
Mae Grŵp Llywio Cynnwys y Cyhoedd yn fwrdd strategol trosfwaol sy’n helpu i ddatblygu a goruchwylio sut mae’r strategaeth cynnwys y cyhoedd yn cael ei gweithredu yn DECIPHer. Mae’r grŵp yn cynnwys gweithwyr proffesiynol o bob rhan o Gymru sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd, neu ar eu cyfer.
Mae’r grŵp yn cyfarfod bob chwarter i drafod gwaith cynnwys y cyhoedd yn DECIPHer a bydd hefyd yn rhoi adborth ar unrhyw waith ychwanegol rhwng cyfarfodydd.

Nod
Cynghori ar sut i gynnwys y cyhoedd ar lefel strategol ac o safbwynt prosiectau yn DECIPHer.

Dyletswyddau a Chyfrifoldebau
- Datblygu Strategaeth Cynnwys y Cyhoedd a Chynllun Gweithredu DECIPHer.
- Monitro’r Strategaeth a’r Cynllun Gweithredu ac adolygu a diwygio yn unol â hynny.
- Cefnogi datblygiad strategol y grŵp cynghori pobl ifanc, ALPHA
- Cefnogi’r gwaith o greu a datblygu seilwaith Cynnwys Pobl Ifanc ledled Cymru drwy SHRN o safbwynt strategol
- Cefnogi’r gwaith o greu a datblygu grŵp cynnwys rhieni o safbwynt strategol. Bydd y grŵp yn ategu ac yn adeiladu ar y model llwyddiannus a ddatblygwyd gan y grŵp ALPHA
Dyma’r tîm

Dr Jeremy Segrott
Arweinydd Academaidd, Cadeirydd

Dr Hayley Reed
Arweinydd Academaidd

Sophie Jones
Uwch Swyddog Cynnwys y Cyhoedd

Sarah Collins
Cynorthwyydd Gweinyddol Cyffredinol
Cysylltwch â Thîm Cynnwys y Cyhoedd DECIPHer drwy e-bostio:
Decipherpublicinvolvement@cardiff.ac.uk
