Mynd i'r cynnwys
Home » Rowan: ‘Erbyn hyn, dwi’n sicr bod gyrfa mewn ymchwil gwyddorau cymdeithasol yn rhywbeth yr hoffwn ei dilyn’

Rowan: ‘Erbyn hyn, dwi’n sicr bod gyrfa mewn ymchwil gwyddorau cymdeithasol yn rhywbeth yr hoffwn ei dilyn’

  • Flog

Mae Rowan Kitchener yn fyfyriwr yn y drydedd flwyddyn sy’n astudio Gwyddorau Biofeddygol ym Mhrifysgol Caerdydd. Yma, mae’n trafod ei lleoliad CUROP yn DECIPHer yn ymchwilio i amgyffrediad y cyhoedd o hysbysebion bwyd.

Bu gennyf ddiddordeb mewn ymchwil yn seiliedig ar iechyd erioed, ond ar ôl cwblhau blwyddyn lleoliad mewn amgylchedd labordy, nid oeddwn yn siŵr a oedd y math hwn o ymchwil yn addas i mi. Fe wnes i gais am leoliad yn y gwyddorau cymdeithasol a DECIPHer, gan fy mod eisiau dysgu mwy am sut mae ymchwil ansoddol yn cael ei chynnal. Mae fy interniaeth wedi’i lleoli yn nhîm PHIRST Insight gyda Dr Kelly Morgan a Dr Sam Garay, lle maent yn ceisio gwerthuso effaith polisi ar hysbysebu iachach yng Nghaerdydd.

Trwy gydol y lleoliad, dwi wedi bod yn rhan o broses y grŵp gorchwyl a gorffen. Rhoddodd hyn fewnwelediad gwerthfawr i mi i sut mae gwerthusadwyedd polisi’n cael ei asesu, sut mae model rhesymeg yn cael ei greu a lle gall ymglymiad y cyhoedd gael ei ymgorffori yn y broses.

Cefais y dasg o grynhoi’r llenyddiaeth gyfredol yn ymwneud ag amgyffrediad y cyhoedd o hysbysebion bwyd, gan y byddai hyn yn ffurfio rhan o ddogfen cynnig y prosiect. Cefais hyd i lawer o bapurau diddorol ar y pwnc a dysgais am y dulliau sy’n cael eu defnyddio i gasglu data yn y maes pwnc. Ar ôl hynny, roeddwn yn gallu helpu i ddatblygu dogfennau’r arolwg a’r ffurflenni caniatâd ar gyfer y cais moeseg.

I mewn i’r anhysbys

Yn ystod fy lleoliad wyth wythnos, cymerais ran mewn her arloesi myfyrwyr. Galluogodd y digwyddiad hwn i mi gyfarfod â myfyrwyr eraill CUROP o fewn SPARK a chydweithio â nhw i greu cyflwyniad ar ddefnyddiau moesegol deallusrwydd artiffisial mewn ymchwil. Nid oedd y pwnc hwn yn rhywbeth roedd gennyf unrhyw wybodaeth amdano’n wreiddiol, ond fe wnaeth fy herio i weithio ar rywbeth a oedd y tu allan i’m cylch cysur.

Ar y cyfan, dwi wedi mwynhau lleoliad CUROP yn fawr a byddwn yn ei argymell i unrhyw fyfyrwyr eraill a allai fod yn ansicr am y math o ymchwil a fyddai’n addas iddyn nhw. Erbyn hyn, dwi’n sicr bod gyrfa mewn ymchwil gwyddorau cymdeithasol yn rhywbeth yr hoffwn ei ddilyn a dwi wedi dysgu llawer o gysyniadau newydd a sgiliau trosglwyddadwy y byddaf yn mynd â nhw gyda mi yn ystod fy mlwyddyn olaf yn y brifysgol ac, wrth lwc, i’m gyrfa yn y dyfodol.

Mae mwy o wybodaeth am PHIRST i’w gweld yma: Rhaglen Ymchwil Iechyd y Cyhoedd NIHR – Timau Astudio sy’n Ymateb i Ymyriadau i Iechyd y Cyhoedd (PHIRST)

Dysgwch fwy am Cyfleoedd interniaeth ar y campws yma: Cyfleoedd interniaeth ar y campws