Mynd i'r cynnwys
Home » O gerddoriaeth i fethodoleg

O gerddoriaeth i fethodoleg

  • Flog

Henry Amery sy’n edrych yn ôl ar ei leoliad 12 wythnos yn DECIPHer, a gyflawnodd yn rhan o’i Gwrs Trosi MSc Seicoleg.

Henry Amery

Dechreuais fy amser ym Mhrifysgol Caerdydd yn astudio BA mewn Cerddoriaeth. Erbyn fy mlwyddyn olaf, roeddwn wedi sylweddoli, er bod cerddoriaeth yn rhywbeth rydw i’n angerddol iawn yn ei chylch, nad dyna’r cyfeiriad cywir i mi o ran gyrfa ac felly dechreuais chwilio am gyrsiau trosi. Yn y pen draw, deuthum ar draws y Cwrs Trosi MSc Seicoleg a gynigir gan Brifysgol Caerdydd, gan ei weld yn gyfle gwych i ddatblygu set newydd o sgiliau mewn disgyblaeth newydd, wrth archwilio pwnc rwyf wedi bod â diddordeb brwd ynddo erioed.

Mae ystod y cynnwys a drafodir wedi golygu ei fod wedi bod yn gwrs dwys iawn ar brydiau, ond yn gyson ddiddorol serch hynny; mae’n archwilio ystod o bynciau o seicoleg fiolegol i feysydd mwy haniaethol yn ymwneud â seicoleg wybyddol. Creais fy nhraethawd ar ffurf prosiect ymchwil lle bûm yn archwilio trylwyredd methodolegol ar draws erthyglau mewn amrywiol gyfnodolion cyhoeddedig gan ddefnyddio dull newydd a ddatblygais ochr yn ochr â myfyriwr arall oedd yn gweithio ar eu prosiect eu hunain. Mae’r prosiect ar gael yn rhan o’r Fframwaith Gwyddoniaeth Agored a gellir ei weld yma: https://osf.io/vedpm/.

Mae lleoliad 12 wythnos hefyd yn rhan o’r cwrs. Mae hyn yn galluogi myfyrwyr i ennill profiad proffesiynol ac i adeiladu ar y wybodaeth a’r sgiliau a gaffaelwyd yn ystod y cwrs. Fe wnes i gais i amrywiaeth o sefydliadau sy’n gweithio yn y meysydd oedd yn fy niddori fwyaf megis seicoleg glinigol a fforensig, ac ymchwil. Roedd DECIPHer yn un o’r rhain. Drwy gydol y cwrs, rwyf wedi canfod bod fy niddordeb pennaf mewn ymchwil, a dim ond fy ngwneud yn fwy cyffrous i ddechrau fy lleoliad wnaeth hyn.

‘Drwy gydol y cwrs, rwyf wedi canfod bod fy niddordeb pennaf mewn ymchwil, a dim ond fy ngwneud yn fwy cyffrous i ddechraufy lleoliad wnaeth hyn.’

Yn ystod fy lleoliad gwaith, rwyf wedi gweithio ar draws pum prosiect, gyda phrif oruchwyliaeth gan Jemma Hawkins. Enw’r pum prosiect yw ehangu’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion, prosiectau Bwyta’n Dda Heneiddio’n Dda (Eat Well Age Well), Cefnogi’r-Cefn (Back-on-Line), SaFE a CHARMING. Mae’r ystod eang hon o brosiectau wedi rhoi dealltwriaeth dda i mi o’r ystod o waith gwerthfawr a wneir yn DECIPHer ac mae pob prosiect wedi cyflwyno cyfleoedd gwahanol ar gyfer twf ac ar gyfer datblygu’r sgiliau sy’n hanfodol i ymarfer ymchwil, megis meddwl mewn ffyrdd gwahanol, a dadansoddi beirniadol, a’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer dadansoddiadau thematig, a’r amynedd sydd ei angen wrth weithio gyda NVivo. Cefais y cyfle hefyd i ddilyn cwrs byr ‘Arloesi Methodolegol ym maes Gwyddoniaeth Ymyrraeth Iechyd Cyhoeddus’ DECIPHer a oedd yn hynod ddiddorol ac addysgiadol

Yn bendant, mae ysbryd cymunedol cryf yma yn DECIPHer, mae pawb wedi bod mor groesawgar, ac roeddwn yn teimlo’n rhan o’r tîm yn syth. Ar ben hynny, mae adeilad newydd Sbarc | Spark yn lle gwych i weithio ynddo — mae’n olau ac yn braf, heb sôn am Milk and Sugar, y caffi lawr grisiau, sydd â’r dewis gorau erioed o fwyd.

Mae fy amser yn DECIPHer wedi cadarnhau ynof mai gyrfa’n seiliedig ar ymchwil yw’r cyfeiriad yr wyf am ei ddilyn ar ôl cwblhau fy MSc ym mis Medi. Rwy’n hynod ddiolchgar i’r holl staff yma am bopeth maen nhw wedi’i wneud i wneud i mi o ran fy nghroesawu ar y lleoliad, ac rwyf wedi creu ffrindiau oes. Hoffwn estyn diolch arbennig i Dr Jemma Hawkins am nid yn unig hwyluso profiad mor werthfawr, ond hefyd am fod yn oruchwyliwr mor wych. Drwy gydol fy lleoliad rwyf wedi teimlo fy mod wedi cael fy nghefnogi’n gyson i lwyddo yn y gwaith a neilltuir i mi, ac wedi fy mharatoi i lwyddo hefyd, felly diolch Jemma!