Mynd i'r cynnwys
Home » GWEITHDY GWYCH TRIUMPH

GWEITHDY GWYCH TRIUMPH

Gweithdy’n gosod yr agenda ar gyfer gwella iechyd meddwl pobl ifanc, gyda chyfraniad gan y Parter Ieuenctid ALPHA

Mae’r Rhwydwaith Ymchwil Drawsddisgyblaethol ar gyfer Gwella Iechyd Meddwl Cyhoeddus Ieuenctid (TRIUMPH) yn darganfod ffyrdd newydd o wella iechyd meddwl a lles pobl ifanc, yn enwedig ymhlith grwpiau agored i niwed a grwpiau dan anfantais.

Mae’n dod â phobl ifanc, ymarferwyr iechyd, llunwyr polisi a’r rhai sy’n gweithio gyda sefydliadau gwirfoddol ynghyd ag academyddion o’r disgyblaethau clinigol, gwyddorau cymdeithasol, celfyddydau a dyniaethau, dylunio, a chyfrifiadureg.

Mae ALPHA yn un o bedwar sefydliad Partner Ieuenctid TRIUMPH sy’n cefnogi’r rhwydwaith. Helpodd i recriwtio grŵp amrywiol o un ar bymtheg o bobl ifanc o bob rhan o’r Deyrnas Unedig i ffurfio’r Grŵp Cynghori Ieuenctid. Mae’r grŵp hwn yn sicrhau bod pobl ifanc yn cymryd rhan ystyrlon yn nigwyddiadau, gweithgareddau a gwaith ymchwil TRIUMPH.

I ddiffinio’r blaenoriaethau ymchwil ar gyfer rhwydwaith TRIUMPH, trefnodd ALPHA weithdy gosod agenda ar 12 Tachwedd 2019 yn Nhŷ Portland ym Mae Caerdydd. Roedd y gweithdy, a lansiwyd gan y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, wedi dod ag arbenigwyr ym maes iechyd meddwl pobl ifanc ledled Cymru at ei gilydd.

“Roedd yn wych gweld prif amcan ALPHA yn cael ei roi ar waith: sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu clywed a bod eu safbwyntiau’n cael eu hystyried.” Peter Gee

Dywedodd Peter Gee o ALPHA, a drefnodd y gweithdy: ‘Rhoddodd y gweithdy gyfle gwych i bobl o feysydd amrywiol rannu eu harbenigedd, cynllunio’r cyfeiriad ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau’r rhwydwaith yn y dyfodol, a darparu cwmpas ar gyfer cyfleoedd cyllido a chydweithrediadau.

‘Un o’r uchafbwyntiau oedd cydweithredu rhwng y grŵp cynghori ieuenctid ac ymchwilwyr. Roedd yn wych gweld prif amcan ALPHA yn cael ei roi ar waith: sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu clywed a bod eu safbwyntiau’n cael eu hystyried. Bydd yn fuddiol iddynt weld sut mae eu syniadau’n ffurfio prosiectau yn y dyfodol.’

Cynhelir y gweithdy gosod agenda nesaf yn Glasgow ym mis Rhagfyr 2019. Cofrestrwch â’r rhwydwaith i gael gwybod mwy am TRIUMPH a’i ddigwyddiadau yma: http://triumph.sphsu.gla.ac.uk/membership/ .