Mynd i'r cynnwys
Home » Bydd adroddiad newydd yn helpu dull ysgol gyfan

Bydd adroddiad newydd yn helpu dull ysgol gyfan

Mae ymchwilwyr o DECIPHer a Chanolfan Iechyd Meddwl Pobl Ifanc Wolfson wedi datblygu asesiad gwerthuso newydd ar gyfer Dull Ysgol Gyfan o ymdrin â iechyd meddwl a llesiant yng Nghymru


Beth yw’r Dull Ysgol Gyfan o Ymdrin â Iechyd Meddwl (DYG)?

Yn gryno, mae’r Dull Ysgol Gyfan o Ymdrin â Iechyd Meddwl (DYG) yn credu bod cefnogi llesiant plant a phobl ifanc yn fusnes i bawb. Felly mae’r ysgol yn defnyddio dull cyfannol o gefnogi iechyd meddwl da, gan gynnwys y staff, y disgyblion, y rhieni/gofalwyr, a’r darparwyr allanol.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae DYG ‘yn anelu at ddiwallu anghenion llesiant emosiynol a meddyliol pob plentyn a pherson ifanc, yn ogystal â staff ysgolion fel rhan o gymuned yr ysgol gyfan Mae llesiant staff ysgolion hefyd wrth wraidd y Fframwaith, gan gydnabod y cysylltiad rhwng llesiant y dysgwr a llesiant yr oedolion sydd mewn cysylltiad rheolaidd ag ef.’

Sut cafodd y DYG ei ddatblygu?


Ym mis Gorffennaf 2020, lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad agored, yn ceisio barn ar ei chanllawiau fframwaith drafft DYG.

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Gorffennaf a Medi 2020 a chafwyd 142 o ymatebion (gellir darllen yr ymateb gan DECIPHer a Chanolfan Iechyd Meddwl Pobl Ifanc Wolfson yma).

Cyhoeddwyd y Fframwaith gan Lywodraeth Cymru ar 15 Mawrth 2021 ac mae ar gael yma. Y bwriad yw cefnogi ysgolion a lleoliadau addysg i adolygu eu tirwedd llesiant eu hunain ac i ddatblygu cynlluniau i ymdrin â’u gwendidau ac i adeiladu ar eu cryfderau. Mae hefyd yn cefnogi ac yn ategu’r cwricwlwm cenedlaethol newydd i Gymru – yn enwedig Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Llesiant.

Yr asesiad newydd


Ar 20 Ionawr 2022, cyhoeddwyd yr asesiad gwerthuso newydd. Fe’i hysgrifennwyd gan Dr Rachel Brown (arweinydd), Jordan Van Godwin, Amy Edwards, Molly Burdon a’r Athro Graham Moore, gyda chyfraniadau sylweddol gan Grŵp Ymgynghori Ieuenctid ALPHA a staff Mind a Mind Casnewydd. Mae’n nodi canfyddiadau’r gwaith ymchwil ac argymhellion i helpu i weithredu a gwerthuso’r rhaglen DYG yn y dyfodol, gan gynnwys:

  • yr egwyddorion sy’n llywio ac yn diffinio DYG
  • yr elfennau craidd y mae angen eu sefydlu er mwyn i’r DYG lwyddo
  • argymhellion ar sail tystiolaeth i gynorthwyo canllawiau gweithredu
  • model rhesymeg a map systemau
  • dull graddol o werthuso ffurfiannol, proses ac effaith
  • argymhellion ar gyfer casglu tystiolaeth yn y dyfodol i lywio’r gwerthuso ar lefel ysgol a chenedlaethol


Dywed Dr Rachel Brown: ‘Rydym yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth rhanddeiliaid allweddol a gymerodd ran mewn cyfweliadau ar gyfer y gwaith ymchwil hwn. Gobeithiwn y gall y canfyddiadau roi arweiniad i gefnogi ysgolion a llunwyr polisi i roi DYG ar waith a hefyd wrth werthuso a mesur unrhyw effaith y gallai ei chael.’

Mae rhagor o wybodaeth am ymwneud DECIPHer â’r Dull Ysgol Gyfan ar gael yma:

https://decipher.uk.net/cy/cwricwlwm-ysgol-newydd-cymru-y-canfyddiadau-hyd-yma/

https://decipher.uk.net/cy/fframwaith-newydd-wedii-gyhoeddi-ar-ddull-gweithredu-ysgol-gyfan-o-ymdrin-ag-iechyd-meddwl-a-lles/