Mynd i'r cynnwys
Home » Cyhoeddi adroddiad blynyddol decipher

Cyhoeddi adroddiad blynyddol decipher

 

 

Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein hadroddiad blynyddol cyntaf fel canolfan ymchwil a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Y cyfnod rhwng Ebrill 2020 a mis Mawrth 2021 sydd o dan sylw yn yr adroddiad.

 

 

Bu sawl datblygiad newydd eleni i DECIPHER gan gynnwys ariannwr, partneriaethau ac arweinwyr rhaglenni newydd yn ogystal â phwyslais gwyddonol o’r newydd. Rydym wedi llwyddo i ddatblygu ein rhaglen ymchwil yn sylweddol o ran polisïau cyhoeddus iach, sefydliadau a lleoliadau cyhoeddus, perthnasoedd cymdeithasol ac arloesedd methodolegol. Ar ben hynny, rydym wedi sicrhau incwm ymchwil o bwys a chreu swyddi newydd i Gymru.

Meddai Simon Murphy, Cyfarwyddwr DECIPHer:

Fe wnaeth llunio’r adroddiad blynyddol roi’r cyfle i ni fyfyrio ar ein hallbynnau a’n cyflawniadau eleni. Mae ein tîm yn arbennig o falch o allu sicrhau cyllid ar gyfer Canolfan Iechyd Meddwl Pobl Ifanc newydd Wolfson, yn ogystal â chwarae rhan amlwg yn y gwaith o gefnogi datblygiad polisïau Llywodraeth Cymru yn ystod y pandemig.”

Darllenwch yr adroddiad yma: