Mynd i'r cynnwys
Home » CHETS II: Cysylltiad plant â mwg ail-law mewn mannau ‘preifat’

CHETS II: Cysylltiad plant â mwg ail-law mewn mannau ‘preifat’

Tagiau:

Mae DECIPHer wedi gweithio’n agos â Llywodraeth Cymru ar ostwng y drwg y mae mwg tybaco ail-law yn ei wneud i blant.

 

 

Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i gynnig cyflwyno deddfwriaeth yn erbyn ysmygu mewn mannau cyhoeddus ac, yn 2007, fe wnaeth wahardd ysmygu mewn mannau cyhoeddus, fel barrau a bwytai. Roedd deddfwriaeth yn erbyn ysmygu wedi wynebu gwrthwynebiad gan ymgyrchwyr yn dadlau dros yr hawl i ysmygu. Hawliont y byddai’r ddeddfwriaeth yn niweidio plant, oherwydd byddai rhieni yn ysmygu gartref yn lle hynny. Dangosodd astudiaethau gan DECIPHer yn astudiaeth Cysylltiad Plant â Mwg Tybaco (CHETS) fod hyn yn ddi-sail. Yn hytrach, roedd cysylltiad plant â mwg tybaco ail-law (a elwir hefyd yn ‘ysmygu goddefol’) wedi gostwng.

Fodd bynnag, darganfu CHETS fod cyfran fawr o blant yn parhau i ddod i gysylltiad â mwg goddefol. Roedd hyn yn fwyaf cyffredin i blant â rhiant oedd yn ysmygu, ac i blant o deuluoedd tlotach. Mae presenoldeb parhaus ysmygu goddefol mewn cartrefi a cheir teuluol yn golygu bod y mannau ‘preifat’ hyn yn ganolog i gyfyngu ar gysylltiad plant â mwg goddefol.

“Os ydych o’r farn na ddylai ymddygiadau preifat gael eu rheoleiddio oni bai eu bod yn achosi niwed sylweddol i eraill, mae’n hawdd gwrthwynebu dadleuon am hawliau’r ysmygwr â’r ddadl dros hawl y plentyn i anadlu aer glân.”

Ymchwiliodd ymchwil pellach gan DECIPHer i’r ffordd yr oedd ysmygu mewn ceir a chartrefi wedi newid dros y blynyddoedd diwethaf. Darganfu astudiaeth CHETS II fod ysmygu mewn cartrefi a cheir wedi gostwng yn sylweddol rhwng 2008 a 2013, ac ymddengys fod tuedd gynyddol i ystyried bod ysmygu gerbron plant yn annerbyniol. Fodd bynnag, mae cyfran sylweddol o blant yn dod i gysylltiad o hyd ag ysmygu goddefol mewn ceir, ac roedd hyn ddwywaith yn fwy tebygol i blant o’r teuluoedd tlotaf, o gymharu â phlant o’r teuluoedd mwyaf cefnog.

Amlygodd yr ymchwil hon y drwg parhaus i blant a achosir gan gysylltiad â mwg mewn ceir. Fel y dadleuodd y prif ymchwilydd, y Dr. Graham Moore mewn erthygl yn The Conversation,

Dan ddylanwad yr ymchwil hon yn rhannol, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyflwyno gwaharddiad ar ysmygu mewn ceir sy’n cludo plant. Yn ogystal â’r effaith ar ymddygiadau ysmygu unigolion, mae’r ddeddfwriaeth hon yn gam symbolaidd clir o blaid y farn nad yw ysmygu mewn ceir sydd â phlant ynddynt yn dderbyniol. Felly, mae gan yr ymchwil hon oblygiadau i normau cymdeithasol yn ymwneud â derbynioldeb ysmygu gerbron plant, yn uniongyrchol trwy ddarganfyddiadau’r ymchwil a thrafodaeth ddilynol, ac yn anuniongyrchol trwy ddylanwadu ar ddeddfwriaeth.