Mynd i'r cynnwys
Home » Ymchwil » Rhaglenni » Amgylchiadau A Sefydliadau Iach » Integreiddio iechyd a lles yng nghwricwlwm yr ysgol: Ymchwiliad dulliau cymysg i’r paratoadau ar gyfer diwygio’r cwricwlwm ledled Cymru a’i effeithiau ar iechyd a lles

Integreiddio iechyd a lles yng nghwricwlwm yr ysgol: Ymchwiliad dulliau cymysg i’r paratoadau ar gyfer diwygio’r cwricwlwm ledled Cymru a’i effeithiau ar iechyd a lles

Prif Ymchwilwyr


Dr Sara Long; Graham Moore


Cefndir


Gall ysgolion fod yn ddylanwad da neu ddrwg ar iechyd a lles pobl ifanc. Maent yn lleoliadau pwysig ar gyfer ymyrraeth gynnar er mwyn atal problemau iechyd a lles diweddarach. Gall atal effeithiol leihau costau i wasanaethau iechyd yn ddiweddarach mewn bywyd. Ar hyn o bryd mae system addysg Cymru’n mynd drwy ddiwygiadau sylweddol. O 2022 ymlaen, bydd pob ysgol yn gweithredu cwricwlwm newydd, a fydd, am y tro cyntaf, yn gosod Iechyd a Lles wrth wraidd y dysgu. Un o nodau’r cwricwlwm yw y bydd pob plentyn yng Nghymru yn “unigolyn iach a hyderus”. Bydd iechyd a lles yn un o chwe Maes Dysgu a Phrofiad ochr yn ochr â’r Celfyddydau Mynegiannol; y Dyniaethau; Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu; Mathemateg a Rhifedd, a Gwyddoniaeth a Thechnoleg.

Gallai diwygio ysgolion gyflwyno manteision cyffredinol i ddisgyblion, ysgolion a’r gymdeithas ehangach; ond gallai hefyd arwain at niwed anfwriadol. Dyna pam ei bod yn bwysig bod gwerthusiadau o ansawdd uchel yn cyd-fynd â pholisïau newydd fel hwn. Mae’r ymchwil hon yn cynnig cyfle mewn amser cyfyngedig i osod y sylfeini ar gyfer gwerthusiad ansawdd uchel o effeithiau’r cwricwlwm newydd ar iechyd a lles disgyblion.


Nodau ac Amcanion


Nod yr ymchwil yw: i) deall nodau’r diwygiadau, a’r prosesau ynghylch eu cyflwyno, o safbwyntiau rhanddeiliaid ym mholisi addysg Cymru; ii) nodi mesurau priodol o iechyd a lles disgyblion, a mapio tueddiadau mewn iechyd a lles cyn y diwygiadau er mwyn barnu llwyddiant y diwygiadau’n ddiweddarach; iii) ceisio barn staff ysgolion ar y cwricwlwm newydd, a sut y bydd yn gweithio’n ymarferol; iv) dod â’r canfyddiadau ynghyd, gan ddarparu tirwedd ar gyfer cynnal gwerthusiad ystyrlon a manwl o effaith y diwygiadau ar iechyd a lles disgyblion yng Nghymru.


Cynllun yr Astudiaeth


Cynhaliwyd cyfweliadau gyda phobl y mae eu gwaith yn cysylltu’n strategol â pholisi addysg yng Nghymru. Defnyddir y cyfweliadau hyn i ddeall barn pobl am rôl ysgolion o ran iechyd a lles; eu barn am sut y bydd y diwygiadau’n edrych mewn gwirionedd; a sut i ddangos a yw’r cwricwlwm newydd yn llwyddiannus. Byddwn hefyd yn mesur iechyd a lles disgyblion nad ydynt wedi derbyn y cwricwlwm newydd, ac o hyn byddwn yn sefydlu grŵp o ddisgyblion i gymharu a chyferbynnu yn erbyn disgyblion sy’n derbyn y cwricwlwm newydd yn y blynyddoedd i ddod. Bydd rhagor o gyfweliadau gyda staff ysgolion yn ein helpu i ddeall sut y gallai’r cwricwlwm newydd gyflawni ei nodau ar gyfer pobl ifanc, ysgolion a’r gymdeithas ehangach. Byddwn wedyn yn dod â’r holl ganfyddiadau at ei gilydd, er mwyn datblygu darlun o sut y mae disgwyl i’r cwricwlwm weithio. Bydd hyn yn llywio sut y caiff ei gyflwyno a’i werthuso. Ar ddiwedd y gymrodoriaeth, byddwn yn gwneud cais i ariannwr ymchwil i werthuso’r diwygiadau.

Cynnwys y cyhoedd a lledaenu gwybodaeth. Ymgynghorir â phartneriaid anacademaidd a’r cyhoedd, gan gynnwys staff ysgolion, partneriaid polisi, a rhieni’r disgyblion drwy gydol y gymrodoriaeth. Ceir strategaeth i gyd-fynd â’r ymchwil ar gyfer cyfleu canfyddiadau i’r holl bobl a allai elwa. Yn ogystal â chyhoeddi mewn cyfnodolion gwyddonol, byddwn yn creu llyfrynnau ac yn defnyddio sianeli cyfryngau cymdeithasol fel Twitter, a gweminarau gyda staff ysgolion i gyrraedd cynulleidfaoedd eang. Bydd grŵp o bobl ifanc yn ein cynghori drwy gydol yr astudiaeth.


Rhagor o wybodaeth a chyhoeddiadau


The Mother of All Fellowships Blog gan Sara Long, 2019

Cwricwlwm ar gyfer iechyd a lles plant Blog gan Sara Long, 2023

School health and wellbeing and national education system reform: A qualitative study Sara Long, Jemma Hawkins, Simon Murphy, Graham Moore. British Educational Research Journal, 2023

Mae newidiadau i’r ffordd y caiff ysgolion eu hasesu a dysgu proffesiynol gwell yn hanfodol er mwyn sicrhau llwyddiant diwygiadau addysg yng Nghymru, yn ôl astudiaeth – Erthygl newyddion, 2023


Dyddiad dechrau


Hydref 2019


Dyddiad gorffen


Yn wreiddiol mis Medi 2022; ariannwyd estyniad tan fis Mehefin 2023.


Arianwyr


HCRW


Swm


£264,271