Maedisgwyli bum gweithiwr proffesiynol yng nghanol eu gyrfa o Namibia dderbyn cymrodoriaeth i astudio sut y gall addysg merched rymuso menywod.
Mae Prosiect Phoenix arobryn Prifysgol Caerdydd wedi sicrhau Statws Canolfan ar gyfer hyd at bum Cymrodoriaeth Broffesiynol y Gymanwlad a fydd yn galluogi’r derbynwyr i gydweithredu a datblygu sgiliau newydd ym maes addysg merched – y thema ar gyfer y dyfarniadau eleni.
Bydd y cymrodyr yn treulio tri mis yn cydweithredu ag ymchwilwyr o’r Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer) yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mharc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol.
Dywedodd yr Athro Judith Hall, Cyfarwyddwr Prosiect Phoenix: “Rydym yn falch iawn o sicrhau Statws Canolfan ar gyfer y cymrodoriaethau hyn ar y thema ‘Addysg Merched: Neb ar ei ôl.’ Ni ddylai unrhyw ferch gael ei gadael ar ei hôl yn ystod ei haddysg.
“Byddwn bellach yn gweithio gyda Dr John Nyambe, Deon Cyswllt yr Ysgol Addysg ym Mhrifysgol Namibia (UNAM), Gweinyddiaeth Addysg Namibia ac Adran y Gwyddorau Cymdeithasol yn UNAM i sicrhau pum ymgeisydd brwdfrydig llawn egni sy’n benderfynol o gyflawni ein nod: cydraddoldeb rhywiol mewn addysg.
“Drwy weithio mewn tîm a chyd-gynhyrchu, rydym yn sicr y bydd y Statws Canolfan hwn yn galluogi cyfeiriad teithio i effaith ystyrlon pan fydd y cymrodyr yn dychwelyd i Namibia.”
Bydd y lleoliadau gwaith yn atgyfnerthu ymgais Llywodraeth Namibia i leihau beichiogrwydd ymysg merched yn eu harddegau drwy addysgu a grymuso menywod yn fwy.
Wrth groesawu’r cymrodoriaethau, dywedodd Dr Nyambe: “Mae hyn yn newyddion gwych, sy’n rhoi gobaith i addysg merched yn ein gwlad. Mae Prifysgol Namibia’n croesawu unrhyw gyfle sy’n bwriadu grymuso merched sy’n blant a gwella addysg merched.”
Yn ystod eu hastudiaethau yn 2022, bydd y cymrodyr yn gallu defnyddio amrywiaeth eang o gyfleusterau yn DECIPHer, gan gynnwys cael hyfforddiant arwain a chymryd rhan mewn gweithdai dysgu myfyriol.
Mae’r cymrodoriaethau wedi’u cydlynu gan Dr Honor Young a Dr Rhiannon Evans o DECIPHer gyda chymorth yr Athro Amanda Robinson, yr Athro EJ Renold a Dr Yulia Shenderovich.
Dywedodd Dr Honor Young, Uwch-ddarlithydd yn DECIPHer: “Rydym yn falch iawn o sicrhau Cymrodoriaethau Proffesiynol y Gymanwlad, ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio a dysgu gyda chydweithwyr ym Mhrifysgol Namibia wrth i ni weithio tuag at ein nod cyffredin o gydraddoldeb rhywiol mewn addysg.”
Ychwanegodd Dr Rhiannon Evans, Uwch-ddarlithydd yn DECIPHer: “Dyma gyfle cyffrous i DECIPHer ac o ran ein huchelgeisiau ar gyfer Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol. Mae cydweithredu’n rhyngwladol yn rhan hanfodol o’n gwaith, a gobeithio y bydd hyn yn arwain at berthynas gyfoethog ac effeithiol yn y dyfodol.”
Mae Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol yn dwyn ynghyd 400 o ymchwilwyr ym maes y gwyddorau cymdeithasol o 13 grŵp i ddatblygu atebion arloesol i broblemau cymdeithasol drwy ymchwil gydweithredol. Bydd yn symud i ganolfan bwrpasol, sbarc | spark, yn ystod gaeaf 2021.
Ymddangosodd yr erthygl hon gyntaf ar wefan Prifysgol Caerdydd.