Ar Fehefin 27 2020, cyfarfu cydweithwyr rhyngwladol ym maes hunan-niweidio nad yw’n hunanladdiad, yn cynnwys Rachel Parker o DECIPHer, yn rhithiol yng nghynhadledd flynyddol Cymdeithas Ryngwladol Astudio Hunan-niweidio (ISSS).
Nod cynhadledd flynyddol ISSS yw rhannu gwybodaeth arbenigol er mwyn deall, atal a thrin hunan-niweidio nad yw’n hunanladdiad (NSSI)
a meithrin llesiant ymhlith y rheini sydd â phrofiad o fyw gydag NSSI a’r rheini mae NSSI wedi effeithio arnynt.
Cadeirydd a llywydd y gynhadledd oedd yr Athro Doctor Paul Plener, Pennaeth Adran Seiciatreg Plant a Glasoed, MedUni Fiena/Ysbyty Cyffredinol Fiena. Y cynllun gwreiddiol oedd cynnal y gynhadledd yn Fiena, ond symudodd i fformat rhithwir mewn ymateb i gyfyngiadau COVID-19 er mwyn gallu
parhau i’w chynnal. Bu dros 200 o ymchwilwyr, clinigwyr, myfyrwyr, pobl â phrofiad o NSSI, eiriolwyr a rhanddeiliaid eraill yn rhannu eu hymchwil a’u gwaith.
Roedd y gynhadledd yn cynnwys prif anerchiad gan Doctor Barent Walsh, panel o arbenigwyr, cyfarfodydd Grwpiau Diddordeb Arbennig, 37 o gyflwyniadau llafar wedi’u recordio, a phum symposiwm.
“Roedd yn gyfle amhrisiadwy i ddatblygu partneriaethau ymchwil rhyngwladol at y dyfodol.”
Rachel Parker
Cyflwynodd Rachel Parker, Ymchwilydd PhD yn DECIPHer, ei phrotocol diogelwch ar gyfer ymchwil ansoddol ar hunan-niweidio glasoed yn y gynhadledd. Roedd y gwaith hwn yn deillio o’i phrosiect ymchwil sy’n canolbwyntio ar gymorth ymyrraeth i atal hunan-niweidio mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru,a gaiff ei gwblhau ym mis Medi 2021. Mae’r protocol diogelwch ymchwil wedi’i gynllunio i reoli risg posibl o niwed i ddisgyblion ysgol uwchradd mewn ymchwil ymyrraeth i atal hunan-niweidio glasoed. Mae’r protocol wedi llwyddo i’r 37 o ddisgyblion chweched dosbarth a’r cyfranogwyr ifanc o Gymru a gymerodd ran yn y prosiect – roedd gan 36 o’r cyfranogwyr ymchwil hyn brofiad o hunan-niweidio glasoed.
Mae’r protocol diogelwch ymchwil yn ymdrin â rhai o’r rhwystrau ymchwil cyfredol wrth gwblhau ymchwil ymyrraeth i atal hunan-niweidio glasoed mewn ysgolion. Mae’n cyfrannu hefyd at y sail o wybodaeth sy’n ymddangos a’r drafodaeth sy’n amlygu’r materion moesegol cymhleth sy’n gallu codi wrth
gwblhau ymchwil i hunan-niweidio glasoed gyda phobl ifa
Mae Rachel wedi treulio dau ddegawd yn gweithio gyda hunan-niweidio glasoed fel gweithiwr proffesiynol llinell flaen ac ymchwilydd, yn cynnwys fel ymgynghorydd Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed ar grŵp Gorchwyl a Gorffen y DU ar hunan-niweidio glasoed. Mae’r protocol diogelwch ymchwil yn tynnu’n fawr ar brofiad ei hymarfer proffesiynol a’i gwybodaeth. Yr Athro Jonathan Scourfield a Doctor Rhiannon Evans sy’n goruchwylio’r prosiect ymchwil PhD cyfredol hwn.
Dywed Rachel: ‘Cwblhaodd ISSS waith helaeth i drefnu fformat newydd eu cynhadledd ar-lein oedd yn golygu fy mod yn gallu cysylltu ag arbenigwyr byd-eang yn fy maes ymchwil. Fel Ymchwilydd ar Ddechrau Gyrfa roedd hwn yn gyfle amhrisiadwy i fi ddatblygu partneriaethau ymchwil rhyngwladol at y dyfodol, yn cynnwys drwy Raglen Ymchwil Gydweithredol ISSS sy’n cyflenwi mentora gan ymchwilydd NSSI rhyngwladol blaenllaw. Rwyf i’n edrych ymlaen at fanteisio ar y cyfleoedd cyffrous hyn ymhellach yn y dyfodol agos.’
Mae’r Athro Plener wedi cytuno i gynnal y gynhadledd ISSS nesaf yn Fiena yn 2021, ac mae cynrychiolwyr DECIPHer yn edrych ymlaen at fynd yno, yn osygtal â chynllunio ymchwil gydweithredol yn y dyfodol gydag ISSS i fodloni nodau ac amcanion cyffredin gyda’i gilydd. Yn ffodus, mae Parc Ymchwil newydd y Gwyddorau Cymdeithasol, SPARK, sy’n cael ei ddatblygu fel rhan o Gampws Arloesedd £300m Prifysgol Caerdydd, yn debygol o allu harneisio’n sbardun hwn a helpu i fynd â’r gwaith partneriaeth rhyngwladol hwn yn ei flaen. Mwy yn y man!
Mae Rachel Parker yn ymchwilydd yn DECIPHer. Ceir rhagor o wybodaeth am ISSS yma.