Prif Ymchwilydd
Dr Jeremy Segrott
Cyd-ymchwilwyr
Yr Athro Mike Robling, Dr Sue Channon, Dr Elinor Coulman, Dr Rebecca Playle, Dr Lauren Copeland, yr Athro Stavros Petrou
Cefndir
Mae’r Triple P – Positive Parenting Program® yn rhaglen rhianta wyth wythnos effeithiol sy’n helpu teuluoedd â phlant dan 12 oed i feithrin perthnasoedd iach a rheoli ymddygiad eu plant yn hyderus. Mae rhianta a pherthynas rhwng rhieni a phlant yn chwarae rhan allweddol yn natblygiad cymdeithasol ac emosiynol plant.
Yn ystod pandemig COVID-19, addaswyd y rhaglen Triple P grŵp yn gyflym i’w chyflwyno o bell gan ddefnyddio fideogynadledda, (Zoom, WhatsApp). Gall defnyddio darpariaeth o bell leihau rhwystrau i rai rhieni a rhoddwyr gofal sy’n ymuno â’r rhaglen a gostwng y gost. Fodd bynnag, gwnaed y newid i gyflwyno o bell yn gyflym, mewn amgylchiadau eithafol, a gydag addasiadau cyflym. O ganlyniad, mae’n ansicr o hyd a fydd effeithiau cadarnhaol ymyriadau wyneb yn wyneb yn deillio o gyflwyno o bell. Bydd y tîm astudio yn canolbwyntio ar fireinio ymgysylltiad rhieni, gweithredu rhaglenni, gweithrediad grŵp a dynameg, ac agweddau ymarferol ar gyflwyno o bell.
Gall defnyddio darpariaeth o bell leihau rhwystrau i rai rhieni a rhoddwyr gofal sy’n ymuno â’r rhaglen a gostwng y gost. Fodd bynnag, gwnaed y newid i gyflwyno o bell yn gyflym, mewn amgylchiadau eithafol, a gydag addasiadau cyflym… Bydd y tîm astudio yn canolbwyntio ar fireinio ymgysylltiad rhieni, gweithredu rhaglenni, gweithrediad grŵp a dynameg, ac agweddau ymarferol ar gyflwyno o bell.
Nodau ac Amcanion
Bydd yr astudiaeth 3P yn darganfod a all cyflwyno o bell:
- ·Gynyddu ymgysylltiad a chyfranogiad rhieni yn y rhaglen.
- ·Cyrraedd grwpiau sy’n draddodiadol yn cael eu tanwasanaethu.
- Lleihau cost cyflwyno’r rhaglen.
- Dyblygu effeithiolrwydd cyflwyno wyneb yn wyneb.
Dyluniad yr Astudiaeth
Mae’r astudiaeth yn cael ei chynnal gyda Triple P UK, ymarferwyr grŵp Triple P, rhieni/rhoddwyr gofal a phlant 8-12 oed. Bydd pedair ardal awdurdod lleol ledled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cyflwyno fersiynau wyneb yn wyneb ac o bell grŵp Triple P i gyfanswm o tua 96 o rieni wedi’u rhannu’n ddau grŵp. Cyn cyflwyno’r rhaglen, bydd data holiadur yn cael ei gasglu gan rieni/gofalwyr a phlant 8-12 oed. Bydd cwestiynau’n mesur problemau ymddygiad ac emosiynol plant; iechyd; perthynas deuluol; arddull a hyder rhianta; a lles. Bydd y pethau hyn yn cael eu mesur eto 16 wythnos yn ddiweddarach ar ôl i’r rhaglen gael ei chyflwyno. Bydd tîm yr astudiaeth yn ystyried a oes newidiadau cadarnhaol ac a oes unrhyw wahaniaethau rhwng y ddau grŵp.
Bydd tîm yr astudiaeth yn cyfweld â rhai rhieni/gofalwyr ac ymarferwyr a hyfforddwyr Triple P, a bydd rhai sesiynau’n cael eu goruchwylio. Yn olaf, cyfrifir cost yr ymyriad a’i bwysoli yn erbyn unrhyw fuddion i weld a yw’n darparu gwerth da am arian. Yna, bydd tîm yr astudiaeth yn penderfynu a yw’n briodol symud ymlaen i dreial ar raddfa fawr yn y dyfodol.
Cyllidir yr astudiaeth gan Sefydliad Nuffield. Bydd gwefan y prosiect yn darparu crynodebau i academyddion, llunwyr polisi, datblygwyr rhaglenni rhianta, ac aelodau’r cyhoedd. Bydd y tîm ymchwil yn cyhoeddi eu canfyddiadau mewn erthyglau mewn cyfnodolion a chynadleddau academaidd i gyrraedd cynulleidfaoedd academaidd.
Dyddiad dechrau
1 Mawrth 2023
Dyddiad gorffen
1 Gorffennaf 2024
Cyllidwyr
Swm
£342,022