Mynd i'r cynnwys
Home » Rhaglen Ymchwil Iechyd y Cyhoedd NIHR – Timau Astudio sy’n Ymateb i Ymyriadau i Iechyd y Cyhoedd (PHIRST)

Rhaglen Ymchwil Iechyd y Cyhoedd NIHR – Timau Astudio sy’n Ymateb i Ymyriadau i Iechyd y Cyhoedd (PHIRST)

Mae DECIPHer yn cydweithio â Phrifysgol Bryste yn rhan o Dimau Astudiaethau Ymatebol Ymyrraeth Iechyd y Cyhoedd (PHIRST) y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd. Mae hwn yn rhan o PHIRST Insight. Mae PHIRST Insight yn cydweithio ag awdurdodau lleol ledled y DU i gyd-gynhyrchu gwerthusiadau o ymyriadau lleol sy’n ymwneud ag iechyd y cyhoedd. Rhwng 2020 a 2024, mae PHIRST Insight wedi cynnal gwerthusiadau o ddeg ymyriad gan awdurdodau lleol, gyda thri o’r rhain yn cael eu harwain gan ymchwilwyr yn DECIPHer. Mae’r ymyriadau’n rhychwantu ystod o faterion iechyd cyhoeddus a phoblogaethau ar draws y cwrs bywyd gan gynnwys: hyfforddiant meddylfryd twf i athrawon, darpariaeth gyffredinol o brydau ysgol yn rhad ac am ddim mewn ysgolion uwchradd, ceginau gymunedol, seilwaith teithio llesol, prosiectau iechyd meddwl cymunedol, ac offeryn i nodi ac atal diffyg maeth mewn oedolion hŷn. Mae ein dull o ddatblygu’r gwerthusiadau hyn yn canolbwyntio ar gyd-gynhyrchu a chydweithio rhwng llunwyr polisi, ymarferwyr, y cyhoedd, ac ymchwilwyr. I gael rhagor o wybodaeth am PHIRST a chanlyniadau’r gwerthusiadau, ewch i wefan PHIRST: https://phirst.nihr.ac.uk/


Cewch fynediad at gynllun Lledaenu, Effaith, Cyfranogiad, Cyfathrebu ac Ymgysylltu (DIICE) PHIRST Insight yma: https://decipher.uk.net/wp-content/uploads/PHIRST-Insight-DIICE-plan.pdf