Mynd i'r cynnwys
Home » Tystiolaeth er newid: Rhoi adroddiad i’r Senedd ar drais ar sail rhywedd 

Tystiolaeth er newid: Rhoi adroddiad i’r Senedd ar drais ar sail rhywedd 

  • Flog

Ym mis Mawrth 2023, lansiodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ymchwiliad i atal trais ar sail rhywedd drwy ddull iechyd y cyhoedd. Ym mis Mehefin 2023, cynhaliodd y pwyllgor sesiwn dystiolaeth a gofynnodd am i gynrychiolydd o DECIPHer gymryd rhan ar ran y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (y Rhwydwaith). Yma, mae Bethan Pell yn disgrifio ei phrofiad cyntaf o roi tystiolaeth i’r Senedd. 

Mae fy PhD yn canolbwyntio ar ddatblygu dealltwriaeth ddamcaniaethol o Drais a Chamdriniaeth gan Blant a’r Glasoed tuag at Rieni (CAPVA) yng Nghymru. Ynghyd â hyn, mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn adeiladu a datblygu’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer academyddion, llunwyr polisi, comisiynwyr ac ymarferwyr ynghylch
yr hyn sy’n gweithio i fynd i’r afael â deilliannau grwpiau sydd mewn perygl o drais a chamdriniaeth, a gwella’r deiliannau hyn. Felly, roeddwn i’n awyddus i fanteisio ar y cyfle hwn i roi cyflwyniad i’r bobl sy’n ganolog i lunio polisïau yng Nghymru. Roeddwn hefyd yn falch y byddwn yn cyflwyno ochr yn ochr â Dr Honor Young, sef cydweithiwr yr wyf wedi gweithio gyda hi yn DECIPHer ar brosiectau fel y Gwerthusiad o Lwybrau Iechyd (SAFELIVES). 

Er gwybodaeth 

Manteisiom ar yr opsiwn o anfon cyflwyniad ysgrifenedig yn gyntaf – gallwch ei ddarllen yma. Yn unol â’r cais, amlygodd y cyflwyniad brosiectau ymchwil perthnasol sydd wedi’u cwblhau a rhai sy’n mynd rhagddynt. Roeddent wedi gofyn yn benodol am gynrychiolaeth ynghylch y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (y Rhwydwaith), felly ychwanegom y manylion hyn, ond cynhwysom brosiectau eraill hefyd; Rhyw a pherthnasoedd diogel mewn Addysg Bellach (SaFE); Ymyriadau yn yr ysgol i atal trais wrth ganlyn ac mewn perthynas a thrais ar sail rhywedd (STOP): adolygiad systematig DRV-GBV; Prosiect ar gamdriniaeth rhwng cyfoedion dan arweiniad Coleg Caerdydd a’r Fro, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru; Papur cyhoeddedig ar y cyd â Chymorth i Fenywod Caerdydd; fy PhD; a SAFELIVES

Crynodeb cyflym… 

Cyfarfuom hefyd ag aelod cymorth o’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol a gyfarfu â ni i brofi’r ddolen Zoom ac i roi arweiniad ar y math o gwestiynau y byddai’r Pwyllgor yn eu gofyn. Mae cymaint o gwestiynau yn arolwg y Rhwydwaith, helpodd hyn i ni hoelio’n cwmpas a theimlo’n fwy parod.  

Ychydig cyn y sesiwn, cefais i a Honor gyfarfod i fynd trwy’r agweddau bras ar yr hyn yr oeddem am ei ddweud a pha fathau o gwestiynau yr oeddem yn hyderus i arwain arnynt, neu y dylai’r llall arwain arnynt. Mae ffocws ymchwil Honor yn cynnwys trais wrth ganlyn ac mewn perthynas a thrais ar sail rhywedd, ac mae’n ymwneud llawer â’r Rhwydwaith, felly penderfynom mai hi yn bennaf fyddai’n ateb cwestiynau a oedd yn canolbwyntio ar y Rhwydwaith, o ystyried diddordeb arbennig y Senedd ynddo.  

Ar y diwrnod  

Roedd y ddwy ohonom yn eithaf nerfus – dyma’r Senedd, wedi’r cyfan! – ond roeddem yr un mor hapus o gael y cyfle hwn i ddarparu tystiolaeth ac arddangos ymchwil DECIPHer. Dewisom gymryd rhan yn y cyfarfod ar-lein. Roedd Alexa Gainsbury ac Emily Van De Ventor, sy’n rhan o dîm y dull ysgol gyfan yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn bresennol hefyd i ddarparu tystiolaeth. Roeddem wedi gweithio gyda nhw yn y gorffennol felly bonws oedd cael cyflwyno ochr yn ochr ag wynebau cyfarwydd yr oedd eu gwaith yn cydgyffwrdd â’n gwaith ni. 

Er nad oedd darparu’r cyflwyniad ysgrifenedig yn orfodol, roedd gwneud hynny’n ddefnyddiol iawn, nid yn unig am ei fod yn ysgogiad i ni, ond yn golygu bod gan y Pwyllgor wybodaeth flaenorol am ein hymchwil ac y gallent baratoi cwestiynau penodol. 

Ffocws eang  

Yn ôl y disgwyl, y Rhwydwaith oedd prif ffocws y Pwyllgor. Dechreuont drwy gyfeirio at ein cyflwyniad, at gynnydd yn gysylltiedig ag oedran ym mhob math o drais wrth ganlyn ac mewn perthynas ymhlith bechgyn a merched, a gofynnont am gefndir i’r canfyddiad hwn. Yna, roedd y Pwyllgor am wybod am y cwestiynau yn yr arolwg sy’n berthnasol i’r pwnc hwn, y rhoddodd Honor restr gynhwysfawr ohonynt. Mae trais seiliedig ar rywedd yn cwmpasu amrywiaeth eang o niwed, ac adlewyrchwyd hyn mewn cwestiynau pellach; er enghraifft amlygiad i ddelweddau na ofynnwyd amdanynt; seiber-fwlio neu effeithiau cyfnod clo Covid-19 ar drais domestig. 

Yn ogystal, roedd y Pwyllgor am ddysgu rhagor am y gwaith a wnaethom ynghylch effaith cam-drin domestig ar blant ac adfer yn sgil y trawma hwn oherwydd COVID-19. Yma, cyflwynom bapur Cymorth i Fenywod Caerdydd, y cyfeiriom ato yn y cyflwyniad ysgrifenedig, a chynghorom fod y papur yn pwysleisio y dylai gwasanaethau arbenigol fod yn blaenoriaethu plant sydd wedi cael profiad o gam-drin domestig, ond p’un ai a oedd hyn wedi digwydd ai peidio, roedd hynny y tu hwnt i gwmpas y papur. Roeddent yn awyddus hefyd i glywed am brosiectau eraill yr oedd DECIPHer yn cymryd rhan ynddynt, a allai ymwneud â thrawma plant o ganlyniad i fyw mewn cartref lle’r oedd trais domestig yn digwydd. Fan hyn, soniom am fy PhD, gan fod tystiolaeth yn awgrymu bod cam-drin domestig yn ffactor risg mawr ar gyfer CAPVA, a phrosiectau eraill fel Treial Gweithwyr Cymdeithasol mewn Ysgolion (SWIS), sef gwerthusiad o waith cymdeithasol yn yr ysgol, a oedd yn lled berthnasol. Archwiliodd y Pwyllgor ymhellach yr adolygiad systematig o’r ymyrraeth yn yr ysgol (STOPDRV-GBV), gan ofyn beth oedd y rhaglenni mwyaf effeithiol ar gyfer atal trais ar sail rhywedd, a beth sydd wedi’i wneud i fynd i’r afael â’r hyn sy’n ei yrru a’r rhesymau gwraidd drosto. Cyfeiriom hefyd at fy PhD, gan fod tystiolaeth yn awgrymu fod CAPVA yn ffenomen sy’n tueddu at rywedd, gyda mwyafrif y dioddefwyr yn famau. 

At y dyfodol  

Hedfanodd y sesiwn awr heibio; teimlai bob un ohonom fod llawer iawn mwy i’w ddweud! Daeth Cadeirydd y Pwyllgor, Jenny Rathbone AS, â’r cyfan i derfyn trwy ddweud ei bod yn gobeithio y bu’r cyfarfod yn ddefnyddiol i ni, yn ogystal ag iddyn nhw. Mae darganfod beth sydd o ddiddordeb i’r Pwyllgor wir wedi rhoi cyfle i ni feddwl am y bylchau yn ein hymchwil ac i ble y gallem ei gyfeirio yn y dyfodol. Er enghraifft, amlygodd un cwestiwn y risg uwch fod grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yn profi trais ar sail rhywedd. Mae data’r Rhwydwaith wedi cadarnhau hyn ond ni fu’r gallu gennym hyd yn hyn i fanylu ar y mater. Holodd y Pwyllgor hefyd am anffurfio organau cenhedlu benywod a’i gyffredinrwydd yng Nghymru, ond nid yw arolwg y Rhwydwaith wedi ymdrin â hyn eto. 

Yn amlwg, mae awydd yn y Senedd i fynd i’r afael â thrais ar sail rhywedd yng Nghymru – ystyriwch er enghraifft gynllun gweithredu lefel uchel y glasbrint a gyhoeddodd ym mis Mawrth 2023. Mae llawer o waith i’w wneud, ond mae’n cydnabod yn glir fod trais ar sail rhywedd, yn ei holl ffurfiau, yn broblem wirioneddol sydd wedi’i gwreiddio yn ein cymdeithas. Gobeithio bydd ein tystiolaeth yn chwarae rhan wrth yrru newid. 

Mae rhagor o fanylion am yr ymchwiliad ar gael yma: Atal trais ar sail rhywedd drwy ddulliau iechyd y cyhoedd (senedd.cymru) 

Mae trawsgrifiad y sesiwn ar gael yma: Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol 19/06/2023 – Senedd Cymru (senedd.cymru) 

Mae DECIPHer yn cyfrannu’n rheolaidd at ymgynghoriadau ar faterion pwysig ym maes iechyd y cyhoedd ac addysg. Mae rhagor o’n hymatebion i’w gweld yma: Ymgynghoriadau – DECIPHer.