Mynd i'r cynnwys
Home » Prifysgol Caerdydd yn arwain cangen Cymru canolfan £10 miliwn newydd pedair cenedl y DU ar gyfer ymchwil ymddygiadol

Prifysgol Caerdydd yn arwain cangen Cymru canolfan £10 miliwn newydd pedair cenedl y DU ar gyfer ymchwil ymddygiadol


Tîm BR-UK yn lansiad y rhwydwaith ar 9 Tachwedd 2023

Mae canolfan newydd i’r DU ar gyfer ymchwil ymddygiadol wedi cael ei hariannu er mwyn helpu i fynd i’r afael â heriau cymdeithasol ac economaidd. Cefnogir Behavioural Research UK (BR-UK) gan grant o £10 miliwn gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), a bydd yn ganolbwynt i fuddsoddiad yr ESRC mewn ymchwil ymddygiadol.

Mae deall ymddygiad dynol a sut mae’n llywio sefydliadau, cymunedau a chymdeithasau yn ganolog i fynd i’r afael â heriau byd-eang presennol ac yn y dyfodol. Bydd y cyllid pum mlynedd yn cynorthwyo BR-UK i adeiladu cymuned ymchwil ymddygiadol i fynd i’r afael â’r heriau hyn yn y DU, gan yrru arloesedd rhyngddisgyblaethol a chefnogi polisi cyhoeddus.

Bydd yr Athro Linda Bauld, Cadeirydd Iechyd y Cyhoedd Bruce a John Usher yn Athrofa Usher Prifysgol Caeredin a Phrif Gynghorydd Polisi Cymdeithasol i Lywodraeth yr Alban, yn arwain y Ganolfan ar y cyd â’r Athro Susan Michie, Athro Seicoleg Iechyd a Chyfarwyddwr y Ganolfan er Newid Ymddygiadol yng Ngholeg y Brifysgol, Llundain.

Bydd arweinwyr blaenllaw o amryw ddisgyblaeth mewn wyth prifysgol – Caeredin, UCL, Caerdydd, Manceinion, Rhydychen, Prifysgol Queens Belfast, Sheffield a St Andrews – yn dod ynghyd gyda phartneriaid o’r llywodraeth, o ddiwydiant ac o elusennau.

Ym Mhrifysgol Caerdydd, bydd yr Athro Graham Moore o DECIPHer, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, yn cyd-arwain y thema iechyd a lles, tra bydd yr Athro Nick Pidgeon, Cyfarwyddwyr y Grŵp Deall Risg yn yr Ysgol Seicoleg, yn cyd-arwain ar yr amgylchedd a chynaliadwyedd. Y tu hwnt i academia, mae partneriaid allweddol yn cynnwys Llywodraethau Cymru a’r Alban, adrannau’r llywodraeth ac asiantaethau yng Ngogledd Iwerddon, a sefydliadau sy’n ymwneud â thrafnidiaeth, diogelwch bwyd, amddiffyn iechyd, cyfathrebu, entrepreneuriaeth a meysydd eraill. Yma yng Nghymru, byddwn hefyd yn gweithio’n agos gydag Ashley Gould, sef cyfarwyddwr yr Uned Gwyddorau Ymddygiadol yng Nghanolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant, Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Bydd y cydweithrediad yn cynnig arweinyddiaeth er mwyn harneisio, cysylltu ac ymestyn capasiti a gallu presennol y DU ym maes ymchwil ymddygiadol, gan gynorthwyo â rhoi ymchwil ar waith mewn polisi ac ymarfer.

Bydd BR-UK yn cynorthwyo â llunio polisïau, cyflwyno gwasanaethau ac arloesi yn effeithiol yn y dyfodol, gan gynnwys sefydlu gwasanaeth er mwyn helpu i ddefnyddwyr ymchwil fanteisio ar arbenigedd ymddygiadol i fynd i’r afael â heriau a wynebant, gan gynnwys pan fydd siociau amgylcheddol, gwleidyddol, iechyd neu gymdeithasol yn digwydd.

Mae gan y tîm gynlluniau uchelgeisiol, gan gynnwys sefydlu cronfa i gefnogi prosiectau enghreifftiol er mwyn gyrru datblygiadau mewn ymchwil ymddygiadol.

Bydd ymglymiad cymunedol, tegwch a chyfiawnder cymdeithasol wrth wraidd BR-UK, gyda meddwl trwy systemau a phwysigrwydd cyd-destun yn ganolog iddo.

Mae’r dyfarniad yn rhan o fuddsoddiad £17 miliwn mwy mewn ymchwil ymddygiadol gan yr ESRC, a fydd yn cynnwys cyfleoedd datblygu a hyfforddi i ysgolheigion ac ymarferwyr o sectorau eang. Darllenwch fwy am hynny yma: https://www.ukri.org/news/esrc-to-radically-expand-uk-behavioural-research-capacity/


Mae Twitter BR-UK yma: https://twitter.com/BehaviourRes_UK