Mynd i'r cynnwys

Cyfrannodd DECIPHer at ymgynghoriad Senedd Cymru ar aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr

Bydd DECIPHer yn cyfrannu’n rheolaidd at ymgyngoriadau ar faterion o bwys ym maes iechyd y cyhoedd. Mae hyn yn sicrhau ein bod yn cyfrannu at ddadleuon allweddol ar wella iechyd y cyhoedd ac yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu polisïau sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Ym mis Chwefror 2022, cynhaliodd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Senedd Cymru, ymchwiliad i aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr. Pwrpas yr ymgynghoriad hwn oedd ceisio barn rhanddeiliaid ac aelodau’r cyhoedd. Roedd yr ymatebion a gafodd y pwyllgor yn llywio’r cwestiynau a ofynnodd i Weinidogion Llywodraeth Cymru, a bwydodd hyn i mewn i’w hadroddiad terfynol.

Gallwch chi ddarllen yr ymateb a gyflwynwyd gan DECIPHer yma. Cyfeiriodd at ddata ar aflonyddu rhywiol gan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN). Cyfeiriodd hefyd at ddwy astudiaeth a fabwysiadwyd gan DECIPHer:

  • Hap-dreial rheoli peilot ar gyfer ymyriad i ryw mwy diogel a pherthnasoedd iach (SaFE) mewn lleoliadau addysg bellach, gyda’r nod o effeithio ar drais ar sail rhyw. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am hyn yma.
  • Adolygiad systematig rhyngwladol o bwys sy’n ystyried tystiolaeth o ymyriadau yn yr ysgol yn achos trais yn sgîl canlyn ac mewn perthnasoedd yn ogystal â thrais ar sail rhyw (STOP-DRV-GBV). Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael yma.

Cyfeiriodd adroddiad terfynol Llywodraeth Cymru, Mae’n effeithio ar bawb: Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr, y ei ddarllen yma, at y dystiolaeth ysgrifenedig ganlynol gan DECIPHer:

• Mae 11% o fyfyrwyr ym mlynyddoedd 7-11 wedi anfon delwedd a oedd yn rhywiol gignoeth a bod rhywun wedi ei hanfon at rywun arall heb eu caniatâd.

• Nododd hyd at 50% o fyfyrwyr fod bechgyn wedi galw enwau a oedd yn rhywiol sarhaus arnynt yn yr ysgol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a bod mwy na thraean o’r rheini a oedd yn galw enwau’n ferched.

• Dywedodd cyfanswm o 13% o fechgyn a 14% o ferched bod bechgyn wedi’u cyffwrdd neu eu cusanu yn yr ysgol, a hynny yn erbyn eu hewyllys. Cododd y ganran hon i 41% ar gyfer “pobl ifanc o leiafrifoedd rhywedd”. Dywedodd cyfanswm o 15% o fechgyn a 6% o ferched bod merched wedi’u cyffwrdd neu eu cusanu yn yr ysgol, a hynny yn erbyn eu hewyllys. Cododd hyn i 34% ar gyfer “pobl ifanc o leiafrifoedd rhywedd

Roedd yr adroddiad yn cynnwys 24 o argymhellion a gellir eu rhannu’n ddwy brif thema:

  • Mae’n rhaid i bobl ifanc yn flaenllaw iawn o ran ymateb Llywodraeth Cymru i aflonyddu rhywiol gan gyfoedion.
  • Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru wneud beth bynnag sydd ei angen, a chyn gynted ag y bo’n bosibl, i leihau maint ac effaith aflonyddu rhywiol gan gyfoedion.


Nododd Cadeirydd y Pwyllgor Jayne Bryant AS:

‘Mae hon yn broblem sy’n effeithio ar y gymdeithas drwyddi draw. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru, y Senedd, awdurdodau lleol, ysgolion, elusennau, rhieni a theuluoedd – pob un ohonom – gymryd camau ar y cyd i ddadnormaleiddio mathau o ymddygiad niweidiol.’

Cliciwch ar y dolenni isod i ddarllen rhagor am yr ymgynghoriad. I ddarllen am ymgyngoriadau eraill y mae DECIPHer wedi cyfrannu atynt, ewch i dudalen ein hymgyngoriadau drwy glicio ar y botwm isod.

Cefndir yr ymgynghoriad

Ymateb DECIPHer

Adroddiad Senedd Cymru

Fideo Senedd Cymru ‘Mae’n effeithio ar Bawb’