Mynd i'r cynnwys
Home » PENWYTHNOS PRESWYL CYNTAF GRŴP CYNGHORI TRIUMPH

PENWYTHNOS PRESWYL CYNTAF GRŴP CYNGHORI TRIUMPH

 

 

Mae fideo newydd yn dangos gwaith gwych Grŵp Cynghori Ieuenctid Rhwydwaith TRIUMPH ar eu penwythnos cyntaf i ffwrdd

 

 

Mae’r Rhwydwaith Ymchwil Drawsddisgyblaethol ar gyfer Gwella Iechyd Meddwl Cyhoeddus Ieuenctid (TRIUMPH) yn dod â phobl ifanc, ymarferwyr iechyd, llunwyr polisi a’r rhai sy’n gweithio gyda sefydliadau gwirfoddol ynghyd ag academyddion o’r disgyblaethau clinigol, gwyddorau cymdeithasol, celfyddydau a dyniaethau, dylunio, a chyfrifiadureg. Maen nhw’n cydweithio i ddarganfod ffyrdd newydd o wella iechyd meddwl a lles, yn enwedig ymhlith grwpiau agored i niwed a grwpiau dan anfantais sydd â’r angen mwyaf.

Mae ALPHA yn un o bedwar sefydliad Partner Ieuenctid TRIUMPH sy’n cefnogi’r rhwydwaith. Helpodd i recriwtio grŵp amrywiol o un ar bymtheg o bobl ifanc o bob rhan o’r Deyrnas Unedig i ffurfio’r Grŵp Cynghori Ieuenctid. Mae’r grŵp hwn yn cyflawni rôl allweddol wrth ddatblygu’r rhwydwaith ac yn sicrhau bod pobl ifanc yn gallu cymryd rhan ystyrlon yn nigwyddiadau, gweithgareddau a gwaith ymchwil TRIUMPH.

“Roedd penwythnos y Grŵp Cynghori Ieuenctid yn ffordd wych i bobl ifanc fynegi eu safbwyntiau a chyfarfod â phobl ifanc eraill sy’n awyddus i leisio’u barn.” Peter Gee, Hwylusydd

Cyfarfu’r Grŵp Cynghori Ieuenctid am y tro cyntaf ym mis Mehefin 2019 ar gyfer cyfarfod preswyl tridiau yn Glasgow. Nod y cyfarfod preswyl hwn oedd pwysleisio pa mor bwysig yw cyfranogiad pobl ifanc trwy eu cynnwys mewn trafodaethau ynglŷn â datblygiad y rhwydwaith.

Dywedodd Peter Gee, a helpodd i hwyluso’r penwythnos: ‘Roedd penwythnos y Grŵp Cynghori Ieuenctid yn ffordd wych i bobl ifanc fynegi eu safbwyntiau a chyfarfod â phobl ifanc eraill sy’n awyddus i leisio’u barn. Er y trafodwyd materion difrifol, roedd amser i gael hwyl hefyd, trwy helfa drysor o amgylch Glasgow, ac i ymlacio. Mae wedi rhoi syniadau i ni i helpu i ffurfio elfen ieuenctid Rhwydwaith TRIUMPH wrth symud ymlaen.’

Y cam nesaf yw diffinio’r blaenoriaethau ymchwil ar gyfer Rhwydwaith TRIUMPH. Bydd ALPHA yn cynnal gweithdy gosod agenda ar 12 Tachwedd yn Nhŷ Portland, Bae Caerdydd, a fydd yn cael ei lansio gan y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams. Bydd hyn yn rhoi cyfle i ddod ag arbenigwyr ym maes iechyd meddwl ieuenctid ledled Cymru at ei gilydd i gynnal trafodaethau cydweithredol ar themâu Rhwydwaith TRIUMPH. Bydd yn amlygu heriau presennol a chyfleoedd ar gyfer ymchwil yn y dyfodol i gefnogi datblygiad mentrau a strategaethau newydd i hybu lles meddyliol pobl ifanc ac atal iechyd meddwl gwael.

Ychwanegodd Peter: ‘Bydd y gweithdy hwn yn gosod y cyfeiriad ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau’r rhwydwaith yn ystod y tair blynedd nesaf, a’r cwmpas ar gyfer cyfleoedd cyllido ymchwil yn y dyfodol a fydd ar gael trwy’r rhwydwaith.’

Anfonwch neges e-bost at GeeP@cardiff.ac.uk i gael gwybod mwy am y gweithdy sydd ar ddod.

Darllenwch flog am benwythnos preswyl y Grŵp Cynghori Ieuenctid yma.

I gael gwybod mwy am Triumphcliciwch yma.

I gael gwybod mwy am ALPHAcliciwch yma.