Mynd i'r cynnwys
Home » Sbarduno ymchwil ym maes iechyd a gofal yng nghymru

Sbarduno ymchwil ym maes iechyd a gofal yng nghymru

 

 

Mae carfan o academyddion talentog o Barc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol (SBARC) Prifysgol Caerdydd ymhlith rhestr o Uwch Arweinwyr Ymchwil sydd wedi’i gyhoeddi gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

 

 

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (HCRW) wedi penodi tri uwch arweinydd o’n canolfannau ymchwil SBARC, i chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o arwain a datblygu’r gymuned ymchwil iechyd a gofal yng Nghymru. I gydnabod y rôl bwysig hon, bydd yr uwch arweinwyr ymchwil hyn hefyd yn derbyn gwobrau ymchwil yn ôl disgresiwn, yn flynyddol, i gefnogi eu gweithgarwch ymchwil eu hunain. Maent yn ymuno ag un ar ddeg uwch arweinydd ymchwil arall o bob cwr o Gymru, ac mae gan lawer ohonynt hwythau gysylltiadau cryf â SBARC.

Delwedd: Will Scott

Mae Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol yn dod â chanolfannau a sefydliadau ymchwil sy’n arwain yn rhyngwladol, at ei gilydd, yn sbarc|spark ar Gampws Arloesedd Caerdydd. Mae tîm ymchwil rhyngddisgyblaethol SBARC yn mynd i’r afael â phroblemau sy’n effeithio arnom i gyd. Mae’r rhain yn cynnwys achosion diweithdra a ffyrdd o’n gwneud yn fwy iach a diogel.

Dywed yr Athro Chris Taylor, Cyfarwyddwr Academaidd, SBARC “Rwy’n croesawu’r penodiadau hyn yn fawr wrth i ni ddechrau ar ein taith yn SBARC. Maent yn dangos ein cryfderau, yn enwedig ym meysydd ymchwil iechyd a gofal, a byddant yn ein helpu i ddatblygu rhagor o gydweithio â phrifysgolion a sefydliadau eraill sy’n gweithio yn y gymuned iechyd a gofal.”

Mae’r aelodau o gymuned SBARC a benodwyd yn Uwch Arweinwyr Ymchwil yn cynnwys:

Yr Athro Donald Forrester

Mae ymchwil yr Athro Forrester ym maes gwasanaethau i blant sy’n agored i niwed yn canolbwyntio ar y berthynas rhwng arferion proffesiynol a’r canlyniadau i blant a’u teuluoedd. Ers 2016 mae wedi bod yn Gyfarwyddwr CASCADE, sy’n un o’r prif ganolfannau ar gyfer ymchwil ym maes gofal cymdeithasol plant yn y DU. Mae’r ganolfan hefyd yn gartref i ExChange, rhwydwaith ymgysylltu ymchwil gofal cymdeithasol Cymru gyfan.

Yr Athro Graham Moore

Mae’r Athro Moore yn gweithio ar ystod o fuddsoddiadau a seilweithiau ymchwil, gan gynnwys y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth, a’u Gweithredu ym maes Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer), a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, a Chanolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc – y ddau yn aelodau o SBARC. Mae’n aelod o gonsortiwm SPECTRUM a ariennir gan UKPRP sy’n canolbwyntio ar ffactorau masnachol sy’n effeithio ar iechyd ac anghydraddoldebau iechyd.

Yr Athro Jonathan Scourfield

Mae’r Athro Scourfield yn Athro Gwaith Cymdeithasol ac yn Ddirprwy Gyfarwyddwr CASCADE, y Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol i Blant. Mae hefyd yn Gyd-Gyfarwyddwr Ymchwil yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ac yn gyd-arweinydd arbenigol ar gyfer ymchwil gofal cymdeithasol yng Nghymru. Rhwng mis Ionawr 2018 a mis Mai 2021, cafodd yr Athro Scourfield ei secondio i Lywodraeth Cymru yn gynghorydd polisi arbenigol i’r Gweinidog sy’n gyfrifol am ofal cymdeithasol.

Mae staff eraill Prifysgol Caerdydd a benodwyd yn Uwch Arweinwyr Ymchwil yn cynnwys:

Yr Athro Kerry Hood

Treuliodd yr Athro Hood ran gyntaf ei gyrfa yn canolbwyntio ar ymchwil ym maes gofal sylfaenol ac yn 2006 sefydlodd Uned Dreialon De-ddwyrain Cymru a dechreuodd ddatblygu portffolio ymchwil ehangach. Mae ei diddordebau ymchwil methodolegol penodol yn ymwneud â dylunio treialon, mesur canlyniadau, a chynhwysiant o ran ymchwil. Mae’r Athro Hood yn gyd-arweinydd ar y Gweithgor Partneriaeth Ymchwil ym maes Treialu Methodolegau ar gyfer Cynnal Treialon.

Yr Athro Adrian Edwards

Mae Adrian yn Athro Ymarfer Cyffredinol ym Mhrifysgol Caerdydd. Ef yw Cyfarwyddwr Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru a Chyfarwyddwr Canolfan PRIME Cymru sef Canolfan Cymru Gyfan ar gyfer Ymchwil Gofal Sylfaenol a Gofal Brys (gan gynnwys ymchwil heb ei drefnu), mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol De Cymru.

Yr Athro Monica Busse

Mae’r Athro Busse yn ffisiotherapydd siartredig, ac yn fethodolegydd treialon sydd yn gweithio yng Nghanolfan Treialon Ymchwil (CTR) Prifysgol Caerdydd. Mae’n Gyfarwyddwr Treialon y Meddwl, yr Ymennydd a Niwrowyddoniaeth, ac yn Uwch Arweinydd Ymchwil ym maes Iechyd a Gofal yng Nghymru.

Yr Athro Colin Dayan

Yn 2010, cafodd Yr Athro Dayan ei benodi’n Gadeirydd Diabetes a Metaboledd Clinigol ac yn Bennaeth yr Adran yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd. Bu’n Gyfarwyddwr ar y Sefydliad Meddygaeth Foleciwlaidd ac Arbrofol o 2011 i 2015. Yn 2017, fe’i penodwyd i swydd Athro Endocrinoleg a Diabetes ym Mhrifysgol Bryste, yn swydd ar y cyd â Chaerdydd.

Yr Athro William Gray

Symudodd yr Athro Gray i fod yn Gadeirydd Niwrolawdriniaeth Swyddogaethol yng Nghaerdydd yn 2011, lle sefydlodd Uned Ymchwil Biofeddygol Atgyweirio’r Ymennydd a Niwrotherapiwteg Mewngreuanol (BRAIN), y mae hefyd yn ei chyfarwyddo. Mae ei ddiddordebau clinigol mewn llawfeddygaeth epilepsi a dosbarthu celloedd a genynnau i’r ymennydd dynol i’w hatgyweirio.

Yr Athro Ian Jones

Mae Ian yn Athro Seiciatreg yn Is-adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol Prifysgol Caerdydd, ac yn Seiciatrydd Ymgynghorol Anrhydeddus yn Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a’r Fro. Mae’n Gyfarwyddwr y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl  a chyda chydweithwyr mae’n arwain y Rhwydwaith Ymchwil Anhwylder Deubegynol.