Mynd i'r cynnwys
Home » Datblygu Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion

Datblygu Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion

  • Flog
Tagiau:

Ym mis Mehefin 2023, bu Dr Rhiannon Evans a Dr Honor Young yn ymweld â Namibia i weithio ar gynllun peilot Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion yn Namibia. Yma, mae Dr Evans yn sôn am gefndir y daith hon a’u profiadau wrth ddatblygu’r Rhwydwaith

Ym mis Ebrill 2022, bu chwe Chymrawd y Gymanwlad o Namibia yn ymweld â DECIPHer. Trefnwyd y cynllun gan Brosiect Phoenix, a bu’r Cymrodyr – pedwar ohonynt o Brifysgol Namibia (UNAM) a dau ohonynt o’r Weinyddiaeth Addysg, y Celfyddydau a Diwylliant – yn treulio tri mis yn gweithio â chydweithwyr o Brifysgol Caerdydd i rannu syniadau ar sut i gefnogi grymuso merched mewn addysg.

Yn ystod ymweliad y Cymrodyr, buont yn dysgu am y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion yng Nghymru, ac yn dechrau archwilio sut y gallent roi cynllun tebyg ar waith yn Namibia. Yn genedlaethol, mae gan Namibia hanes cryf o ddealltwriaeth o iechyd a lles plant a phobl ifanc, ar ôl casglu data drwy’r Arolwg Byd-eang o Iechyd Myfyrwyr mewn Ysgolion yn 2013. Roedd y Cymrodyr yn awyddus i ddeall sut y gellid casglu data o’r fath yn fwy rheolaidd, a sut y gellid cefnogi gweinidogaethau’r llywodraeth ac ysgolion i drosi’r wybodaeth hon orau er mwyn creu polisi ac arferion effeithiol.

Cynllunio a blaenoriaethu 

Cynhaliom ein hymweliad cyntaf â Namibia yn 2022, a chawsom ein croesawu drachefn ym mis Mehefin 2023 gan UNAM, y Weinyddiaeth Addysg, y Celfyddydau a Diwylliant, a’r Weinyddiaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Diben yr ymweliad hwn oedd darparu arbenigedd technegol a chymorth ar gyfer datblygu a threialu Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion yn Namibia. Caiff y cynllun peilot, a fydd yn cael ei gwblhau erbyn mis Rhagfyr 2023, ei gyllido gan UNICEF a phartneriaid cyllido eraill. Bydd yn profi cyflwyno arolwg iechyd a lles i ddysgwyr mewn 36 o ysgolion yn genedlaethol, ac yn archwilio sut y gellir defnyddio’r data hyn ar gyfer cynllunio polisi yn y dyfodol.

Honor yn rhoi cyflwyniad ar y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion
Honor yn rhoi cyflwyniad ar y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion

Ein tasg gyntaf yn ystod yr ymweliad oedd cynnal gweithdy gyda 30 o bartneriaid o UNAM, y Gweinidogaethau, sefydliadau trydydd sector a phartneriaid cyllido, er mwyn blaenoriaethu’r problemau iechyd cyfoes y mae plant a phobl ifanc yn Namibia yn eu hwynebu, a nodi’r ffordd orau o holi amdanynt. Roedd yn ddiddorol dysgu bod pobl ifanc yn Namibia a Chymru yn rhannu llawer o’r un problemau, megis iechyd meddwl gwael, ac anawsterau yn eu perthnasoedd â’u ffrindiau a’u teuluoedd.

Ein ffocws nesaf oedd sefydlu gweithgor technegol i drosi allbynnau’r gweithdy yn arolwg, a dechrau adeiladu’r rhwydwaith. Roedd llawer o ystyriaethau pwysig ynghylch sut y gellid gweithredu Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion yn ymarferol yn Namibia. Er bod gan Namibia a Chymru boblogaethau o faint tebyg, mae Namibia tua 40 gwaith yn fwy na Chymru yn ddaearyddol, ac felly mae heriau o ran cyrraedd ysgolion mwy gwledig.

Profi dysgu a bywyd yn Namibia 

Ar saffari – profiad rhyfeddol

Er bod ein hymweliad yn ymwneud yn bennaf â gweithio ar Rwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion yn Namibia, cawsom gyfle i fynychu nifer o ddigwyddiadau a dysgu rhagor am y ffordd y mae UNAM a Gweinidogaethau’r Llywodraeth yn cefnogi dysgwyr. Roeddem yn bresennol yn nigwyddiad lansio System Rheoli Gwybodaeth Bwydo Ysgol Namibia, sef system ar-lein a fydd yn darparu data ac yn symleiddio’r gwaith o reoli a gweithredu Rhaglen Bwydo Ysgol Namibia. Hefyd, cawsom gyfle i  ymweld â Chynhadledd Rheithorion ac Is-gangellorion Cymdeithas Prifysgolion Affrica, a ddaw â channoedd o gynrychiolwyr ynghyd o bob rhan o’r byd i archwilio sut i gyflawni rhagoriaeth mewn addysg uwch ledled Affrica. Un uchafbwynt personol oedd mynd ar saffari ym Mharc Cenedlaethol Etosha, a oedd yn brofiad rhyfeddol.

Cynlluniau ar gyfer y dyfodol 

Yn dilyn yr ymweliad, buom yn myfyrio ar yr hyn a ddysgom, a’n camau nesaf. Yn bennaf, rydym yn llawn cyffro o fod yn gweithio ar brosiect mor ystyrlon, gan weithio â chydweithwyr angerddol ac uchelgeisiol sydd eisiau trawsnewid iechyd plant a phobl ifanc yn Namibia. Gobeithiwn ddychwelyd yno’r haf nesaf, yn dilyn treialu cychwynnol y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion yn Nambia, i gefnogi gweithrediad pellach y cynllun.

 

Llofnodi’r cytundeb partneriaeth cenhadaeth ddinesig ryngwladol 

Rydym hefyd yn falch y gallwn, trwy ein gwaith, gefnogi’r bartneriaeth cenhadaeth ddinesig ryngwladol rhwng Prifysgol Caerdydd ac UNAM, y buom yn ffodus i fod yn bresennol pan gafodd ei llofnodi ym mis Mehefin 2023. Nod y cytundeb pum mlynedd hwn yw gwella gallu academaidd a hyfforddiant, a hyrwyddo cyfnewidiadau ymchwil mewn meysydd o ddiddordeb deallusol cilyddol mewn nifer o ddisgyblaethau. Mae’r bartneriaeth hon, ynghyd â phenodiad yr Athro Ambreena Manji yn Ddeon Rhyngwladol Affrica, wedi agor cyfleoedd newydd rhagorol ar gyfer DECIPHer wrth symud ymlaen, a byddwn yn adrodd yn ôl ar yr hyn a ddaw nesaf.

Cafodd taith Rhiannon a Honor i Namibia yn 2023 ei chyllido gan Gyfleoedd Byd-eang Prifysgol Caerdydd.