This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.
Mae fideo newydd yn dangos gwaith gwych Grŵp Cynghori Ieuenctid Rhwydwaith TRIUMPH ar eu penwythnos cyntaf i ffwrdd
Mae’r Rhwydwaith Ymchwil Drawsddisgyblaethol ar gyfer Gwella Iechyd Meddwl Cyhoeddus Ieuenctid (TRIUMPH) yn dod â phobl ifanc, ymarferwyr iechyd, llunwyr polisi a’r rhai sy’n gweithio gyda sefydliadau gwirfoddol ynghyd ag academyddion o’r disgyblaethau clinigol, gwyddorau cymdeithasol, celfyddydau a dyniaethau, dylunio, a chyfrifiadureg. Maen nhw’n cydweithio i ddarganfod ffyrdd newydd o wella iechyd meddwl a lles, yn enwedig ymhlith grwpiau agored i niwed a grwpiau dan anfantais sydd â’r angen mwyaf.
Mae ALPHA yn un o bedwar sefydliad Partner Ieuenctid TRIUMPH sy’n cefnogi’r rhwydwaith. Helpodd i recriwtio grŵp amrywiol o un ar bymtheg o bobl ifanc o bob rhan o’r Deyrnas Unedig i ffurfio’r Grŵp Cynghori Ieuenctid. Mae’r grŵp hwn yn cyflawni rôl allweddol wrth ddatblygu’r rhwydwaith ac yn sicrhau bod pobl ifanc yn gallu cymryd rhan ystyrlon yn nigwyddiadau, gweithgareddau a gwaith ymchwil TRIUMPH.
Roedd penwythnos y Grŵp Cynghori Ieuenctid yn ffordd wych i bobl ifanc fynegi eu safbwyntiau a chyfarfod â phobl ifanc eraill sy’n awyddus i leisio’u barn.’ Peter Gee, Hwylusydd
Cyfarfu’r Grŵp Cynghori Ieuenctid am y tro cyntaf ym mis Mehefin 2019 ar gyfer cyfarfod preswyl tridiau yn Glasgow. Nod y cyfarfod preswyl hwn oedd pwysleisio pa mor bwysig yw cyfranogiad pobl ifanc trwy eu cynnwys mewn trafodaethau ynglŷn â datblygiad y rhwydwaith.
Dywedodd Peter Gee, a helpodd i hwyluso’r penwythnos: ‘Roedd penwythnos y Grŵp Cynghori Ieuenctid yn ffordd wych i bobl ifanc fynegi eu safbwyntiau a chyfarfod â phobl ifanc eraill sy’n awyddus i leisio’u barn. Er y trafodwyd materion difrifol, roedd amser i gael hwyl hefyd, trwy helfa drysor o amgylch Glasgow, ac i ymlacio. Mae wedi rhoi syniadau i ni i helpu i ffurfio elfen ieuenctid Rhwydwaith TRIUMPH wrth symud ymlaen.’
Y cam nesaf yw diffinio’r blaenoriaethau ymchwil ar gyfer Rhwydwaith TRIUMPH. Bydd ALPHA yn cynnal gweithdy gosod agenda ar 12 Tachwedd yn Nhŷ Portland, Bae Caerdydd, a fydd yn cael ei lansio gan y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams. Bydd hyn yn rhoi cyfle i ddod ag arbenigwyr ym maes iechyd meddwl ieuenctid ledled Cymru at ei gilydd i gynnal trafodaethau cydweithredol ar themâu Rhwydwaith TRIUMPH. Bydd yn amlygu heriau presennol a chyfleoedd ar gyfer ymchwil yn y dyfodol i gefnogi datblygiad mentrau a strategaethau newydd i hybu lles meddyliol pobl ifanc ac atal iechyd meddwl gwael.
Ychwanegodd Peter: ‘Bydd y gweithdy hwn yn gosod y cyfeiriad ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau’r rhwydwaith yn ystod y tair blynedd nesaf, a’r cwmpas ar gyfer cyfleoedd cyllido ymchwil yn y dyfodol a fydd ar gael trwy’r rhwydwaith.’
Anfonwch neges e-bost at GeeP@cardiff.ac.uk i gael gwybod mwy am y gweithdy sydd ar ddod.
Darllenwch flog am benwythnos preswyl y Grŵp Cynghori Ieuenctid yma.
I gael gwybod mwy am Triumph, cliciwch yma.
I gael gwybod mwy am ALPHA, cliciwch yma.