal ymarferion technegol i sicrhau bod popeth yn rhedeg yn esmwyth ar y dydd!

Ein bwriad oedd cyflwyno’r ymchwil DECIPHer sy’n cael ei chynnal ar hyn o bryd a mynd i’r afael â TChD mewn tri lleoliad gwahanol: Treial JACK (ysgolion uwchradd), FReDA (sefydliadau trydydd sector) a’r Gwerthusiad Braenaru Iechyd (SafeLives) (gofal iechyd), gan roi gwybod i gyfranogwyr am y dystiolaeth gyfredol. Byddai hyn yn rhoi’r cefndir sydd ei angen i helpu’r grŵp i ganolbwyntio ar amcan cyffredin drwy gydol y gweithdy: mynd i’r afael â cham-drin domestig. Ein gobaith oedd cynnwys y cyfranogwyr mewn trafodaethau grŵp llai i fyfyrio ar y dystiolaeth hon, gyda’r nod o flaenoriaethu a chytuno ar flaenoriaethau ymchwil y dyfodol yng Nghymru.

Bant â ni…


Gwnaethom hwyluso’r gweithdy yn sesiwn prynhawn y gynhadledd, a gynhaliwyd ar 28 Hydref. Ar y dechrau, treuliom ychydig funudau’n cyflwyno ein hunain i’r cyfranogwyr, yn amlinellu strwythur y gweithdy ac yn rhoi gwybod iddynt am drefniadau cadw tŷ a’r rheolau sylfaenol.

Cyflwynom ein dealltwriaeth o TChD, a oedd yn cynnwys diffiniad presennol y Llywodraeth, yn ogystal â’n dealltwriaeth ehangach o ymchwil DECIPHer ddiweddar, sy’n rhoi gwybod i ni am gyffredinrwydd TChD ymysg y rheini sy’n iau nag 16. Roeddem yn teimlo ei bod hi’n bwysig darparu’r cyd-destun hwn i lywio sail y trafodaethau drwy gydol y gweithdy.

Gofynnom i’r cyfranogwyr nodi ar Mentimeter a’r cyfleuster sgwrsio yr hyn yr oeddent yn ei ystyried yn bwysig mewn ymchwil TChD. Ffurfiodd hyn weithgaredd rhyngweithiol cyntaf y gweithdy ac fe weithiodd yn dda iawn, oherwydd cafodd y cyfranogwyr lais tra’n parhau’n ddienw.

Yn dilyn hyn, cyflwynom Dreial JACK, y Gwerthusiad Braenaru Iechyd a FreDA i’r cyfranogwyr. Yna fe rannom yn ystafelloedd grwpiau bach ar gyfer y prif weithgaredd, lle gofynnom i’r cyfranogwyr drafod ac ystyried blaenoriaethau ymchwil, gan fyfyrio ar dystiolaeth gyfredol a’r cyd-destun Cymreig. Yn benodol, gofynnwyd iddynt feddwl am boblogaethau nas ymchwilir iddynt yn ddigonol; bylchau mewn ymchwil; cwestiynau sy’n cael eu colli; rhwystrau a hwyluswyr i’w harchwilio a heriau a phroblemau i’w hystyried.

Wrth gwrs, gyda hwn yn weithdy rhithwir, cafwyd ambell i wall technegol. Fodd bynnag, gwnaethom y gorau o’r sefyllfa a chafodd yr holl gyfranogwyr yn yr ystafelloedd grwpiau bach gyfle i gyfrannu at y drafodaeth.

Beth oedd y canlyniadau?

Isod ceir amlinelliad o’r blaenoriaethau ymchwil a’r meysydd o ddiddordeb a godwyd yn ystod y gweithgaredd cyntaf a’r sesiwn grwpiau bach.

Archwilio effaith COVID-19 ar ddarparu gwasanaethau TChD.
Atal plant rhag cael eu cymryd oddi wrth famau sydd wedi dioddef o gam-drin domestig.
Plant sy’n cyflawni TChD yn erbyn rhieni, neiniau a theidiau, brodyr a chwiorydd.
Cefnogi pobl ifanc 16-17 oed a allai dyfu i fod yn droseddwyr/dioddefwyr.
Cydweithredu rhwng y GIG a gwasanaethau trydydd sector TChD.
Trais ar sail anrhydedd a materion cysylltiedig.
Bylchau sy’n gysylltiedig â nodweddion gwarchodedig gwahanol/grwpiau o’r boblogaeth nas ymchwilir iddynt yn ddigonol/darpariaeth (sonnir yn benodol am y gymuned Teithwyr; Trais ar Sail Anrhydedd).
Cymorth/ymyriadau targedig i blant a phobl ifanc 13-18 oed i fynd i’r afael â TChD ac effaith COVID-19.
Cynnwys pobl ifanc yn y broses o benderfynu ar flaenoriaethau.


Myfyrdodau

Rydym i gyd yn ymgyfarwyddo â ffyrdd newydd o weithio, ac yn sicr fe roddodd y cyfle hwn brofiad i ni fyfyrio arno a dysgu ohono – yn arbennig y sgil allweddol o ddal ati pan nad yw’r dechnoleg ar yr un donfedd â chi!

Yn y pen draw, rhoddodd y gweithdy gyfle i ymgysylltu â rhanddeiliaid cyhoeddus a phennu rhai blaenoriaethau ymchwil allweddol. Megis dechrau y mae ein taith i osod yr agenda ar gyfer ymchwil TChD yng Nghymru yn y dyfodol, a diolchwn i Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru am y cyfle.

Gallwch wylio’r gweithdy rhithwir ar wefan YIGC yma: bit.ly/3lqn49d.