Prif Ymchwilydd
Dr Sara Long
Cyd Ymchwilwyr
Dr Rachel Brown, Dr Nick Page, Dr Hayley Reed, Prof Simon Murphy, Prof Graham Moore
Y Cefndir
Iechyd a lles yn un o’r chwe Maes Dysgu a Phrofiad (AoLE) yn y Cwricwlwm newydd i Gymru. Mae’r dylanwad y mae iechyd a lles yn ei gael ar ddysgwyr yn amrywio ym mhob lleoliad a grŵp oedran. Disgwylir i ysgolion dalu sylw at hyn wrth gynllunio eu cwricwlwm eu hunain. Serch hynny, nid oes ganddyn nhw’r arbenigedd na’r offer i allu dod o hyd i’r data sydd ar gael iddyn nhw a’i ddefnyddio. Y rheswm am hyn yw, hyd yma, nid yw materion o’r fath wedi’u cynnwys yn eu hyfforddiant. Nod ADEPT-HSC yw ceisio llenwi’r bwlch hwn.
Mae sawl ffactor yn sail i ddatblygu’r cwrs, gan gynnwys adolygiad o Gynllun Rhwydwaith Ysgolion Iach Cymru, tystiolaeth sy’n dod i’r amlwg ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru a’r Dull Ysgol Gyfan o ymdrin â llesiant emosiynol a meddyliol, a datblygiadau’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion.
Nodau ac Amcanion
Prif nod y cwrs yw gwella gwybodaeth a sgiliau Cydlynwyr Ysgolion Iach wrth iddyn nhw gefnogi ysgolion i ddefnyddio a deall data a thystiolaeth.
Y tri phrif amcan ar gyfer ADEPT-HSC:
- Dealltwriaeth bellach o ddata’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN) a gwneud y defnydd gorau o hyn, a chodi ymwybyddiaeth o ffynonellau data eraill.
- Gwella gwybodaeth a sgiliau wrth wreiddio dulliau ysgol gyfan o fewn ysgolion, gan gynnwys:
Deall a gosod data yn eu cyd-destun er mwyn llywio asesu anghenion, blaenoriaethu a chynllunio camau gweithredu a gwerthuso law yn llaw ag ysgolion;
-Arfarnu’r dystiolaeth yn feirniadol;
-Gosod tystiolaeth yn ei chyd-destun a’i rhoi waith, gan roi enghreifftiau a nodi egwyddorion arweiniol (gan gynnwys trosolwg o ymyriadau aml-gydran, megis ymyriadau Dull Ysgol Gyfan (WXSA) yn erbyn ymyriadau cydran sengl);
-Gwerthuso, dewis ac addasu ymyriadau yn unol â’r cyd-destun, gan gynnwys ymarfer pan fo diffyg tystiolaeth;
-Deall systemau cymhleth a’u rhoi ar waith.
3. Hwyluso cyfleoedd i ddefnyddio’r adnoddau uchod er mwyn ymarfer enghreifftiau; ymateb i anghenion sy’n dod i’r amlwg.
Dyluniad y Cwrs
Mae’r cwrs wedi’i seilio ar four egwyddor allweddol a’u nod yw gwella gwybodaeth, sgiliau, a llywio ffyrdd o weithio y tu hwnt i’r cwrs.
- Yn gyntaf, gofynnir i ymarferwyr ystyried sut y mae ‘problem’ yn cael ei nodi, a sut mae rhywun yn penderfynu beth yw angen iechyd.
- Bydd y sesiwn ddilynol yn canolbwyntio ar geisio mapio ‘angen iechyd’ a deall beth yw ei ffiniau a’i achosion.
- Ffocws y drydedd sesiwn bydd y ffyrdd y gellid mynd i’r afael ag ‘angen iechyd’ yng nghyd-destun dull ysgol gyfan, gan gynnig trosolwg byr o sut i werthuso’r dystiolaeth a’r pyramid tystiolaeth, beth i’w wneud pan fo diffyg tystiolaeth, a sut y gall ymarferwyr gyfrannu at waith ymchwil, monitro a gwerthuso.
- Bydd y sesiwn olaf yn canolbwyntio ar roi ymyriadau ar waith o fewn lleoliadau penodol, a chynllunio camau gweithredu ar y cyd ag ysgolion.
Dyddiad dechrau
Ionawr 2022
Dyddiad gorffen
Rhagfyr 2024
Arianwyr
Swm
£25,000
Gwybodaeth bellach
Cefnogi addysgwyr i ddod yn fwy medrus wrth ddefnyddio data iechyd a lles