Mynd i'r cynnwys
Home » Sgwrs Gydag Uwch Swyddog Ymgysylltu Â’r Cyhoedd Newydd DECIPHer

Sgwrs Gydag Uwch Swyddog Ymgysylltu Â’r Cyhoedd Newydd DECIPHer

  • Flog

Sophie Jones, 24, yw Uwch Swyddog Ymgysylltu â’r Cyhoedd newydd DECIPHer ac mae’n aelod hirsefydlog o’r tîm ALPHA. Yma mae’n sôn wrthym ni sut yr helpodd ei phrofiad a’i sgiliau hi i sicrhau’r rôl.

Sophie Jones

Dywedwch ychydig wrthym ni amdanoch chi eich hun


Rwy’n Weithiwr Ieuenctid a Chymuned cymwysedig ac rwyf i hefyd newydd orffen fy PGCE PCET ym Met Caerdydd ac yn dychwelyd i gwblhau fy meistr mewn Iechyd Cyhoeddus Cymhwysol. Y tu allan i’r gwaith ac addysg, rwy’n mwynhau gwirfoddoli gydag elusen hwylio ieuenctid ym Mae Caerdydd, mynd allan am fwyd a rhedeg fy mlog am fy niabetes ar Instagram!

Felly sut ddechreuoch chi ymwneud ag ALPHA?


Roeddwn i’n rhan o Fforwm Ieuenctid Caerffili ers pan oeddwn i’n 11 oed, sef prosiect ieuenctid sy’n gadael i leisiau pobl ifanc gael eu clywed wrth wneud penderfyniadau. Ar y pryd, roedd Hayley Reed yn gadael i fynd yn Swyddog Ymgysylltu â’r Cyhoedd yn DECIPHer a gofynnodd a hoffai rhai ohonom ni ymuno. Ymunais i a chwech arall ac roeddwn i’n rhan o ALPHA tan i mi fod yn 20 oed cyn i fy astudiaethau brysuro. Yn ystod y cyfnod hwnnw fe gefais i gymaint o brofiadau, o gyfweld ag aelodau newydd o staff a chymryd rhan mewn sesiynau ALPHA gwahanol, i gynrychioli Cymru yn y Gynhadledd Arolwg Ieuenctid HBSC gyntaf erioed yn St Andrews yn yr Alban, i ddathlu 30 mlynedd o’r arolwg.

Yn 16 oed, gadewais i’r ysgol a gadael y coleg o fewn mis gan ddod yn NEET (ddim mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant) am rai misoedd, yn methu penderfynu ar yrfa i fynd amdani. Penderfynais roi cynnig ar waith ieuenctid ar ôl bod yn rhan o ddau brosiect ieuenctid gwych am gynifer o flynyddoedd. Helpodd fy mhrofiadau ALPHA, ynghyd â fy ngwaith yn y Fforwm Ieuenctid, fi i gyrraedd y brifysgol ar gyfer fy ngradd israddedig, sef BA Anrh mewn Gwaith Ieuenctid a Chymuned. Gan mai dim ond TGAU oedd gen i, roeddwn i’n gallu rhannu fy mhrofiadau yn y cyfweliad a chefais gynnig diamod yn y fan a’r lle. Rhywbeth y byddaf i’n fythol ddiolchgar amdano!

‘Rwyf i am sicrhau bod lleisiau plant a
phobl ifanc yn cael eu clywed, gyda llawn
cymaint o gyfleoedd ag yr oeddwn i’n ddigon
ffodus i’w cael.’

SOPHIE


Sut y datblygodd eich rôl yn ALPHA?

Ym mis Tachwedd 2018, gwelais hysbyseb swydd ar gyfer Gweithiwr Cymorth Ieuenctid yn DECIPHer. Cyflwynais gais ac roeddwn i’n ddigon lwcus i gael y swydd. Roedd yn swydd wych i fod ynddi oherwydd roeddwn i’n gallu rhannu fy mhrofiad a fy mhersbectif o fod yn berson ifanc ar ALPHA, a helpodd hynny’n fawr gyda chynllunio gan fy mod i’n gwybod beth oedd yn gweithio’n dda.

Ac rydych chi bellach newydd eich penodi’n Uwch Swyddog Ymgysylltu â’r Cyhoedd! Beth fyddwch chi’n dod gyda chi i’r rôl newydd?


Un peth sy’n gwbl unigryw i mi yn y rôl yw fy mod wedi ymwneud â phob rôl sy’n gysylltiedig ag ALPHA. Gallaf ddefnyddio fy mhrofiad o fod yn aelod o ALPHA ac yn weithiwr ieuenctid a gallaf gefnogi pob agwedd ar waith DECIPHer ynghyd â fy mhrofiad addysgu. O weithio mewn gwahanol awdurdodau lleol yn y sector gwaith ieuenctid a chyn hynny i gorff trydydd sector cenedlaethol, rwyf i wedi adeiladu rhwydwaith cryf o weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phobl ifanc y byddwn i wrth fy modd yn eu tynnu i mewn i waith DECIPHer.

Beth yw eich gobeithion / dyheadau ar gyfer gweithio yn DECIPHer?


Rwyf i am sicrhau bod llais plant a phobl ifanc yn cael eu clywed, gyda llawn cymaint o gyfleoedd ag yr oeddwn i’n ddigon ffodus i’w cael. Rwy’n gobeithio cyflwyno pobl newydd i DECIPHer a chodi ymwybyddiaeth o’r gwaith sy’n cael ei wneud yma.

Unrhyw gyngor i bobl sydd am ddilyn yr un llwybr â chi?


Manteisiwch ar bob cyfle posib gan na fyddwch chi byth yn gwybod pa ddrysau y gallan nhw eu hagor i chi, a pheidiwch ag ofni gofyn am help ar hyd y ffordd!

Ceir rhagor o wybodaeth am ALPHA yma.