Ar 18 Mawrth 2021, bu Dr Kelly Morgan yn rhan o drafodaeth bwrdd crwn COVID-19 yr Arsyllfa Polisi Cyhoeddus Rhyngwladol ar raglenni cymorth i blant ysgol dros yr haf. Mae’n adrodd ar y casgliadau
Ar ran DECIPHer, bûm i yn nigwyddiad bwrdd crwn diweddaraf yr Arsyllfa Polisi Cyhoeddus Rhyngwladol yn trafod y ffordd orau i gynllunio a strwythuro rhaglenni cymorth i blant ysgol dros yr haf. Daeth dros 40 o bobl ar draws y DU i’r digwyddiad, gyda chynrychiolaeth o blith academyddion, llunwyr polisïau ac ymarferwyr.
Yn ystod y digwyddiad, trafodwyd tri chwestiwn allweddol:
· Beth mae’r dystiolaeth yn ei ddweud wrthym am yr hyn y dylid ei wneud yn ystod gwyliau’r haf?
· Pa rai o’r camau hyn y dylid eu blaenoriaethu, ac i ba grwpiau?
· Beth yw’r cyfuniad gorau o weithredu cenedlaethol a lleol i sicrhau bod hyn yn digwydd?
O ran yr hyn y dylid ei wneud, roedd y trafodaethau’n canolbwyntio ar gyfleoedd i blant gymryd rhan mewn gweithgareddau heb eu strwythuro gan ddarparu chwarae, gweithgaredd corfforol a bwyd iach. Nodwyd bod rôl darpariaethau gwyliau haf presennol yn allweddol, a bod angen manteisio ar gysylltiadau cymunedol lleol a rhannu dysgu ar draws y cenhedloedd. Nodwyd Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf (SHEP) yng Nghymru fel enghraifft o arfer da, gyda nifer o gynlluniau yn rhedeg ledled Cymru a’r rhaglen yn ehangu bob blwyddyn.
‘Yng ngoleuni’r flwyddyn ddiwethaf a chyfyngiadau COVID-19 ar fywydau beunyddiol plant, ystyriwyd bod yr angen am le i gymdeithasu â ffrindiau ac ailgysylltu yn hollbwysig.’
Trafodwyd effeithiau’r pandemig ar iechyd corfforol a lles meddyliol plant wrth i ddiogelwch bwyd, ffyrdd o fyw sy’n gynyddol eisteddog a gofidiau a phryderon cyffredinol barhau i osod heriau pwysig. Trafodwyd heriau penodol yn ymwneud â phlant ar draws yr ystodau oedran hefyd, gydag effaith ar ddatblygiadau iaith, hyder a sgiliau bywyd allweddol a cholli cyfleoedd yn ystod cyfnodau pontio (e.e. o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd neu bontio i addysg bellach).
Cafwyd llawer o drafodaeth ar y ffocws ar ‘ddal i fyny’ gyda’r angen i ganiatáu rhyddid i blant fwynhau cymdeithasu a chwarae heb y pwysau o ddal i fyny ar yr amser a gollwyd ar gyfer addysg (h.y. peidio â’i lenwi gyda gwersi ychwanegol). Yng ngoleuni’r flwyddyn ddiwethaf a chyfyngiadau COVID-19 ar fywydau beunyddiol plant, ystyriwyd bod yr angen am le i gymdeithasu â ffrindiau ac ailgysylltu yn hollbwysig. Hefyd nodwyd cyfleoedd i athrawon a rhieni gael amser a lle i ymadfer.
Ers y digwyddiad, cyhoeddwyd nodyn polisi byr yn amlinellu saith egwyddor arweiniol fel sail i ymagwedd y DU ar gyfer cefnogi ein plant yr haf hwn:
- Dylai ‘ailosod dros yr haf’ fod yn flaenoriaeth genedlaethol
- Ni ddylai’r rhaglenni haf edrych fel yr ysgol
- Dylai’r rhaglenni gael eu harwain yn lleol
- Dylai’r rhaglenni gael cefnogaeth genedlaethol
- Dylent fod ar agor i bob plentyn, gan ganolbwyntio ar y mwyaf difreintiedig
- Rhaid i raglenni fod â chyswllt agos â rhieni a gwirfoddolwyr
- Mae angen ‘cynllun B’ hefyd rhag ofn y ceir cyfyngiadau cloi pellach
Gellir darllen mwy am nodyn polisi’r Arsyllfa Polisi Cyhoeddus Rhyngwladol a’r saith egwyddor arweiniol yma. Diolch i’r Arsyllfa am fy ngwahodd i fod yn rhan o’r broses hanfodol hon fydd hefyd yn adferol, gobeithio.
Mae Kelly Morgan yn Gymrawd Ymchwil yn DECIPHer. Ffocws sylweddol ei hymchwil yw gwella iechyd a lles plant a phobl ifanc. Mae Kelly Morgan yn Gymrawd Ymchwil yn DECIPHer. Ffocws sylweddol ei hymchwil yw gwella iechyd a lles plant a phobl ifanc. Mae mwy o wybodaeth am y Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau Ysgol (SHEP) i’w gweld yma a’i gwaith blaenorol ar wyliau haf ac iechyd meddwl yma.