Mynd i'r cynnwys
Home » Fy Mlas Ar Waith Gyda Decipher

Fy Mlas Ar Waith Gyda Decipher

  • Flog

Molly Burdon, myfyriwr Seicoleg ail flwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd, sy’n edrych yn ôl ar ei lleoliad gwaith dros saith mis yn DECIPHer

Molly Burdon

Roeddwn wrth fy modd i gael cynnig cyfle i gwblhau cyfnod blas ar waith rhithiol yn DECIPHer. Fel person dyslecsig, gyda diddordeb mewn seicoleg gymdeithasol a datblygiadol, roeddwn i am gael profiad gwaith yn y byd academaidd cyn fy mlwyddyn ar leoliad. Des i o hyd i hyn drwy Go Wales, cynllun sy’n darparu profiad gwaith i fyfyrwyr Addysg Uwch sy’n wynebu rhwystrau yn sicrhau cyflogaeth.

Rwyf i wedi bod yn gweithio ar ddau brosiect ymchwil iechyd cyhoeddus gyda Jordan Van Godwin. Partneriaeth polisi-ymarfer-ymchwil yw’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion rhwng Prifysgol Caerdydd, Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru sy’n cefnogi iechyd meddwl a lles myfyrwyr ysgol yng Nghymru. Mae’r prosiect arall y bûm i’n gweithio arno yn canolbwyntio ar ddrafftio canllawiau fframwaith i Lywodraeth Cymru sy’n ymgorffori ymagwedd ysgol gyfan at iechyd meddwl a lles.

Trwy gydol y saith mis diwethaf o weithio ar y prosiectau hyn, rwyf i wedi ymgymryd ag ystod eang o dasgau ymchwil. Roeddwn i’n mynychu cyfarfodydd staff, yn gwirio ansawdd trawsgrifiadau cyfweliadau i sicrhau eu bod yn gywir ac yn ddienw, ac yn cyfrannu at ddadansoddiad data ansoddol dogfennau drwy dynnu a chodio gwybodaeth yn defnyddio NVivo, meddalwedd dadansoddi arbenigol. Yn arbennig, roeddwn i’n mwynhau golygu canllawiau pynciau cyfweliad i randdeiliaid, rhieni, a disgyblion, oherwydd fy mod yn gallu cynnig golwg allanol ar eglurder y cwestiynau ac awgrymu newidiadau i wella hygyrchedd yr iaith a’r derminoleg oedd yn cael eu defnyddio. Cefais gyfle hefyd i gysgodi cyfweliadau lled-strwythuredig yn ogystal â grwpiau ffocws a gynhaliwyd ar Zoom. Roedd y rhain yn sesiynau diddorol a difyr oedd yn brofiad ymarferol gwerthfawr o’r ffordd y cynhelir dulliau ymchwil ansoddol, eu heriau, a sut i addasu strwythur y canllaw pwnc yn hyblyg mewn ymateb i atebion y cyfranogwr i wella llif y cyfweliad.

Fy hoff dasg oedd cael cyfle i archwilio gwahanol ddulliau casglu data rhithwir fyddai’n fwy difyr a hygyrch i gynulleidfaoedd iau.’

Yn ystod y lleoliad gwaith, mynychais fforymau niferus ar amrywiol bynciau, yn cynnwys ‘Rhaglen Ymchwil Plentyndod Da’ a ‘Seicobwer: astudiaeth ansoddol o gwnsela digidol a gweithio o bell’, a ehangodd fy ngwybodaeth am yr ymchwil sydd ar waith i les plant, yn ogystal ag ymchwil ansoddol mewn parthau eraill, fel seiciatreg. Ar ben hynny, cefais gysylltu ag aelodau eraill o staff DECIPHer i glywed am eu profiadau penodol a’u taith drwy’r byd academaidd gan fod gen i ddiddordeb yn y posibilrwydd o ddilyn gyrfa mewn ymchwil seicolegol. Mewn cyfarfodydd â Joan Roberts, cyfarwyddwr SHRN, a Lianna Angel, cydymaith ymchwil feintiol, cefais gyngor hynod ddefnyddiol ar y gwahanol lwybrau y gallwch eu dewis i fynd i’r byd academaidd a chyfleoedd ymchwil meintiol posibl ar gyfer y dyfodol.

Ond fy hoff dasg yn y blas hwn ar waith oedd cael cyfle i archwilio gwahanol ddulliau casglu data rhithwir fyddai’n fwy difyr a hygyrch i gynulleidfaoedd iau. Gan ddefnyddio platfform o’r enw MIRO, creais enghraifft o weithgaredd bwrdd gwyn ar-lein y gellid ei ddefnyddio fel gweithgaredd amgen yn ystod grwpiau ffocws Ymagwedd Iechyd Meddwl yr Ysgol Gyfan a chyflwynais fy nghanfyddiadau i dîm y prosiect. Roedd hwn yn gyfle gwych i ddangos fy nghreadigrwydd a magu fy hyder wrth gyflwyno syniadau unigryw i dîm o ymchwilwyr gyda phob un yn gefnogol iawn ac yn cynnig adborth gwych!

Mae’r arweiniad a gefais i wedi bod yn hanfodol i sicrhau cyfle ymchwil dramor ar gyfer fy lleoliad prifysgol y flwyddyn nesaf.’

Ers cyrraedd DECIPHer, rwyf i wedi datblygu sgiliau trosglwyddadwy amhrisiadwy fydd yn gwella fy nghyflogadwyedd ar ôl graddio. Mae’r profiad ymchwil ansoddol hwn wedi fy ngalluogi i wella fy meddwl beirniadol, trwy addasu canllawiau pwnc a chynnal dadansoddiadau o ddogfennau, yn ogystal â fy sgiliau datrys problemau trwy greu dulliau casglu data amgen. Mae fy hyder wedi codi’n esbonyddol drwy gymryd rhan mewn cyfarfodydd tîm, cynnig syniadau yn ystod trafodaethau a thrwy ddysgu defnyddio meddalwedd newydd. Mae’r arweiniad a gefais i gan Jordan i ddatblygu fy sgiliau cyflogadwyedd hefyd wedi helpu i hybu fy CV, ac wedi bod yn hanfodol i sicrhau cyfle ymchwil dramor ar gyfer fy lleoliad prifysgol y flwyddyn nesaf!

Yn gyffredinol, mae wedi bod yn gyfle anhygoel i weithio ochr yn ochr ag academyddion profiadol, sydd wedi fy nghroesawu i’n gynnes o’r dechrau a gwneud i mi deimlo fel aelod gwerthfawr o’r tîm. Allwn i ddim argymell ymgymryd â phrofiad gwaith yn DECIPHer yn fwy! Hoffwn ddiolch i holl dîm DECIPHer am y cyfle i gael lleoliad mor eithriadol a gwerth chweil, yn ogystal ag Amy Edwards a Rachel Brown am eu harweiniad ar y prosiect Dull Ysgol Gyfan. Yn benodol, hoffwn ddiolch i Jordan am fod yn fentor rhagorol, amyneddgar a chefnogol, sydd wedi cymryd yr amser i gefnogi fy nysgu a rhannu ei arbenigedd dros y saith mis diwethaf. Rwyf wedi mwynhau’r lleoliad yn fawr – yn enwedig ymddangosiad rheolaidd Flo (cath Jordan) mewn cyfarfodydd tîm – ac rwy’n edrych ymlaen at ddilyn gyrfa mewn ymchwil!

Ceir rhagor o wybodaeth am raglen GO Wales yma.