Yn rhan o’u gwerthusiad o ddull yr ysgol gyfan o ymdrin â lles emosiynol a meddyliol, holodd ymchwilwyr y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyraethau Cymhleth er Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer) athrawon am les mewn ysgolion
Yn 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y Fframwaith sy’n ymgorffori dull ysgol gyfan o ymdrin â lles emosiynol a meddyliol yn ganllaw statudol i ysgolion. Mae ymchwilwyr DECIPHer sy’n gweithio yng Nghanolfan Wolfson er Iechyd Meddwl Pobl Ifanc wrthi’n gwerthuso’r fframwaith hwn, a hynny mewn astudiaeth y disgwylir iddi barhau rhwng mis Awst 2022 a gwanwyn 2026.
Yn 2023, yn rhan o’r gwerthusiad hwn, siaradodd ymchwilwyr DECIPHer â disgyblion, gan ofyn iddyn nhw greu posteri a oedd yn yn ymwneud â theimlo’n ‘ddiogel’ yn eu hysgolion. Cyhoeddwyd y posteri ym mis Chwefror 2024 a gellir eu gweld yma: Yn ddiogel fel… ysgolion? Ble, ac yng nghwmni pwy, y mae disgyblion yn teimlo fwyaf diogel?
Yr eitem nesaf ar yr agenda oedd cyfweliadau gydag athrawon. Yn 2023, cyfwelodd ymchwilwyr â 36 aelod o staff mewn ysgolion cynradd ac uwchradd, gan ofyn iddyn nhw sut y mae anghenion y disgyblion o ran lles wedi newid ers Covid. Er bod y rhan fwyaf o ddisgyblion yn ymdopi’n dda, daeth ambell i her amlwg i’r golwg. Mae’r posteri’n crynhoi’r hyn a ddywedodd y staff, a gellir darllen y rhain isod. Y pwyntiau allweddol yw:
Athrawon cynradd
- Dywedodd y staff eu bod wedi sylwi ar gynnydd yn nifer yr achosion datblygiadol ymhlith rhai o’u dysgwyr iau.
- Bu’r staff yn trafod y cynnydd yn nifer y dysgwyr a oedd yn ei chael hi’n anos gweithio mewn grwpiau a chyfathrebu â’i gilydd.
- Nododd mwy o ddysgwyr eu bod yn teimlo gorbryder yn yr ysgol.
- Roedd mwy yn wynebu heriau o ran rheoli eu hemosiynau a theimlo gorlwytho synhwyraidd.
- Mae rhai ysgolion yn creu lleoedd ‘diogel’ neu dawel i blant ond yn aml, roedd hyn yn heriol oherwydd diffyg arian a/neu le.
- Roedd ambell i aelod o’r staff yn pryderu am y diffyg hyfforddiant i fedru ymdrin â materion mwy cymhleth, h.y. iechyd meddwl.
- Diffyg amser; cynorthwywyr addysgu sy’n gorfod ymdrin â materion mwy cymhleth; a nodwyd bod rheoli agendâu sy’n cystadlu a’i gilydd yn broblem.
Athrawon uwchradd
- Roedd mwy o ddysgwyr yn nodi eu bod yn teimlo gorbryder.
- Ar y cyfan, roedd presenoldeb y dysgwyr yn is na’r cyfnod cyn y pandemig.
- Dywedodd rhai fod teuluoedd yn ymgysylltu’n well, weithiau o ganlyniad i’r galwadau ffôn rheolaidd i ofyn am les a oedd wedi digwydd yn ystod y cyfnodau clo. Fodd bynnag, dywedodd rhai eraill fod rhai teuluoedd wedi ymddieithrio’n fwy.
- Dod o hyd i le i ddysgwyr yr oedd angen amser i ffwrdd o’r ystafell ddosbarth arnyn nhw; ystyriwyd diffyg amser ac agendâu sy’n cystadlu a’i gilydd yn heriau.
- Roedd ambell i aelod o’r staff yn pryderu am y diffyg hyfforddiant i fedru ymdrin â materion mwy cymhleth.
- Roedd pryderon ynghylch cynnydd yn nisgwyliadau’r dysgwyr a’r teuluoedd ynglŷn â’r hyn yr oedd ysgolion yn gallu ‘ei drwsio’.
Dyma a ddywedodd y Prif Ymchwilydd Dr Rachel Brown:
‘Roedd ein trafodaethau â staff ysgolion ledled Cymru yn taflu goleuni ar eu canfyddiadau o effeithiau hirdymor pandemig Covid-19 ar ysgolion. Ymhlith y rhain roedd y newidiadau a welwyd yn natblygiad a lles meddyliol y dysgwyr, ond hefyd problemau parhaus sy’n baich ar ysgolion o ran lles a chadw staff, yn ogystal â’r heriau sy’n eu wynebu o ran cyflawni diwygiadau sylweddol.
Un peth y sylwyd arno oedd cynifer o ysgolion sy’n mynd y tu hwnt i’r disgwyl i ddiwallu eu dysgwyr ac i gefnogi eu lles, ac mae’r crynodebau hyn yn amlygu’r gost ariannol ac emosiynol y mae hyn yn ei gael ar ysgolion a staff unigol.
Wrth edrych tua’r dyfodol, byddwn ni’n dadansoddi ein hail gylch o ddata cyfweld gyda’r un ysgolion i weld beth sydd wedi newid, sut maen nhw’n rhoi mentrau polisi ar waith, gan gynnwys dull yr ysgol gyfan (WSA) a phroblemau parhaus sy’n effeithio ar les y dysgwr.’
Canfyddiadau athrawon o newidiadau a
heriau i les mewn ysgolion
Ysgolion Cynradd
Canfyddiadau athrawon o newidiadau a
heriau i les mewn ysgolion
Ysgolion Uwchradd
Deunydd darllen pellach
Yn ddiogel fel… ysgolion? Ble, ac yng nghwmni pwy, y mae disgyblion yn teimlo fwyaf diogel?
Fframwaith ar sefydlu dull ysgol gyfan ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol
Flog: Defnyddio dull ysgol gyfan ar gyfer iechyd meddwl yng Nghymru