Mynd i'r cynnwys
Home » Astudiaeth newydd: a allai e-sigarennau helpu pobl ddigartref i roi’r gorau i ysmygu?

Astudiaeth newydd: a allai e-sigarennau helpu pobl ddigartref i roi’r gorau i ysmygu?

 

 

Mae’r Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil Iechyd wedi dyfarnu grant o £1.7M i Brifysgol South Bank Llundain (LSBU) i gynnal treial i helpu pobl sy’n profi digartrefedd i roi’r gorau i ysmygu. 

 

 

Arweinir y prosiect ymchwil gan Lynne Dawkins, Athro Astudiaethau Nicotin a Thybaco o’r Ganolfan Ymchwil Ymddygiad Caethiwus yn Ysgol Gwyddorau Cymhwysol LSBU a Dr Sharon Cox, Uwch Gymrawd Ymchwil yn Adran Gwyddoniaeth Ymddygiad ac Iechyd UCL.

Cefnogir yr astudiaeth gan saith o bartneriaid ymchwil academaidd eraill gan gynnwys Dr Rachel Brown o DECIPHer, ac ymchwilwyr o Goleg King’s Llundain, Prifysgol y Frenhines Mary, Llundain, Prifysgol East Anglia, Prifysgol Caerefrog, Prifysgol Stirling a Phrifysgol Caeredin.

Yn ôl datganiad diweddar i’r wasg gan LSBU yn cyhoeddi’r astudiaeth, mae tua 70 y cant o bobl sy’n ddigartref yn ysmygu tybaco – sydd lawer yn uwch na chyfartaledd y DU o 14.1 y cant. E-sigarennau yw’r dull mwyaf poblogaidd a ddefnyddir wrth geisio rhoi’r gorau i ysmygu, gyda rhai astudiaethau’n awgrymu eu bod yn fwy defnyddiol na gwm neu batshys nicotin ac yn llai niweidiol o lawer nag ysmygu tybaco.

Ond i bobl ar incwm isel neu ddim incwm o gwbl, mae pris pecyn cychwynnol yn defnyddio hylif y gellir ei ail-lenwi mor uchel â £20 a mwy. Mae ymchwilwyr LSBU wedi sefydlu’r treial hwn i ganfod a fyddai cyflenwi citiau cychwynnol e-sigarennau (EC) am ddim mewn canolfannau i bobl sy’n profi digartrefedd yn helpu i ateb y broblem.

Caiff yr astudiaeth genedlaethol ei chynnal mewn 32 o ganolfannau ar draws pum rhanbarth yn y DU: Yr Alban, Cymru, Llundain, De-ddwyrain Lloegr a Dwyrain Lloegr. Caiff un ar bymtheg o ganolfannau eu dyrannu i’r grŵp EC gydag 16 arall yn cael eu dyrannu i grŵp gofal arferol (UC). Bydd y treial ymchwil llawn yn cynnwys 480 o gyfranogwyr, gyda 240 ym mhob grŵp a 15 ym mhob canolfan.

Dywed Dr Brown: ‘Astudiaeth newydd yw hon, sy’n targedu grŵp sydd â lefelau uchel o fregusrwydd ac sy’n aml yn gyfyngedig o ran eu gallu i fantesio ar gymorth i roi’r gorau i ysmygu. Mae’n herio’r rhagdybiaethau bod pobl sy’n profi digartrefedd yn methu neu ddim yn awyddus i roi’r gorau i ysmygu, rhagdybiaethau y mae tystiolaeth yn dangos eu bod yn anghywir yn aml. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda thîm mor fedrus a phrofiadol ar y gwaith pwysig hwn.’