Mynd i'r cynnwys
Home » Asesiad o Werthusadwyedd Fframwaith Cymru Heb Drais (WAVE)

Asesiad o Werthusadwyedd Fframwaith Cymru Heb Drais (WAVE)

  • Research

Prif Ymchwilydd

Jordan Van Godwin

Cyd-ymchwilwyr

Megan Hamilton, Prof Graham Moore, Prof Simon Moore


Cefndir

Nod Fframwaith Cymru Heb Drais (y cyfeirir ato o hyn ymlaen fel y Fframwaith), a ddatblygwyd gan yr Uned Atal Trais (UAT) a’i gydgynhyrchwyd ochr yn ochr â Peer Action Collective Cymru (PACC) yw cynrychioli gweledigaeth gyffredin ar gyfer atal trais yng Nghymru, a hynny â’i sylfaen wedi’i gwreiddio mewn dull iechyd y cyhoedd ar draws y system, ac eiriolaeth dros hynny. Nod y Fframwaith yw bod yn ganllaw ac yn adnodd, yn seiliedig ar dystiolaeth ac wedi’i lywio gan y gymuned, ar gyfer gweithwyr proffesiynol wrth gynllunio a chynnal gwaith atal trais. Nod y Fframwaith yw dylanwadu ar arfer ar sawl lefel ar draws llawer o asiantaethau, gan fabwysiadu ac integreiddio dull o ymdrin â thrais ar gyfer maes iechyd y cyhoedd. Gwneir hyn drwy integreiddio dull sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac sydd wedi’i gydgynhyrchu, a’i gynllunio i gefnogi:

  • Ardaloedd lleol yng Nghymru i ddatblygu eu hymatebion strategol yn unol â’r Ddyletswydd Trais Difrifol.
  • Gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd am archwilio beth sy’n gweithio i atal trais a darparu canllawiau ar sut i roi hyn ar waith yn ymarferol.
  • Plant a phobl ifanc yng Nghymru i ddefnyddio’r Fframwaith i ysgogi newid lleol wedi’i deilwra yn ôl eu blaenoriaethau.
  • Defnyddio ac integreiddio arfer gwerthuso effeithiol ar gyfer gwaith atal trais.

Rhesymeg, Nodau ac Amcanion

Mae Asesiadau Gwerthusadwyedd hefyd yn darparu modd o nodi’r dulliau gorau a mwyaf priodol o ddeall effeithiolrwydd ymyriadau trwy archwilio mecanweithiau newid allweddol yr ymyriad er mwyn deall sut mae ymyriadau’n gweithio a sut maent yn gweithio ar draws gwahanol grwpiau o’r boblogaeth. Mae canllawiau’r Cyngor Ymchwil Feddygol wedi’u diweddaru ar gyfer datblygu a gwerthuso ymyriadau cymhleth yn ffafrio y dylai ymchwilwyr ystyried defnyddio Asesiadau Gwerthusadwyedd i benderfynu a yw gwerthusiad defnyddiol o ymyriad penodol yn bosibl, a sut.

Nod cyffredinol yr ymchwil hon yw asesu gwerthusadwyedd Fframwaith Cymru Heb Drais. Mae’r math hwn o asesiad yn ceisio deall os, sut a thrwy ba ddulliau y gellir cynnal gwerthusiad llawn yn y dyfodol. Bydd hyn yn cynnwys asesu statws y gwaith o ddatblygu a gweithredu’r Fframwaith; pa ddata sydd ar gael; maint unrhyw effeithiau disgwyliedig ac anawsterau dylunio neu’r costau sy’n gysylltiedig â’r Fframwaith. Hefyd, mae’r Fframwaith yn cynrychioli dull system gyfan o fynd i’r afael ag atal trais. Bydd hyn yn digwydd ar draws llawer o systemau cymhleth sy’n rhyngweithio â’i gilydd, a fydd yn debygol o arwain at amrywiad o ran eu heffaith ar draws gwahanol leoliadau (er enghraifft, yr heddlu, iechyd ac awdurdodau lleol) dros amser. Gall yr effaith hon fod yn gadarnhaol ac yn negyddol ac yn fwriadedig neu’n anfwriadedig. O ystyried yr ansicrwydd hwn a’r lle i amrywiad yn effaith y fframwaith cenedlaethol, mae asesu gwerthusadwyedd yn dod yn arbennig o bwysig yn ddull o ystyried canlyniadau cadarnhaol a niweidiol posibl. Mae asesu gwerthusadwyedd hefyd yn bwysig yng nghyd-destun natur Unedau Lleihau Trais a’r anhawster o ran nodi a yw newidiadau mewn trais rhanbarthol o ganlyniad uniongyrchol i weithgareddau’r Uned Lleihau Trais neu a oes ffactorau eraill ar waith (e.e. ffactorau cymunedol annibynnol, newidiadau mewn cyllid cymdeithasol neu ffactorau gwleidyddol, amgylcheddol a byd-eang).

Nod yr ymchwil fydd darparu argymhellion ar gyfer fframwaith gwerthuso i’w ddefnyddio ar gyfer ymchwil yn y dyfodol, a gaiff ei lywio yn sgil datblygu damcaniaeth newid weithredol ar gyfer Fframwaith Cymru Heb Drais yn ei gyfanrwydd yn ogystal ag archwilio ac ehangu, lle bo modd, y damcaniaethau newid cyfredol sydd wedi’u creu ar gyfer pob un o’r naw strategaeth, gyda ffocws ar fecanweithiau newid a’r prosesau sydd eu hangen i weithredu newid.


Cwestiynau Ymchwil

Bydd cwestiynau ymchwil, a gaiff eu drafftio gan y tîm ymchwil a’r UAT a’u halinio i nodau a strategaethau’r Fframwaith, yn sail i’r Asesiad Gwerthusadwyedd hwn:

  1. Beth yw safbwyntiau rhanddeiliaid ar y Fframwaith a sut y gallai, y dylai neu y mae’n cael ei ddefnyddio? Beth yw’r canfyddiadau o’i addasrwydd ar gyfer cymunedau sy’n agored i niwed ac sy’n wynebu’r risg fwyaf?
  2. Beth yw’r ffactorau cyd-destunol ehangach sy’n effeithio ac yn dylanwadu ar weithrediad, darpariaeth ac ymgysylltiad â’r Fframwaith?
  3. Beth yw’r mesurau allweddol ar gyfer deall y Fframwaith: gweithredu, deilliannau (gan gynnwys deilliannau cadarnhaol, negyddol ac anfwriadedig) a chynaliadwyedd?
  4. Pa fesurau o effeithiau ar y boblogaeth gyfan ac effeithiau amrywiol ar draws is-grwpiau o’r boblogaeth sydd eisoes ar gael a beth arall sydd angen ei fesur?
  5. Pa lefel o werthusiad o’r Fframwaith sy’n ddichonadwy, yn ymarferol ac yn ddymunol o fewn yr amser sydd ar gael? A sut y gellir manteisio i’r eithaf ar ddefnyddioldeb gwerthuso?
  6. A ellir defnyddio’r gwaith sy’n gysylltiedig â’r Fframwaith i lywio polisi cenedlaethol ar atal trais?

Cynllun yr Astudiaeth

Bydd yr asesiad gwerthusadwyedd yn seiliedig ar ddamcaniaeth, a bydd yn cynnwys cyfuniad o ymchwil sylfaenol ac ymchwil desg a fydd yn cael ei hategu gan broses iteraidd o gasglu gwybodaeth gyda phob dull methodolegol yn bwydo i mewn i’r llall ac yn ei lywio. Ategir yr ymchwil hon gan ymgysylltiad â rhanddeiliaid allweddol. Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy’r camau canlynol:

  • Byddwn yn cynnal rhwng 10 a 15 o gyfweliadau gyda rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys gweithwyr proffesiynol ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol sy’n cyflawni rolau strategol a gweithredol.
  • Dadansoddi dogfennaeth: archwilio pa ddogfennaeth sydd ar gael yn gysylltiedig â dylunio, cyflwyno a gweithredu’r Fframwaith a beth y gellid ei gynnwys mewn gwerthusiad yn y dyfodol.
  • Archwilio Data Cyffredinol: archwilio pa ddata cyffredinol sydd ei angen i gefnogi gwerthusiad yn y dyfodol a’r hyn sydd ar gael ar hyn o bryd ac sy’n hygyrch.
  • Creu Damcaniaeth (neu Ddamcaniaethau) Newid ar gyfer y Fframwaith a phoblogaethau cysylltiedig (proffesiynol; y cyhoedd/cleifion)

Effaith Bosibl

Nod yr Asesiad Gwerthusadwyedd yw dangos effaith yn y ffyrdd canlynol:

  1. Nodi’r hyn sy’n gweithio’n dda a meysydd i’w gwella gyda’r Fframwaith.
  2. Ystyried pa mor addas yw’r Fframwaith ar gyfer y cymunedau mwyaf agored i niwed ac sy’n wynebu’r risg fwyaf.
  3. Darparu argymhellion ar gyfer fframwaith gwerthuso i’w ddefnyddio ar gyfer ymchwil yn y dyfodol.
  4. Hysbysu polisïau’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau a’u partneriaid allweddol, ynghyd â’u dulliau o atal trais yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.

Lledaenu

Prif allbwn y prosiect hwn fydd adroddiad a ddarperir ar gyfer yr UAT ar ddiwedd y prosiect, Mawrth 31ain 2025. Bydd yn fwriad hefyd gan y tîm ymchwil gyhoeddi papur academaidd yn ddiweddarach yn 2025 yn ogystal â thargedu cynadleddau Cenedlaethol a Rhyngwladol.


Dyddiad dechrau

1st Ebrill 2024

Dyddiad gorffen

30th Mawrth 2025

Cyllidwyr

Comisiynydd Heddlu a Throsedd Cymru De Cymru

Swm

£23,674


Rhagor o wybodaeth a chyhoeddiadau

Implementation and PRocess Evaluation of South Wales Hospital Based Violence Intervention Programmes (PREVIP)

PREVIP Protocol Paper.