Mynd i'r cynnwys
Home » Julie Bishop

Julie Bishop

Yn fwy cyffredinol, rwy’n helpu i gysylltu gwaith DECIPHer gyda blaenoriaethau polisi ac ymarfer system iechyd y cyhoedd yng Nghymru, gan ddwyn pobl â diddordebau cyffredin ynghyd. Mae gweithio gyda DECIPHer wedi caniatáu i mi ddatblygu fy niddordebau ymchwil personol a chryfhau’r cysylltiad rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru a sefydliadau addysg uwch yng Nghymru ar yr un pryd.

Nod cyffredinol fy nghydweithrediad â DECIPHer yw cryfhau’r defnydd o dystiolaeth i lywio ymarfer – boed hynny trwy helpu i ledaenu canfyddiadau ymchwil fel bod gwybodaeth yn cael ei defnyddio mewn ymarfer, neu sicrhau arbenigedd ymchwil i werthuso’r ymyriadau a gyflwynir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’r bartneriaeth yn helpu i sicrhau bod ein camau gweithredu, fel sefydliad iechyd y cyhoedd, yn cael effaith eglur ar iechyd pobl yng Nghymru, ac mae wir yn dechrau dangos canlyniadau.

Mae ymagwedd gydweithredol DECIPHer at ddatblygu syniadau ar gyfer ymchwil wedi creu argraff dda arnaf. Mae ymrwymiad cadarn i gydnabod cyfraniad partneriaid ymarfer at gynhyrchu cynigion ymchwil da a, hefyd, at sicrhau bod y gwaith a wneir yn berthnasol ac y caiff ei ddefnyddio.

Yn fy marn i, cryfderau allweddol DECIPHer yw’r parodrwydd i weithio gyda phartneriaid mewn amrywiaeth o sectorau a’r pwyslais ar ddarganfod beth sy’n gweithio, gan ddefnyddio’r dulliau gwyddonol mwyaf trwyadl posibl. Roedd y tîm yn hynod groesawgar ac roedd y profiad cyfan yn un cadarnhaol iawn i mi.