Mynd i'r cynnwys
Home » Emma: Bydd yr interniaeth hon yn llywio’r hyn y byddaf yn ei ddilyn yn y dyfodol

Emma: Bydd yr interniaeth hon yn llywio’r hyn y byddaf yn ei ddilyn yn y dyfodol

  • Flog

Yn ddiweddar, cwblhaodd Emma Dixon, sy’n fyfyrwraig Troseddeg a Chymdeithaseg, leoliad haf yn DECIPHer. Mae’n myfyrio ar ei phrofiadau a’r hyn y mae wedi’i ddysgu.

Byddaf yn dechrau fy nhrydedd flwyddyn mewn Troseddeg a Chymdeithaseg (BSc) ym mis Medi, a phenderfynais wneud cais am interniaeth ar y campws er mwyn cael syniad o’r hyn y gallai gyrfa mewn ymchwil ei olygu, a chael rhywfaint o brofiad â phrosiectau ymchwil, yn barod ar gyfer fy nhraethawd estynedig yn y drydedd flwyddyn. Rwyf wedi bod â diddordeb mewn data meintiol ac iechyd y cyhoedd ers dechrau fy ngradd, a dewisais wneud cais i brosiect DECIPHer: ‘Iechyd a Lles: Cryfhau partneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG)’, sy’n integreiddio data meintiol, iechyd cyhoeddus yng Nghymru, a chyfle i gryfhau’r cysylltiad rhwng y SYG a DECIPHer. Ers dechrau’r interniaeth hon, mae fy niddordeb mewn ymchwil iechyd cyhoeddus wedi cynyddu’n aruthrol, a chredaf y bydd yr interniaeth hon yn llywio’r hyn y byddaf yn ei ddilyn yn y dyfodol.

Ychydig o gefndir

Mae fy ngwaith yn DECIPHer wedi cynnwys gweithio â data’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion a gesglir gan DECIPHer, ochr yn ochr â setiau data cenedlaethol (fel y rhai gan y SYG) er mwyn deall p’un a oes tebygrwydd neu wahaniaethau yn yr amcangyfrifon a lunnir, a beth allai’r rheswm fod dros hynny.  Edrychais yn benodol ar gyfraddau ysmygu a defnyddio e-sigaréts ymhlith y glasoed ac oedolion ifanc, gan fod hyn o ddiddordeb personol i mi. Hefyd, rwyf wedi cymryd rhan mewn gwaith mapio rhanddeiliaid o fewn Prifysgol Caerdydd a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol er mwyn gweld lle y gallai buddiannau alinio mewn iechyd a lles.

Yr hyn rwyf wedi’i ddysgu

Ar ôl gweithio yn y rôl interniaeth hon, rwy’n credu fy mod wedi magu mwy o hyder a fydd, yn y pen draw, yn gwella fy nghyfnod yn y brifysgol a thu hwnt. Roedd llawer o ryddid o fewn y lleoliad gan fy mod yn gallu dewis pa faes iechyd a lles i ganolbwyntio arno, a rheolais fy amser fy hun â chyfuniad o weithio gartref ac yn swyddfeydd DECIPHer. Mae gweithio gyda DECIPHer wedi dangos y gwahanol agweddau ar yrfa mewn ymchwil a pha mor amrywiol yw’r gwaith, ac mae hyn wedi rhoi’r cyfle i mi ddysgu sgiliau newydd a chryfhau sgiliau blaenorol, fel defnyddio SPSS â data go iawn. Mae gweithio gyda Dr Kelly Morgan a Dr Caitlyn Donaldson wedi bod yn anrhydedd ac yn brofiad gwirioneddol werthfawr, gan fod yr oruchwyliaeth wedi fy nghadw’n brysur ac ar y dasg er mwyn bod mor effeithlon â phosibl yn yr interniaeth hon.

Uchafbwyntiau

Un o fy hoff rannau o’r interniaeth oedd y cyfle i ymweld â swyddfa’r SYG yng Nghasnewydd, a gweithio o fewn adeilad SBARC. Roedd gallu mynd i Gasnewydd a dysgu am y sectorau gwahanol ym maes iechyd a lles y maent yn ymchwilio iddynt yn agwedd ddiddorol ar yr interniaeth hon a rhoddodd gipolwg i mi ar yr hyn y mae’r SYG yn ei wneud. Roedd y cyfle i weithio yn adeilad Sbarc yn galonogol gan y bu cyfleoedd i ymuno mewn cyfarfodydd a fforymau staff a dysgu am yr ymchwil sy’n digwydd o fewn DECIPHer.

Edrych i’r dyfodol…

Mae’r profiad hwn wedi ennyn diddordeb mawr ynof mewn iechyd cyhoeddus, ac wedi gwneud i mi ystyried parhau â’m gyrfa academaidd. Rwyf mor ddiolchgar o fod wedi cymryd rhan yn y lleoliad hwn, a byddaf yn dal gafael ar bopeth a ddysgais yn ystod y profiad hwn i helpu fy ymdrechion yn y dyfodol, fel cwblhau fy nhraethawd estynedig.

Dysgwch fwy am Cyfleoedd interniaeth ar y campws yma: Cyfleoedd interniaeth ar y campws