Mynd i'r cynnwys
Home » Angen Gweithredu Ac Ymchwil Iechyd Cyhoeddus Sy’n Canolbwyntio Ar Degwch, Yn Sgil Covid-19

Angen Gweithredu Ac Ymchwil Iechyd Cyhoeddus Sy’n Canolbwyntio Ar Degwch, Yn Sgil Covid-19

  • Flog

Mae Doctor Graham Moore yn edrych ar effeithiau cymdeithasol y cyfyngiadau symud a phwysigrwydd strategaethau wedi’r pandemig i aelodau mwyaf bregus y gymdeithas

Ar ddechrau 2020 gwelwyd ymyriadau polisi iechyd cyhoeddus yn cael eu gweithredu’n gyflym ledled y byd. Er bod y dulliau wedi bod yn wahanol, nodau cyffredinol y rhain fu arafu lledaeniad COVID-19, cyfyngu ar golli bywydau, ac atal gwasanaethau iechyd rhag cael eu llethu, ac ar yr un pryd, cydbwyso’r peryglon i’r economi.

Wynebodd llywodraeth y DU ychydig o feirniadaeth ryngwladol am ei hymateb, yr oedd llawer o’r farn ei fod yn rhy araf. Fodd bynnag, wrth i’r feirws ddechrau ymledu, aethpwyd ati’n gyflym i weithredu camau i reoleiddio ymddygiad dinasyddion. Ar 3 Mawrth, ddau ddiwrnod cyn i’r claf COVID-19 cyntaf farw, gwnaeth y Prif Weinidog ddatganiadau cyhoeddus yn dweud ei fod yn ysgwyd llaw â phawb. Dim ond 20 niwrnod, a rhyw 300 o farwolaethau, yn ddiweddarach roedd yn cyhoeddi rhai o’r mesurau rheoleiddio ymddygiad preifat mwyaf pellgyrhaeddol yn y cyfnod modern.

Rhan o’r ddadl dros beidio â symud yn gynt oedd blinder ymddygiadol. Hynny yw, petai cyfyngiadau’n cael eu cyflwyno’n rhy gynnar, byddai pobl yn dechrau eu herio pan oedd angen cydymffurfio iddynt fwyaf. Roedd llawer o’r wyddoniaeth yn canolbwyntio ar newid ymddygiad unigolion. Fodd bynnag, roedd hi’n ymddangos mai gweithredu ar lefelau ecolegol uwch oedd y catalydd mwyaf i symud tuag at ymyriad mwy strwythurol, gyda gweithredu gwirfoddol gan lawer o gyrff gam ar y blaen i gyngor y llywodraeth.

‘Awgrymodd polau piniwn fod 93% o’r cyhoedd yn cefnogi’r symud tuag at ‘gyfyngiadau symud’ erbyn iddynt gael eu gweithredu. Yn wir, canfu arolwg yr wythnos ganlynol fod y mwyafrif o’r cyhoedd yn meddwl y dylai cyfyngiadau fod wedi’u gweithredu’n gynharach.’

Fel y dadleuodd yr epidemiolegydd Geoffrey Rose, paradocs allweddol o fewn iechyd poblogaethau yw bod “mesur ataliol sy’n dod â budd mawr i’r boblogaeth yn cynnig fawr ddim i bob unigolyn sy’n cymryd rhan.” Mae ymyriadau fel rhaglenni brechu er enghraifft yn gweithio os yw’r rhan fwyaf o’r boblogaeth yn cydymffurfio. Felly hefyd, er mwyn i gyfyngiadau ar ryngweithio cymdeithasol a symud weithio, roedd angen cydymffurfio helaeth. Nid gofyn am ymddygiad syml unwaith yn unig fel cymryd brechiad oedd disgwyl i bobl gadw at y cyfyngiadau hyn, ond newidiadau a oedd ar draul fawr i’r unigolyn.

Serch hynny, roedd polau piniwn yn awgrymu bod 93% o’r cyhoedd yn cefnogi’r symud tuag at ‘gyfyngiadau symud’ erbyn iddynt gael eu gweithredu. Yn wir, canfu arolwg yr wythnos ganlynol fod y mwyafrif o’r cyhoedd yn meddwl y dylai cyfyngiadau fod wedi’u gweithredu’n gynharach. Er mwyn cyrraedd y lefel hon o gefnogaeth gyhoeddus, bydd llawer o’r rhai sy’n cefnogi rheoleiddio wedi dod o grwpiau yr oedd y feirws yn fygythiad personol bach iawn iddynt. Felly, er bod pobl yn pwyntio bys at y ‘prynu mewn panig’, ac er bod y cyfryngau wedi rhoi llawer o sylw i geryddu’r lleiafrif a oedd yn parhau i ‘dorri’r’ rheolau, nid yw gwead cymdeithas yn dadfeilio yn wyneb y caledi cenedlaethol. Mae’r cyhoedd yn barod i dderbyn canlyniadau cymdeithasol ac economaidd personol sylweddol, yn gyfnewid am ddiogelu’r y rhai sy’n fwy agored i niwed.

Yn anochel, mae aelodau bregus y gymdeithas fel yr henoed a’r rhai sydd â chyflyrau meddygol arnynt yn barod yn teimlo canlyniadau meddygol y feirws yn anghymesur. Mae systemau gofal iechyd lleol a chenedlaethol wedi cael eu rhoi yn y sefyllfa annymunol o ddogni adnoddau gofal iechyd, gan arwain at rai dulliau dadleuol o benderfynu pwy fyddai’n derbyn pa lefel a math o ofal. Awgrymodd gwaith modelu y byddai’r sefyllfa hon wedi’i hehangu’n fawr heb fesurau cyfyngiadau symud. Ar ôl peth cyfathrebu dryslyd ynghylch a oedd imiwnedd torfol yn rhan o’r strategaeth, neu’n sgileffaith bosibl petai’r rhan fwyaf o’r boblogaeth yn mynd yn sâl, cafodd ei anwybyddu ar ôl i fodelu amcangyfrif y gallai hyn gostio 260,000 o fywydau.

Yn ystod y blynyddoedd yn dilyn yr argyfwng bydd angen ymdrech iechyd cyhoeddus barhaus i wyrdroi’r niwed a achoswyd i rai o aelodau mwyaf bregus y gymdeithas.’

Fodd bynnag, er bod y gefnogaeth i’r mesurau cyfyngiadau symud bron â bod yn gyffredinol, nid felly fydd eu canlyniadau cymdeithasol ac economaidd. Bydd yr ymyriadau a weithredwyd yn y DU, fel mewn mannau eraill, yn effeithio’n barhaol ar rai o’r bobl fwyaf bregus yn y gymdeithas. Felly, er bod rhanddeiliaid iechyd cyhoeddus wedi troi eu sylw at ymdrin â sefyllfa COVID-19 sy’n datblygu nawr, a hynny’n ddealladwy, yn ystod y blynyddoedd yn dilyn yr achosion bydd angen ymdrech iechyd cyhoeddus barhaus i wyrdroi’r niwed a achoswyd i rai o aelodau mwyaf bregus y gymdeithas.

Bydd pobl sydd â thai a gerddi cyfforddus a helaeth, trefniadau byw cytûn, a llawer o ffyrdd i’w diddori eu hunain a’u teuluoedd yn fwy cymwys i ymdopi â chyfnod yn eu cartref eu hunain nag y bydd pobl sy’n byw mewn cartrefi cyfyng. Mae gan is-grwpiau tlotach y gymdeithas brofiad anghymesur o gartrefi annigonol iawn. Felly bydd effeithiau seicolegol cael eu cyfyngu i’r tŷ am gyfnod hir yn fwy i aelodau tlotaf ein cymdeithas.

Mae cau ysgolion wedi bod yn heriol iawn i lawer o blant a theuluoedd. I lawer o blant, y pryd ysgol yw eu hunig bryd poeth y dydd. Mae gorfod darparu tri phryd o fwyd y dydd y plentyn gartref, yn ogystal â chostau cartref eraill, wedi codi costau byw i deuluoedd ar incymau isel. Mae’n debygol y bydd hyn, ynghyd â mwy o ansicrwydd ynghylch incwm, yn gwthio llawer o deuluoedd i ragor o ddyled.

‘Nid oes syndod bod mwyafrif y bobl ifanc ag anawsterau iechyd meddwl yn teimlo bod yr argyfwng wedi gwaethygu’r rhain.’

Mae llawer o’r perthnasoedd cymdeithasol pwysicaf ym mywydau plant wedi’u ffurfio yn yr ysgol. Gall yr ysgol chwarae rôl clustogi bwysig o ran lleihau effeithiau anfantais gymdeithasol y tu allan i’r ysgol. I lawer o blant sydd â bywydau cartref llai hapus, mae athrawon yn cynnig model rôl oedolyn cadarnhaol allweddol. Mae cyfnodau arferol pan fydd yr ysgol ar gau fel y gwyliau haf yn gyfnodau unig i lawer o bobl ifanc, gydag unigrwydd yr haf yn gysylltiedig â lles meddyliol gwaeth wrth ddychwelyd i’r ysgol. Bydd hyn yn cael ei helaethu gan y cyfnod hir hwn ar gau gyda llawer o weithgareddau ‘arferol’ eraill fel clybiau chwaraeon ar ôl ysgol wedi mynd hefyd.

Felly nid oes syndod bod mwyafrif y bobl ifanc ag anawsterau iechyd meddwl yn teimlo bod yr argyfwng wedi gwaethygu’r rhain. Efallai bydd llawer o bobl ifanc nad oeddent yn cyrraedd y trothwy ar gyfer diagnosis iechyd meddwl cyn y cyfyngiadau symud yn gwneud hynny wedyn. Felly, mae gwella iechyd meddwl plant a’r glasoed, y mae llawer eisoes wedi disgrifio ei fod mewn argyfwng yn y DU, yn dod yn fwy o flaenoriaeth fyth wrth i’r argyfwng ei hun fynd yn ei flaen.

Mae’r cartref yn lle hapus i lawer o blant, a bydd llawer wedi mwynhau rhagor o amser gyda’u rhieni. Fodd bynnag, i rai, mae’r ysgol yn hafan i ffwrdd o’r cartref. Mae’r rhai sy’n cam-drin yn aml yn defnyddio ynysu fel dull rheoli. Mae dweud wrth bobl am #ArosGartref yn troi’r dŵr i felin y rhai sy’n defnyddio ynysu fel mater o drefn yn ffurf ar gam-drin, gan dorri cysylltiad dioddefwyr â ffynonellau cefnogaeth allanol. Ledled y byd, mae argyfwng COVID-19 wedi’i gysylltu â chynnydd mawr mewn trais a cham-drin domestig. Mae rhai heddluoedd wedi mynegi pryder bod llai o adrodd am achosion oherwydd ei bod hi’n fwy anodd i ddioddefwyr geisio cymorth yn ystod y cyfnod hwn.

Felly, er mwyn ceisio diogelu bywydau’r rhai sy’n agored i niwed gan y feirws a’i effeithiau, mabwysiadwyd ymyriadau sy’n cynyddu’r risg o niwed sylweddol i lawer o sectorau eraill y gymdeithas.

‘Bydd angen symud y canolbwynt i sut rydym yn ailadeiladu ein cymdeithas sy’n hynod anghyfartal yn barod, a fydd wedi cael ei gwneud yn fwy anghyfartal gan y digwyddiadau o’i chwmpas.’

Wrth i’r argyfwng ddatblygu, aeth llywodraethau yn y DU ati i ymrwymo i gamau i liniaru’r canlyniadau cymdeithasol hyn. Gweithredon nhw i roi cymorth ariannol i fusnesau a gweithwyr, a gweithio i sicrhau bod plant a fyddai fel arfer yn cael prydau ysgol am ddim yn dal i gael cinio drwy gydol yr wythnos. Ymrwymodd llywodraethau gyllid i sicrhau y gallai dioddefwyr cam-drin domestig gael mynediad at gymorth. Ymbellhaodd y Prif Weinidog oddi wrth fantrâu enwog unigolyddiaeth, gan ddweud “un peth rwy’n credu y mae’r argyfwng coronafeirws wedi’i brofi’n barod yw bod y fath beth â chymdeithas mewn gwirionedd.

Ar ôl i achosion y feirws ei hun ddod o dan reolaeth, bydd angen symud y canolbwynt i sut rydym yn ailadeiladu ein cymdeithas sy’n hynod anghyfartal yn barod, a fydd wedi cael ei gwneud yn fwy anghyfartal gan y digwyddiadau o’i chwmpas. Mae’r achos wedi dangos, pan fydd argyfwng, fod y rhan fwyaf o bobl yn barod i aberthu cysuron bob dydd a rhoi eu hunain o dan bwysau seicolegol, cymdeithasol ac ariannol sylweddol, er mwyn sicrhau bod y rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas yn cael eu diogelu rhag y niwed mwyaf difrifol.

I lawer, bydd y llwybr at adferiad yn hir, a bydd yr economi gyfan wedi’i tharo’n galed. Gwyddom o brofiad diweddar iawn, pan fydd dirwasgiad yn yr economi, fod pobl yn enwedig y rhai o gefndiroedd tlotach, yn marw. A fyddwn yn troi’n ôl at wleidyddiaeth ôl-ddirwasgiad y 10 mlynedd diwethaf, lle mae’r pwerus yn beio ac yn gwanhau’r bregus, er mwyn tynnu sylw oddi wrth yr angen am fynd i’r afael â gwir achos anghydraddoldeb strwythurol? Amser a ddengys a yw’r wlad, fel cymdeithas ar adegau ‘arferol’, yn gallu gwneud yn well na hyn, a chynnal y sylw ar gefnogi ei haelodau mwyaf difreintiedig y mae wedi’i ddangos yn ystod yr argyfwng hwn. Hyd yn oed os yw hynny’n golygu ychydig o aberth i’r rhai ohonom sy’n well ein byd. Mae gweithredu i wella iechyd cyhoeddus sydd wedi’i lywio gan dystiolaeth ac sy’n canolbwyntio ar degwch yn teimlo’n bwysicach nawr nag ar unrhyw adeg o fewn cof.

Mae’r Doctor Graham Moore yn Ddarllenydd Gwyddorau Cymdeithasol ac Iechyd ac yn Ddirprwy Gyfarwyddwr DECIPHer. Ei brif ddiddordebau yw anghydraddoldebau iechyd plant a’r glasoed ac ymyriadau cymdeithasol.