Mae staff DECIPHer wedi meithrin cysylltiadau ar draws y byd drwy eu hymchwil, eu cyrsiau byr a phartneriaethau eraill. Rydym hefyd yn croesawu ymwelwyr o’r DU, Ewrop a thu hwnt i dreulio amser yn DECIPHer gan gynnwys yn rhan o leoliadau gwaith, secondiadau ac ymweliadau ymchwil.
