Mynd i'r cynnwys
Home » Cyfarfod â’r : Brianna a Katy-May

Cyfarfod â’r : Brianna a Katy-May

  • Flog

Mae’r ôl-raddedigion Brianna Bowen a Katy-May Price yn myfyrio ar eu profiadau fel ymchwilwyr ar brosiect DECIPHer sy’n canolbwyntio ar ysgolion.

Ym mis Medi 2022, ymunodd Brianna, sy’n fyfyrwraig doethuriaeth mewn Seicoleg Addysgol a Katy-May, sy’n fyfyrwraig ôl-raddedig yn yr Ysgol Seicoleg sy’n astudio Anhwylderau Seicolegol Plant MSc, â DECIPHer i gynorthwyo â phrosiect a ariennir trwy Wobr Data Iechyd Meddwl Ymddiriedolaeth Wellcome. Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar atal pryder ac iselder trwy gynyddu cysylltedd ysgolion. Mae ymchwil wedi dangos perthynas amddiffynnol sylweddol rhwng cysylltedd uwch canfyddedig o ran ysgol a lefelau is o symptomau iselder a phryder (1).


Cam un – darllen amdano

A ninnau’n ddw fyfyrwraig amser llawn, rydym wedi bod yn gweithio fel cynorthwywyr ymchwil ochr yn ochr â’n graddau. Ein nod oedd ennill sgiliau a phrofiad gwerthfawr i ychwanegu at ein Cvau a chael mewnwelediad i’r hyn sy’n ofynnol yn y rôl hon. Manteisiom ar y cyfle hwn drwy Siop Swyddi Prifysgol Caerdydd.

Yn y lle cyntaf, roedd ein rolau’n cynnwys cefnogi tîm y prosiect i asesu’r llenyddiaeth ar gysylltedd ysgolion, gan ganolbwyntio ar ba ffactorau all effeithio ar ganfyddiadau myfyrwyr o hyn. Yn ogystal, asesom lenyddiaeth ar gynnwys y cyhoedd mewn dadansoddiadau data uwchradd, gan ganolbwyntio’n benodol ar sut y gwnaed hyn mewn ymchwil flaenorol. Roedd hyn yn cefnogi dadansoddiadau data uwchradd y tîm gan ddefnyddio data ysgolion o’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion (SHRN), sef rhwydwaith cenedlaethol sydd wedi’i wreiddio ar draws ysgolion uwchradd Cymru. Mae’r canfyddiadau o’r adolygiad llenyddiaeth hwn a dadansoddiad data uwchradd y tîm wedi’u crynhoi mewn blog DECIPHer diweddar.

Cam dau – archwilio, asesu, cymryd rhan

Ym mis Mawrth 2023, roeddem yn falch iawn o gael ymestyn ein rolau i gefnogi’r prosiect yn ei ail gam. Mae’r cam nesaf hwn yn edrych ar sut y gall ysgolion ddefnyddio eu data iechyd meddwl i feithrin cysylltedd rhwng ysgolion, ac iechyd meddwl ehangach, trwy gyfrwng teclyn digidol a ddatblygwyd gan y tîm. Er mwyn cefnogi ysgolion i ddefnyddio eu data, mae’r tîm yn adeiladu dangosfwrdd digidol deinamig ar lefel ysgol a fydd yn adeiladu ar y canfyddiadau ar gam cyntaf y prosiect. Bydd prototeip yn cynnwys Dylunio Offeryn sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr i gyd-ddatblygu’r dangosfwrdd gydag ysgolion a rhanddeiliaid allweddol.

Bydd gwahanol gylchoedd o gynnwys defnyddwyr yn cyfrannu at ddatblygiad yr offeryn. Yn gyntaf, bydd grwpiau ffocws gyda staff ysgolion a disgyblion yn helpu i ddatblygu dangosfwrdd ffug, ac yna gweithdai profi defnyddioldeb gyda staff ysgol SHRN i gynhyrchu prototeipiau codio. Ac yn olaf, bydd y tîm yn sefydlu gweithdai defnyddioldeb gyda Chydlynwyr Ysgolion Iach a Chydlynwyr Gweithredu Yamgwedd  Ysgol Gyfan gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn ogystal â staff ysgolion a disgyblion, i greu prototeip wedi’i fireinio.

Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at y profiadau newydd a chyffrous a ddaw yn sgil y cam nesaf hwn o’r prosiect, yn enwedig wrth i’n rolau ddechrau symud o’r tu ôl i’r llenni i waith ymgysylltu â’r cyhoedd gyda rhanddeiliaid y prosiect, SHRN a grwpiau profiadau byw pobl ifanc.

Beth rydyn ni wedi’i ennill hyd yn hyn?

Brianna: Rwy’n gobeithio bod yn  Seicolegydd Addysg yng Nghymru ar ôl i mi raddio. Mae gen i ddiddordeb brwd mewn ymchwil hefyd, a gobeithio, ochr yn ochr â’m hymarfer yn y dyfodol, y ca’ i gyfle i barhau i ymchwilio ac ychwanegu at lenyddiaeth seicoleg addysgol. Mae’r rôl hon wedi bod yn gyfle perffaith i feithrin fy niddordeb mewn ymchwil a chefnogi fy hun yn ystod fy astudiaethau. Rwy’ wedi bod yn ddiolchgar am arweiniad y tîm, a ganiataodd i mi wneud y gwaith yn hyblyg ochr yn ochr â’m hastudiaethau a lleoliadau prifysgol. Mae’r profiad hwn wedi datblygu fy sgiliau wrth gynnal chwiliadau llenyddiaeth, gan gyfuno ymchwil ac ysgrifennu cryno ar gyfer adroddiadau a chyhoeddiadau cyfnodolion, yr wyf wedi’u trosglwyddo i’m gwaith ysgrifennu doethurol fy hun, ac rwy’ wedi ysgrifennu fy ymchwil fy hun gyda’r nod o’i gyhoeddi. Rwy’ hefyd wedi mwynhau’r cyfle i weithio’n annibynnol ac ar y cyd â Katy-May yn adeilad arloesol, blaengar SPARC|SPARK.

Katy-May: Fy nod yw parhau â’m gyrfa seicoleg tuag at ddod yn Seicolegydd Clinigol. Amlygodd y rôl hon fy niddordeb mewn datblygu ymchwil effeithiol i bobl ifanc, gan ganiatáu imi fod yn rhan o rywbeth sy’n gwneud gwahaniaeth. Mae dangosfwrdd sy’n cefnogi lles pobl ifanc yn sicr yn rhywbeth y byddwn i wedi dymuno iddo gael ei weithredu pan oeddwn i yn yr ysgol uwchradd. Mae fy mhrofiad gyda DECIPHer a’r tîm cefnogol yno wedi fy helpu i ddatblygu sgiliau a chreu gwell dealltwriaeth o’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn gynorthwyydd ymchwil effeithiol.

  • 1) Raniti, M., Rakesh, D., Patton, G.C. et al. The role of school connectedness in the prevention of youth depression and anxiety: a systematic review with youth consultation. BMC Public Health 22, 2152 (2022). https://doi.org/10.1186/s12889-022-14364-6