Mynd i'r cynnwys
Home » Diwrnod Rhyngwladol Y Menywod: Cyfweliad Gyda Dr Sara Jones

Diwrnod Rhyngwladol Y Menywod: Cyfweliad Gyda Dr Sara Jones

  • Flog

I nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2021, bu ein cydweithwyr ym Mharc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (SBARC) yn cyfweld â staff o ystod o wahanol rolau a chanolfannau ymchwil. Yma, mae Dr Sara Jones o DECIPHer yn siarad am lwyddiannau ei gyrfa, ei heriau a’i nodau at y dyfodol.

Sara Jones

Ar ôl cwblhau gradd a PhD mewn Daeareg Amgylcheddol ym 1999, ymunais â Phrifysgol Caerdydd y mis Hydref hwnnw fel aelod achlysurol o staff yn gweithio yn y Gofrestrfa. Yn dilyn hyn ymunais ag Ysgol y Biowyddorau fel Gweinyddwr PhD ac yna fel Swyddog Gweithredol yr Ysgol. Dechreuais fagu teulu yn 2001, a dwy flynedd yn ddiweddarach hysbysebwyd swydd Gweinyddwr y Ganolfan, i sefydlu canolfan ymchwil newydd yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol. Er bod hyn yn golygu symud o swydd barhaol i swydd tymor penodol, mentrais i ac rwyf yma ers hynny!

Mae rôl Rheolwr y Ganolfan yn amrywiol iawn, gan gwmpasu rheoli strategol, cynllunio cynaliadwyedd, rheolaeth ariannol, cymorth ymchwil ac AD, i enwi ond ychydig. Diolch byth yn DECIPHer mae gennym Dîm Cymorth Gwasanaethau Proffesiynol gwych sydd wedi cefnogi’r Ganolfan wrth iddi ddatblygu o lond llaw o staff i dros 45 o staff a myfyrwyr yn y ganolfan SOCSI yn unig.

Heb os, ein staff ymchwil a staff ein gwasanaethau proffesiynol yw ein hased mwyaf. Mae’r flwyddyn ddiwethaf hon, gyda chyfnodau clo COVID a gorfod gweithio gartref heb lawer o rybudd, wedi bod yn her, yn enwedig i’r rhai ohonom sydd â chyfrifoldebau gofalu, ond mae’r tîm wedi ymateb i hyn gyda phroffesiynoldeb a heb oedi. Ein her a’n cyfle mawr nesaf fydd symud i SPARK. Rydym yn awyddus i fod yn rhan o’r symudiad cyffrous hwn ac rydym yn edrych ymlaen at yr amgylchedd gwaith newydd, gan rannu mannau cydweithio â chydweithwyr o ganolfannau ymchwil eraill ac o bolisi ac arfer.

Gellir darllen y Trydariadau eraill yn y gyfres hon ar dudalen Twitter y Rhwydwaith Arloesedd.