Mae DECIPHer yn cael ei gefnogi gan grŵp llywio Ymglymiad y Cyhoedd sy’n dod ag arbenigedd o bob cwr o Gymru at ei gilydd i ddatblygu arfer da a gweithgareddau gwerth ychwanegol. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod strategaethau’n cyd-fynd â Llysgenhadon Ifanc ICC a Swyddfa’r Comisiynydd Plant. Nod ein gweithgareddau Ymglymiad y Cyhoedd yw sicrhau bod ymchwil yn mynd i’r afael ag anghenion a blaenoriaethau pobl ifanc, teuluoedd a’r gymuned ehangach, yn cynyddu ansawdd yr ymchwil sy’n cael ei chyflawni ac yn hwyluso effaith.
Rydym yn cynnwys y cyhoedd ar draws ein prosiectau ymchwil ar bob cam o’r cylch ymchwil. Caiff Ymglymiad y Cyhoedd mewn ymchwil DECIPHer ei hwyluso’n gynnar drwy broses y Grŵp Datblygu Ymchwil (GDY). Grwpiau o academyddion, llunwyr polisi, ymarferwyr a’r cyhoedd yw GDYau, sy’n dod at ei gilydd i nodi meysydd ymchwil o ddiddordeb a datblygu cynigion cyllid ar gyfer prosiectau. Caiff pob GDY ei fonitro ac, os caiff ei fabwysiadu gan DECIPHer, caiff cefnogaeth ei chynnig gan y Swyddog Ymglymiad y Cyhoedd, sy’n gallu helpu i nodi’r grŵp mwyaf addas i gydweithio ag ef a rhoi cyngor ar gynnwys arbenigedd ac adnoddau priodol mewn prosiectau arfaethedig. Mae ein grŵp ymgynghorol i bobl ifanc, ALPHA, yn helpu i sicrhau bod ymchwil y Ganolfan yn berthnasol i bobl ifanc a’u hanghenion trwy lais y defnyddiwr.
Mae cyfranogiad cynnar yn sicrhau bod cyfraniad y cyhoedd yn ystyrlon a bod ceisiadau am gyllid prosiect yn adlewyrchu anghenion y cyhoedd ac yn cynnwys adnoddau digonol.
Gofynnom i rai o’n hymchwilwyr fyfyrio ar eu defnydd o rwydweithiau ymglymiad y cyhoedd a’r cymorth y gallwn ei gynnig:
Dr Rachel Brown
‘Ymgynghori â defnyddwyr gwasanaeth digartref yng Nghanolfan Hope, Llundain: Roedd hyn i gefnogi datblygiad cynnig i NIHR, a ariannwyd (SCeTCH) wedi hynny. Ymgynghorwyd â defnyddwyr y gwasanaeth ar ddylunio’r astudiaeth, gan gynnwys strategaeth recriwtio a’r dull gwerthuso. Ymgynghorwyd â’r un ganolfan yn ystod yr arbrawf dilynol i roi adborth ar offerynnau casglu data.
Galluogodd y gwaith hwn i’r cynnig fod yn fwy realistig ac yn ymatebol i anghenion defnyddwyr y gwasanaeth, ac mae wedi helpu â chyfraddau dargadw yn yr arbrawf dilynol. Ar ben hynny, cynhwyswyd rheolwyr y gwasanaeth yn nhîm y cynnig fel arweinydd ymglymiad cleifion a’r cyhoedd (PPI) i gynnig llais arbenigol mewn dylunio a chwblhau astudiaethau ac mae dau aelod PPI â phrofiad bywyd o ddigartrefedd yn aelodau o Bwyllgor Llywio’r Arbrawf.
Defnyddiwyd safonau ymglymiad y cyhoedd y DU i gynorthwyo i ddylunio gweithgareddau’r astudiaeth, mewn ymgynghoriad â rheolwr arbrawf NIHR.’
Dr Hayley Reed
‘Mae grŵp ymgynghori â phobl ifanc ALPHA wedi cyfrannu at gefnogi fy mhrosiect Cymrodoriaeth Iechyd HCRW. Maent wedi cymryd rhan unwaith hyd yn hyn er mis Hydref 2022 pan ddechreuodd y gymrodoriaeth, ond maent wedi’u hariannu ar gyfer tair sesiwn arall.
Mynychais gyfarfod ALPHA â 15 o bobl ifanc ym mis Rhagfyr 2022 er mwyn iddynt allu rhoi cyngor i mi ar bedwar maes ymchwil, sef: Enw prosiect y Gymrodoriaeth; rhoi cyngor ar sut rydym yn siarad â myfyrwyr ysgol am y ‘canol coll’, sef term nad yw pobl ifanc yn gyfarwydd ag ef, yn gyffredinol; adolygu’r dogfennau ymchwil cynradd i fyfyrwyr (Ffurflenni Caniatâd a Thaflenni Gwybodaeth); a helpu i lywio sut y cynhaliom y grwpiau ffocws gyda myfyrwyr ysgol, gan gynnwys pa gwestiynau roeddent yn credu y
dylem eu gofyn.
Gwnaeth hyn wahaniaeth sylweddol i sut y gwnaethom ysgrifennu a siarad am y ‘canol coll’, gan osgoi’r term hwnnw’n gyfan gwbl mewn llenyddiaeth ymchwil a grwpiau ffocws. Gwnaethant ein helpu hefyd i feddwl am sut y gallem gynnal grwpiau ffocws cyfranogol â gweithgareddau gyda myfyrwyr ysgol fel ffordd fwy derbyniol o siarad â phobl ifanc am iechyd meddwl.’
Dr Jeremy Segrott
‘Mae ein prosiect Gwobr Data Iechyd Meddwl a ariannwyd gan Wellcome Trust wedi defnyddio dyluniad sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr i gynnwys nifer o randdeiliaid mewn cylchoedd o gyfranogiad i ddatblygu dangosfwrdd ar lefel ysgolion. Rydym wedi cynnal tri chylch o adborth defnyddwyr yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i gynnwys pobl ifanc (o grwpiau ymgynghorol ALPHA a Chanolfan Wolfson), myfyrwyr ysgolion uwchradd, staff ysgolion, Cydlynwyr Ysgolion Iach a Chydlynwyr Gweithredu Ymagweddau Ysgol Gyfan.
Trwy ein Grŵp Ymgynghorol, rydym hefyd wedi cynnwys safbwyntiau academyddion iechyd blaenllaw, ymgynghorwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru ac arbenigwyr technoleg ddigidol. Gan fod y dangosfwrdd wedi’i gyd-greu o’r dechrau, bu’r gwaith hwn yn hanfodol o ran datblygu dangosfwrdd hygyrch a hawdd ei ddefnyddio i ysgolion ddeall a defnyddio eu data SHRN.
Rydym wedi ymdrechu i gynnwys cymaint â phosibl o safbwyntiau, er enghraifft trwy fynychu digwyddiadau haf SHRN er mwyn i ni allu cynnwys athrawon ysgol uwchradd o dros 100 o ysgolion ac ymuno â chyfarfodydd cenedlaethol ar gyfer Cydlynwyr Ysgolion Iach, er mwyn iddynt allu cael eu cynnwys, os oeddent yn dymuno. Roedd cynnwys pobl ifanc yn flaenoriaeth hefyd, gyda’r gobaith y gellir rhannu’r dangosfwrdd â myfyrwyr mewn ysgolion uwchradd. Cydweithiom â grwpiau Wolfson ac ALPHA i gynnig ystod eang o brofiad, gan gynnwys y rhai sydd â phrofiad bywyd o broblemau iechyd meddwl.’
Dr Rebecca Anthony
‘Gweithiodd Emily Lowthian (Ymglymiad y Cyhoedd, Prifysgol Abertawe) a minnau ar brosiect yn archwilio patrymau defnyddio’r rhyngrwyd ymhlith pobl ifanc a’r cysylltiad â deilliannau iechyd meddwl a lles. Ar gyfer yr astudiaeth, ymgynghorom â dau grŵp o ymgynghorwyr pobl ifanc rhwng 11 a 18 oed (ar ddechrau’r astudiaeth a thua’r diwedd); sef Grŵp Ymgynghorol Pobl Ifanc Canolfan Wolfson a rhwydwaith Triumph. Helpodd y bobl ifanc i ddewis y newidynnau i’w cynnwys yn y dadansoddiad, gan gynnwys bod â phroffil cyfryngau cymdeithasol, a siapiodd y deilliannau.
O ran lledaenu, gwnaethant awgrymu mai’r ffordd orau o gyrraedd pobl ifanc sydd mewn perygl oherwydd lles gwael oedd trwy apiau cyfryngau cymdeithasol fel Instagram a TikTok. Archwiliom lawer o ddyluniadau a ffyrdd o rannu ein canfyddiadau, a chytunodd y grwpiau mai cartŵn fyddai’n fwyaf effeithiol. Yn ogystal, cynlluniwyd fy nghymrodoriaeth ar sail ‘dogfen cipolwg ar ein blaenoriaethau’ Lleisiau CASCADE a digwyddiad ‘Can You See Me?’ The Verbatim Formula, a oedd yn amlygu gwella’r berthynas â gofalwyr a phobl eraill fel blaenoriaeth glir.
Mae fy nghymrodoriaeth yn sicrhau bod grŵp nad oes ymchwil ddigonol iddo, sef plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, yn cael ei gynnwys mewn ymchwil. Ar ben hynny, ffocws y gwaith fydd gwella eu deilliannau iechyd meddwl a lles. Yn ogystal, trwy gynnwys pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal a gofalwyr maeth/gofalwyr sy’n berthnasau yn weithredol yn y broses ymchwil, mae’n galluogi’r grwpiau hyn i gael llais.
Mae cydraddoldeb ac amrywiaeth wrth wraidd fy nghymrodoriaeth; bydd yr holl ddogfennau ymchwil yn cael eu cyfieithu i’r Gymraeg a chaiff deunyddiau astudio eu hadolygu gan y Pwyllgor Moeseg hefyd, yn ogystal â grwpiau Ymglymiad Cleifion a’r Cyhoedd, i amlygu unrhyw broblemau yn ymwneud â hygyrchedd. Yn ail, caiff strategaethau recriwtio eu monitro’n weithredol i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i greu sampl amrywiol yn barhaus.’