Mynd i'r cynnwys
Home » Data’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion i gefnogi gwaith monitro Eco-Sgolion

Data’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion i gefnogi gwaith monitro Eco-Sgolion

Tagiau:


Adnodd newydd Eco-Sgolion yn esbonio sut i ddefnyddio data’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion i gefnogi gwersi ar bynciau amgylcheddol


Rhaglen fyd-eang yw Eco-Sgolion sy’n ymgysylltu â 19.5 miliwn o blant ar draws 70 o wledydd. Mae’r rhaglen, sy’n cael ei chynnal yng Nghymru gan Cadwch Gymru’n Daclus, yn ceisio grymuso ac ysbrydoli pobl ifanc i wneud newidiadau amgylcheddol cadarnhaol yn eu hysgol a’r gymuned ehangach, wrth ddatblygu eu sgiliau.

Mae Eco-Sgolion wedi cyhoeddi adnodd rhad ac am ddim sy’n esbonio sut i ddefnyddio data’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion i gefnogi’r gwaith o fonitro a gwerthuso camau gweithredu ecogyfeillgar. Dyma rai awgrymiadau:

  • ‘Lleihau effeithiau ar yr hinsawdd drwy gerdded a beicio’n fwy i’r ysgol, ac wedi hynny, ddefnyddio’r data ar deithio llesol a gasglwyd gan y Rhwydwaith i fesur yr effaith honno yn adroddiad yr ysgol.’
  • ‘Pennu camau gweithredu sylfaenol i’ch ysgol drwy gysylltu data o’r adolygiad amgylcheddol ag adroddiad y Rhwydwaith. Yna, gallwch gymryd y camau gweithredu a chymharu’r data. Cofiwch y bydd grwpiau blwyddyn wedi symud drwy flynedd.’
  • ‘Gellir defnyddio eich adroddiad gan y Rhwydwaith i drafod meysydd i roi sylw iddynt gyda’r staff a’r disgyblion.’



Aeth Fran Watkin, Swyddog Addysg yn Cadwch Gymru’n Daclus, ati i grynhoi effaith y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion ar y prosiect hwn: “Mae data’r Rhwydwaith yn adnodd gwerthfawr iawn a all helpu disgyblion i ddeall effaith yr hyn y maent yn ei wneud. Gall hyn eu hysgogi i wneud newidiadau cadarnhaol yn yr ysgol. Er enghraifft, gall fod yn ddata meintiol ar nifer y disgyblion sy’n teithio i’r ysgol mewn ffordd lesol neu nifer y disgyblion sy’n bwyta ffrwythau a llysiau, sy’n ei gwneud yn bosibl cyfrifo milltiroedd bwyd. Mae data’r Rhwydwaith yn cynnig pwynt dechrau gwych, yn ogystal â data cymharu oherwydd natur arhydol proses casglu data’r Rhwydwaith.”

Mae Fran yn gweld potensial data’r Rhwydwaith o ran gwneud ei hun yn rhan o’r broses eco-fonitro: “Byddai’n wych gweld rhagor o ysgolion yn defnyddio’r data cyfoethog sydd ar gael yn arolwg y Rhwydwaith i fonitro gwaith Eco-Sgolion. Gellid ei ddefnyddio hefyd i sefydlu pwynt dechrau ar gyfer meysydd penodol i’w datblygu. Edrychwn ymlaen at archwilio’r canlyniadau hyn mewn eco-brosiectau yn y dyfodol.”

Gellir gweld adnoddau Eco-Sgolion yma: PDF

Rhagor o wybodaeth am Eco-Sgolion: keepwalestidy.cymru/eco-schools/cy/

Rhagor o wybodaeth am Cadwch Gymru’n Daclus: https://keepwalestidy.cymru/cy/