
Mae’r astudiaeth fwyaf cynhwysfawr o blant ysgol gynradd yng Nghymru wedi datgelu bod bron i draean o ddysgwyr (30%) wedi dweud eu bod nhw’n profi anawsterau emosiynol sylweddol neu arwyddocaol yn glinigol yn 2024.
Mae’r Arolwg Iechyd a Lles Disgyblion mewn Ysgolion Cynradd gan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN) o dros 50,000 o blant hefyd yn nodi bod bron i saith ym mhob deg dysgwr wedi dweud eu bod yn cael problemau cysgu. Dywedodd un ym mhob tri dysgwr eu bod yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol ychydig o weithiau’r wythnos neu bob dydd – gan godi i un ym mhob dau ymhlith plant 10-11 oed. Dywedodd y rhan fwyaf o ddysgwyr eu bod yn dod ymlaen yn dda ag athrawon, cyfoedion ac mewn bywyd ysgol.
Mae’r rhain, a phynciau eraill, oll yn adroddiad cyntaf SHRN ar ysgolion cynradd. Dywed ymchwilwyr, addysgwyr, llunwyr polisïau ac ymarferwyr iechyd fod y canfyddiadau’n sail i greu ymyriadau effeithiol i helpu dysgwyr.
Mae SHRN yn bartneriaeth ymchwil-polisi-ymarfer rhwng Prifysgol Caerdydd, Llywodraeth Cymru, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’r rhwydwaith wedi’i sefydlu ym mhob ysgol uwchradd yng Nghymru ers 2013. Dechreuodd y gwaith o ehangu’r rhwydwaith i ysgolion cynradd gyda chynllun peilot yn 2022, gan arwain at ddrafftio’r adroddiad cyntaf yn 2024. Nod y cam diweddaraf hwn yw rhoi cipolwg ar broblemau sy’n effeithio ar blant rhwng saith ac 11 oed.
Meddai Dr Kelly Morgan, cyfarwyddwr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion yn DECIPHer, Prifysgol Caerdydd: “Mae adroddiad cenedlaethol cyntaf SHRN mewn ysgolion cynradd, sydd wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn taflu goleuni ar ystod o faterion sy’n effeithio ar blant yng Nghymru – gyda’r data ar les yn debygol o fod o bwys aruthrol i ysgolion a gweithwyr iechyd proffesiynol. Er bod saith ym mhob deg (69%) dysgwyr wedi rhoi sgôr o wyth neu’n uwch allan o ddeg pan ofynnwyd am foddhad bywyd, roedd symptomau iechyd meddwl gwael yn tueddu i fod yn fwy cyffredin, a boddhad bywyd yn is ymhlith dysgwyr o deuluoedd llai breintiedig. Roedd boddhad bywyd yn tueddu i ostwng ychydig wrth i’r dysgwyr fynd yn hŷn, ond nid oedd anawsterau emosiynol ac ymddygiadol yn dilyn yr un patrwm clir yn ôl oedran.”
Mae’r canfyddiadau allweddol eraill yn nodi’r canlynol:
- Mae hanner y dysgwyr wedi nodi eu bod wedi cael eu bwlio yn yr ysgol;
- Mae llai na hanner yn bwyta ffrwythau neu lysiau bob dydd;
- Mae un ym mhob deg dysgwr yn profi anawsterau ymddygiadol sy’n glinigol arwyddocaol;
- Mae tua un ym mhob saith dysgwr yn mynd i’r gwely ar ôl 10 pm;
- Mae hanner y dysgwyr yn berchen ar ffôn clyfar;
- Mae fepio’n dod i’r amlwg ymhlith dysgwyr ym mlwyddyn 5 a 6;
- Mae hanner y dysgwyr yn nodi eu bod yn ymarfer corff o leiaf bum gwaith yr wythnos.
Mae ysgolion eisoes yn defnyddio data SHRN yn sail i’w harfer, a chyhoeddir adroddiadau ysgol dienw penodol i bob ysgol sy’n cymryd rhan. Mae’r adroddiadau hyn yn cael eu defnyddio fwyfwy i gefnogi gwaith cynllunio datblygiad ysgolion, i baratoi at arolygiadau Estyn, a chryfhau dulliau ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl a lles.
Yn Ysgol Gynradd Cogan ym Mro Morgannwg, roedd y data peilot wedi amlygu meysydd i’w datblygu o ran lles plant a’u perthnasoedd â’u cyfoedion erbyn Blwyddyn 6. Gyda chefnogaeth gan y tîm Ysgolion sy’n Hyrwyddo Iechyd a Llesiant, cyflwynodd yr ysgol raglen o’r enw ‘Flourish’ – menter wedi’i dargedu gyda’r nod o gefnogi hunan-barch a gwydnwch emosiynol, gan helpu disgyblion i ffynnu’n gymdeithasol ac yn emosiynol.
Meddai Tom Lewis, arweinydd Iechyd a Llesiant yn Ysgol Gynradd Cogan: “Mae SHRN wedi ein galluogi i gynnig cefnogaeth i wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn gyflym i lesiant disgyblion presennol blwyddyn chwech. Rydyn ni wedi parhau i ddefnyddio’r fenter hon gyda chanlyniadau gwych. Mae’n amhrisiadwy i athrawon gael mynediad at dystiolaeth gadarn fel hon i sicrhau bod pob un o’n dysgwyr yn ffynnu.”
Dywedodd Lorna Bennett, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae data newydd Ysgolion Cynradd SHRN yn rhoi cyfle hanfodol inni gael dealltwriaeth well o iechyd a lles plant yng Nghymru. Drwy Rwydwaith Ysgolion Cymru sy’n Hybu Iechyd a Lles, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio’n agos gydag ysgolion i helpu i greu amgylcheddau cadarnhaol a chefnogol lle gall dysgwyr ffynnu. Mae’r canfyddiadau hyn yn tynnu sylw at ein hymrwymiad parhaus i ddefnyddio’r data a’r dystiolaeth ddiweddaraf i lywio dulliau gweithredu ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd a lles. Byddwn ni’n parhau i ganolbwyntio ar gefnogi lles emosiynol a meddyliol, ac i gydweithio ag ysgolion, awdurdodau lleol, a phartneriaid i roi tystiolaeth ar waith i gefnogi canlyniadau iechyd a lles cadarnhaol i bob plentyn.”
Meddai cydawdur yr adroddiad, Dr Shujun Liu, sydd hefyd yn gweithio yn DECIPHer Prifysgol Caerdydd: “Mae’r adroddiad hwn yn cofnodi lleisiau plant ysgol gynradd a’r materion sy’n effeithio arnyn nhw. Drwy rannu eu barn a’u profiadau, mae’r plant sy’n cymryd rhan yn yr ymchwil hwn wedi gwneud cyfraniad hanfodol at y gwaith o lunio ymdrechion sydd â’r nod o wella nid yn unig eu hiechyd a’u lles nhw eu hunain, ond hefyd deilliannau iechyd a lles plant ledled Cymru.
Cymerodd cyfanswm o 510 o ysgolion cynradd ran yn yr astudiaeth o bob un o 22 awdurdod lleol Cymru, sy’n cynrychioli 42% o’r holl ysgolion cynradd a gynhelir gan y wladwriaeth. Un ysgol annibynnol gymerodd ran. Llenwodd cyfanswm o 51,662 o ddysgwyr ym Mlynyddoedd 3 i 6 holiadur SHRN.
“Rydyn ni hefyd yn ddiolchgar iawn i’r staff addysgu y bu eu hamser, eu cefnogaeth a’u hanogaeth yn allweddol wrth alluogi dysgwyr i gymryd rhan. Mae eu hymrwymiad i feithrin amgylcheddau lle mae plant yn teimlo’n ddiogel a’n hyderus i fynegi eu barn a’u safbwyntiau wedi bod yn ganolog i lwyddiant yr arolwg hwn, a rhwydwaith ehangach y SHRN.”
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle: “Mae’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN) yn chwarae rhan bwysig wrth sicrhau bod lleisiau plant a phobl ifanc yn cael eu clywed, ac rwy’n falch ein bod wedi gallu ymestyn yr arolwg i ysgolion cynradd ar lefel genedlaethol eleni.
“Mae’n bwysig ein bod yn clywed yn uniongyrchol gan blant a phobl ifanc er mwyn deall yn well sut maen nhw’n teimlo a beth sy’n effeithio arnyn nhw, er mwyn i ni gynllunio’n gwaith at y dyfodol.
“Roedd rhannau o’r adroddiad hwn yn ddigon i’ch sobri; mae cefnogi iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc yn un o fy mlaenoriaethau. Fel llywodraeth, rydyn ni’n buddsoddi dros £13 miliwn yn flynyddol mewn Dull Ysgol Gyfan i ymdrin ag iechyd meddwl, gyda dros £3 miliwn yn cael ei wario’n uniongyrchol ar gwnsela mewn ysgolion.
“Yn ogystal â hyn, rydyn ni’n parhau i gefnogi ysgolion i weithio gyda theuluoedd a’r gymuned ehangach i ddeall anghenion eu dysgwyr ac i gwrdd â’r rhain.
“Hoffwn ddiolch i’r plant a gymerodd ran yn yr arolwg. Bydd yr wybodaeth yn chwarae rhan bwysig wrth lunio blaenoriaethau’r Llywodraeth, gan gynnwys Cwricwlwm Cymru, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, Strategaeth Iechyd Meddwl, a Phwysau Iach: Cymru Iach. Byddwn ni hefyd yn defnyddio’r canlyniadau hyn yn sail i’n hadolygiad o’r canllawiau gwrth-fwlio i ysgolion.”
Mae rhagor o wybodaeth am SHRN ar gael yma: https://www.shrn.org.uk/cy/.
Cyhoeddwyd yr erthygl hon gyntaf gan Brifysgol Caerdydd.

