This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.
Mae prosiect ymchwil newydd yn ymchwilio i’r ffordd y mae pobl ifanc yn dysgu am fod mewn perthynas a rhywioldeb

Bydd y ffordd y mae pobl ifanc yn byw ac yn dysgu am fod mewn perthynas a rhywioldeb yn destun prosiect ymchwil newydd sy’n cael ei arwain gan academyddion ym Mhrifysgol Caerdydd.
Bydd y prosiect, ar y cyd â Choleg Prifysgol Llundain a’r Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant (NSPCC), yn ymchwilio i brofiadau a dysgu pobl ifanc ar draws ystod o safleoedd a lleoedd. Mae hyn yn cynnwys y cyfryngau cymdeithasol, diwylliant poblogaidd, byd cyfoedion ac yn yr ysgol.
Bydd grŵp cynghori pobl ifanc yn cefnogi’r ymchwil, a fydd yn cynnwys sesiynau wyneb yn wyneb creadigol ac arolwg ar-lein i greu data. Bydd mwy na 100 o bobl ifanc yng Nghymru, Lloegr a’r Alban yn cael eu gwahodd i ddweud eu dweud.
Mae’n debyg ein bod yn gofyn i bobl ifanc beth y maent am ei wybod, gan gynnwys sut yr hoffent geisio cymorth.”
Athro EJ Renold
Dyma a ddywedodd arweinydd y prosiect, yr Athro EJ Renold , sy’n gweithio yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae bwlch enfawr o hyd yn yr ymchwil ynglŷn â sut mae pobl ifanc yn dysgu am fod mewn perthynas a rhywioldeb yn y byd sydd ohoni a sut maen nhw’n profi hyn. Mae’n rhaid i sefydliadau megis yr NSPCC allu rhoi’r cymorth cywir sy’n diwallu anghenion plant a phobl ifanc, gan gynnwys ymdrin â’u cwestiynau a’u pryderon ynghylch ystod eang o faterion. Er mwyn i hyn ddigwydd, mae’n hollbwysig ein bod yn gofyn i bobl ifanc ynglŷn â’r hyn y hoffen nhw gael gwybod amdano, gan gynnwys sut a ble yr hoffen nhw geisio’r cymorth hwn. Bydd y prosiect hefyd yn ymchwilio i’r ffordd y mae grwpiau amrywiol o bobl ifanc yn ceisio cymorth a chyngor ar hyn o bryd, gan gynnwys y rhwystrau a’r cyfleoedd ynghlwm wrth hyn.”
Bydd canfyddiadau’r ymchwil yn cael eu defnyddio i gynllunio gwaith polisi a chyfathrebu a gwaith datblygu gwasanaethau’r NSPCC a byddan nhw’n cael eu cyhoeddi’r flwyddyn nesaf.
Dyma a ddywedodd Rachel Margolis, Uwch-ymchwilydd a swyddog gwerthuso’r NSPCC: “Rydyn ni’n falch iawn o gydweithio â Phrifysgol Caerdydd a Choleg Prifysgol Llundain ar y prosiect ymchwil hwn i greu data cyfoes y mae mawr ei angen ar sut mae pobl ifanc yn byw ac yn dysgu am fod mewn perthynas a rhywioldeb, gan gynnwys ble maen nhw’n cael gwybodaeth ac yn ceisio cymorth.
“Bydd yn ein helpu i ystyried ble mae’r bylchau yn nealltwriaeth plant o’r hyn yw perthynas iach, addysg rhyw a rhywioldeb, beth yw eu hanghenion a’u dewisiadau, a sut y gallai’r NSPCC roi cymorth yn y maes hwn.”
Arbenigwr blaenllaw ym maes astudiaethau rhywedd a rhywioldeb plentyndod ac ieuenctid yw’r Athro Renold. Yn ddiweddar, rhoddon nhw dystiolaeth yn ymchwiliad Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd ar bwnc aflonyddu rhywiol gan gyfoedion ymhlith dysgwyr. Er mwyn gwylio, cliciwch yma.
Dysgwch ragor am eu gwaith ac ymchwil sy’n arwain y byd yma.