Mynd i'r cynnwys
Home » Y ferch 25 oed sy’n hyrwyddo lleisiau pobl ifanc mewn ymchwil

Y ferch 25 oed sy’n hyrwyddo lleisiau pobl ifanc mewn ymchwil

  • Flog

Cafodd Sophie Jones, Uwch Swyddog Cynnwys y Cyhoedd ei chyfweld yn ddiweddar gan Emma Yhnell ar gyfer podlediad diweddaraf ‘Ble fyddem mi heb ymchwil?’ ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Trafododd sut mae wedi helpu gydag ymchwil ers iddi fod yn 14 oed a’r cyfleoedd y mae ALPHA wedi’u cynnig iddi.

Sophie Jones

Ers yn 14 oed, mae Sophie Jones, o Gaerffili, wedi bod yn helpu i ddatblygu ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol hanfodol yng Nghymru. Nawr, mae hi’n arwain yr un grŵp ieuenctid y daeth yn rhan ohono dros 10 mlynedd yn ôl ac yn cefnogi pobl ifanc i ddweud eu dweud.

Nod y grŵp, o’r enw ALPHA, ydy newid polisi iechyd cyhoeddus trwy gael pobl ifanc i fod yn rhan o brosiect ymchwil o’r cychwyn cyntaf.

Tyfu i fyny ag ymchwil

O oedran cynnar, roedd gan Sophie ddiddordeb mewn newid polisi ac arfer ac ymunodd ag ALPHA i wneud gwahaniaeth.

Fel rhan o’i hamser yn y grŵp, roedd Sophie yn un o bedwar o bobl ifanc yng Nghymru fu’n cynrychioli lleisiau ieuenctid yng nghynhadledd yr Arolwg Ymddygiad Iechyd mewn Plant Oedran Ysgol yn yr Alban.

Yn y digwyddiad, bu Sophie yn helpu i lunio’r cwestiynau a fyddai’n cael eu gofyn yn yr arolwg rhyngwladol sy’n monitro sut y mae iechyd meddwl ac iechyd corfforol pobl ifanc yn datblygu.

Meddai Sophie: “Roedd hyn y rhywbeth anferthol i fod yn rhan ohono. Mae ALPHA wedi rhoi cymaint o gyfleoedd i mi feithrin fy hyder a’m gwybodaeth.”

Rhan hanfodol o ymchwil

Mae pobl ifanc yn hanfodol i ddatblygiad ymchwil ac mae gwrando ar eu barn nhw yn helpu i sicrhau bod ymchwil yn gynrychioliadol o bawb yng Nghymru.

Yn 2020, bu aelodau ALPHA yn trafod sut y gallai gwaharddiad smacio yng Nghymru, a ddaeth i rym y mis diwethaf, effeithio ar iechyd a llesiant pobl. Dywedodd rhai aelodau wrth ymchwilwyr y bydd gwneud smacio’n rhywbeth anghyfreithlon yn gwneud i rieni “feddwl ddwywaith cyn ei wneud.”

Cymerodd yr ymchwilwyr yr adborth oddi wrth ALPHA a’i ddefnyddio i lunio cais eu prosiect.

Mae Sophie yn mynd ymlaen i ddweud: “Dwi’n frwd dros wneud yn siŵr bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed. Mae’n gallu eu grymuso go iawn i deimlo bod rhywun yn gwrando arnyn nhw ac yn eu parchu.”

Dweud ei dweud ei hun

Yn ogystal â bod yn eiriolwr dros bobl ifanc, mae Sophie yn rhannu ei meddyliau ei hun am brosiectau ymchwil sy’n agos at ei chalon hi.

Mae byw gyda diabetes math 1 wedi golygu bod gan Sophie brofiad personol o’r triniaethau a’r gofal sydd ar gael ar hyn o bryd a’i bod yn gallu rhannu hyn ag ymchwilwyr i helpu i ddatblygu eu prosiectau.

Meddai Sophie: “Unrhyw beth y galla’ i ei wneud i helpu i siapio triniaethau ac ymgynghoriadau ar gyfer diabetes, dwi eisiau ei wneud. Yn ddiweddar, gwnes i helpu ag astudiaeth PhD yn edrych ar fyw â diabetes o ddydd i ddydd; roedd hi’n braf iawn sgwrsio â menywod oedd wedi cael profiadau tebyg i fi.”

Cymryd y llyw

Mae Sophie nawr yn Uwch Swyddog Cynnwys y Cyhoedd yn DECIPHer, sef sefydliad y mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n ei ariannu, ac mae’n arwain ALPHA. I orffen, dywedodd: “Dwi’n hanu o’r Coed Duon yng Nghaerffili, lle does yna ddim rhyw lawer yn digwydd ar gyfer pobl ifanc a lle does yna ddim rhyw lawer o gyfleoedd iddyn nhw ddweud eu dweud. Mae pobl ifanc yn gallu dweud wrthych chi beth sy’n digwydd ar iard yr ysgol neu gartref, ac mae hynny’n werthfawr iawn i ymchwilwyr.

“Mae Cymru hefyd yn un o’r gwledydd prin sy’n rhoi’r hawl i bobl 16 oed bleidleisio, felly mae angen i ni wneud yn siŵr bod pobl ifanc yn chwarae rhan mewn materion sy’n effeithio arnyn nhw. Dyna pam fod grwpiau ieuenctid fel ALPHA mor bwysig.

“Yn fy swydd i, dwi’n gweld pobl ifanc yn tyfu ac yn datblygu ac yn dechrau credu ynddyn nhw eu hunain, sy’n ysbrydoledig. Dwi’n teimlo mor lwcus bod yn rhan o ALPHA eto; mae’n teimlo fel fy mod i wedi dod yn ôl yn grwn.

Gellir gwrando ar y podlediad yma neu ble bynnag rydych yn cael eich podlediadau. Cyhoeddwyd yr erthygl hon gyntaf gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.