Mynd i'r cynnwys
Home » Sicrhau bod y dystiolaeth yn sgîl Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr Cymru yn cael yr effaith fwyaf ac ehangaf drwy ei gwneud yn fwy hygyrch i ysgolion a myfyrwyr a’i bod yn haws i’w dehongli

Sicrhau bod y dystiolaeth yn sgîl Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr Cymru yn cael yr effaith fwyaf ac ehangaf drwy ei gwneud yn fwy hygyrch i ysgolion a myfyrwyr a’i bod yn haws i’w dehongli

Prif Ymchwilydd

Nick Page

Cyd-ymchwilwyr

Honor Young, Simon Murphy

Y Cefndir


Mae cyfreithiau newydd yng Nghymru yn argymell bod ysgolion yn defnyddio data i ddarparu addysg iechyd a lles sy’n seiliedig ar dystiolaeth, a hynny er mwyn sicrhau bod eu polisïau a’u harferion yn bodloni anghenion disgyblion. Mae’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN) yn casglu data iechyd a lles ledled Cymru gan bobl ifanc yn ei arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr (SHW). Mae’r arolwg yn ymdrin â phynciau gan gynnwys lles meddwl, perthnasoedd cymdeithasol, defnyddio sylweddau a bywyd ysgol. Yn 2021, cwblhaodd 123,204 o ddisgyblion 11-16 oed o 202 (95%) o ysgolion uwchradd yr arolwg, a chafodd pob ysgol adroddiad data pwrpasol i helpu i arwain eu harferion iechyd a lles.

Fodd bynnag, mae rhoi gwybod am dystiolaeth ymchwil sy’n glir ac yn ystyrlon yn waith heriol, ac mae’r graddau y bydd yr ysgolion yn ymdrin â’r adroddiadau data yn amrywio. Ffocws y prosiect hwn yw peri bod mwy o bobl yn gallu cael gafael ar ddata Arolwg SHRN a’i dehongli, a’r nod yw helpu ysgolion i gyfuno tystiolaeth sy’n deillio o’u hadroddiadau iechyd a lles pwrpasol eu hunain yn rhan o’u gwaith.

Nodau


Sicrhau bod y dystiolaeth yn sgîl Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr SHRN yn 2021 yn cael yr effaith fwyaf ac ehangaf drwy ei gwneud yn fwy hygyrch i ysgolion a myfyrwyr a’i bod yn haws i’w dehongli.

Amcanion

  • Adnabod canfyddiadau allweddol yr arolwg ar y cyd â phobl ifanc a rhanddeiliaid yr ysgolion
  • Datblygu fideo animeiddiedig sy’n dangos y canfyddiadau allweddol ar gyfer cynulleidfaoedd nad ydyn nhw’n arbenigwyr
  • Lledaenu’r arolwg drwy sianeli a rhwydweithiau presennol i sicrhau ei fod yn cael yr effaith fwyaf ac ehangaf bosibl


Cynllun yr Astudiaeth


Bydd yr ymchwilwyr yn gweithio ar y cyd â phobl ifanc a rhanddeiliaid yr ysgolion i gynhyrchu animeiddiad fideo o safon ar y cyd, a hynny er mwyn helpu i ledaenu canfyddiadau allweddol arolwg 2021 i gynulleidfaoedd nad ydyn nhw’n arbenigwyr. Y gobaith yw y bydd hyn yn gwella ymwybyddiaeth a’r defnydd o ddata SHRN ar draws system yr ysgolion, gan gynnwys cynlluniau gweithredu iechyd ysgolion a grwpiau llais y myfyrwyr.

Rhagor o wybodaeth a chyhoeddiadau


Gallwch ddod o hyd i’r animeiddiad isod:

Dyddiad dechrau


Ebrill 2022

Dyddiad gorffen


Chwefror 2023

Arianwyr


Ariannwyd yr animeiddiad hwn drwy Gronfa Arloesi Ymchwil Cymru CCAUC (RWIF).

Swm


£12,264.80