Mynd i'r cynnwys
Home » Galwad am weithredu ar frys ar ddiodydd egni wrth i ymchwil newydd yn y DU ddatgelu defnydd bob dydd ymhlith pobl ifanc

Galwad am weithredu ar frys ar ddiodydd egni wrth i ymchwil newydd yn y DU ddatgelu defnydd bob dydd ymhlith pobl ifanc

 

 

 

Mae ymchwil newydd yn dangos bod nifer o bobl ifanc yn yfed diodydd egni bob dydd, er gwaethaf gostyngiad cyffredinol yn y defnydd o ddiodydd llawn siwgr dros amser

 

 

 

Mae academyddion ym Mhrifysgol Caerdydd wedi dadansoddi ymatebion dros 176,000 o blant ysgol uwchradd rhwng 11 a 16 oed. Daethant i’r casgliad pan ddechreuwyd cofnodi eu defnydd, rhwng 2013 a 2017, roedd cyfran y bobl ifanc oedd yn yfed diodydd egni bob dydd wedi aros yn sefydlog (6%) tra bod y defnydd wythnosol wedi gostwng o 23% i 15%.

Mae eu canfyddiadau, a gyhoeddwyd heddiw yn y cyfnodolyn PLOS ONE, hefyd yn dangos bod canran y bobl ifanc sy’n cael diodydd wedi’u melysu â siwgr bob dydd wedi gostwng o 57% i 18% rhwng 1998 a 2017. Parhaodd tua hanner y bobl ifanc i’w hyfed yn wythnosol yn y cyfnod hwnnw.

Roedd bechgyn, plant hŷn a rhai o grŵp economaidd-gymdeithasol isel yn fwy tebygol o yfed y naill fath neu’r llall o ddiod, canfu’r astudiaeth.

Meddai Dr Kelly Morgan, o’r Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth ym maes Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer): “ Hyd yma, nid oes unrhyw astudiaeth wedi archwilio tueddiadau dros amser yn y defnydd o ddiodydd wedi’u melysu â siwgr a diodydd egni yn y DU. Mae ein canfyddiadau yn rhoi rhagolwg calonogol, gyda gostyngiad cyffredinol yn nifer y bobl ifanc sy’n eu hyfed.

“Fodd bynnag, nid yw’r defnydd dyddiol o ddiodydd egni ymhlith cyfran o bobl ifanc wedi lleihau – ac mae ein hastudiaeth yn datgelu gwahaniaeth cynyddol mewn cyfraddau defnydd rhwng y rheini o grwpiau economaidd-gymdeithasol isel ac uchel.

“Mae ymgyrchoedd marchnata ar gyfer diodydd egni yn aml wedi’u hanelu at rai o gefndiroedd mwy difreintiedig. Maent hefyd yn ddewis fforddiadwy ac ar gael yn aml am brisiau rhatach na photeli dŵr.

“Mae eu poblogrwydd yn annhebygol o leihau oni bai bod mesurau deddfwriaethol a pholisi yn cael eu rhoi ar waith.”

Mae diodydd siwgr yn gysylltiedig â risg uwch o ddatblygu diabetes math II ac erydiad deintyddol. Mae diodydd egni yn gyfran gynyddol o’r amcangyfrif o 40% o’r siwgr mae pobl ifanc yn ei fwyta.

Mae pryderon ynghylch yfed diodydd ynni yn canolbwyntio ar gynnwys caffein uchel – ond gall rhai caniau mawr gynnwys hyd at 21 llwy de o siwgr, mwy na theirgwaith yr argymhelliad dyddiol ar gyfer oedolion.

Ar hyn o bryd nid oes deddfwriaeth ledled y DU sy’n ymwneud yn benodol â diodydd egni.

Ychwanegodd Dr Morgan: O ystyried effeithiau tymor hir sefydledig diodydd wedi’u melysu â siwgr ac egni ar iechyd, mae angen gweithredu ar frys i leihau eu defnydd ymhellach a dylid rhoi sylw manwl i wneud yn siŵr bod polisïau’n cael effaith ar bob rhan o’r gymdeithas.”

Mae’r astudiaeth yn seiliedig ar ddata gan bobl ifanc rhwng 11 a 16 oed yng Nghymru a lenwodd yr arolwg o Ymddygiad Iechyd Plant Oedran Ysgol (HBSC) ac arolwg Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion Cymru (SHRN) rhwng 1998 a 2017.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol ar wefan Prifysgol Caerdydd