Prif Ymchwilydd
Yr Athro Simon Murphy
Cefndir
Mae’r buddion iechyd yn sgil ffordd o fyw sy’n gorfforol egnïol wedi’u hen sefydlu a cheir tystiolaeth bod ffordd o fyw eisteddog yn chwarae rhan arwyddocaol wrth i glefydau cronig ddechrau a datblygu. Cydnabyddir bod angen cynlluniau atgyfeirio ymarfer corff effeithiol i annog pobl eisteddog sydd â chyflwr meddygol i fod yn fwy egnïol. Fodd bynnag, prin yw’r gwerthusiadau trylwyr o effeithiolrwydd cynlluniau o’r fath.
Yng Nghymru, yn hanner cyntaf y degawd diwethaf, roedd y rhan fwyaf o ardaloedd y byrddau iechyd lleol yn gweithredu cynlluniau atgyfeirio ymarfer corff, gyda phob un yn dilyn protocol gwahanol. Fodd bynnag, yn 2006, cafodd arferion da presennol eu hasesu a’u safoni mewn protocolau cenedlaethol, ac yna cyflwynwyd y Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff ledled Cymru. Mae’r cynllun yn cynnwys cyfres o ymgynghoriadau ar ffurf cyfweliadau ysgogol gyda gweithiwr ymarfer corff proffesiynol mewn canolfan chwaraeon gymunedol, a mynediad at raglen gymorthdaledig o weithgareddau wedi’i theilwra dros 16 wythnos. Y prif nod yw y bydd cyfranogwyr yn cyflawni 30 munud o weithgarwch corfforol cymedrol ar o leiaf bum diwrnod yr wythnos.
Nodau ac Amcanion
Nod y prosiect yw pennu pa mor effeithiol yw’r rhaglen atgyfeirio wrth iddi gael ei chyflwyno mewn 13 ardal gweithredu.
Cynllun yr Astudiaeth
Mabwysiadodd y gwerthusiad gynllun hap-dreial rheoledig, gyda gwerthusiadau economaidd a phroses wedi’u nythu er mwyn asesu a oedd y Cynllun Atgyfeirio’n effeithiol, i bwy, o dan ba amgylchiadau ac ar ba gost.
Nod yr astudiaeth oedd ymchwilio a oedd gweithgarwch corfforol hunan-gofnodedig (yn ogystal ag iselder a gorbryder) ar ôl 12 mis yn wahanol ymhlith cleifion oedd yn cymryd rhan yn y Cynllun Atgyfeirio o’i gymharu â’r rhai oedd yn derbyn gofal arferol gan feddyg teulu.
Cafodd cyfranogwyr eu neilltuo (n=2104) naill ai i grŵp triniaeth neu grŵp rheoli, a mesurwyd y canlyniadau ar y dechrau ac ar gyfnodau dilynol o chwech a deuddeng mis.
Rhagor o wybodaeth a chyhoeddiadau
Moore G, Raisanen L, Moore L, Din N, Murphy S. Mixed-method process evaluation of the Welsh National Exercise Referral Scheme. Health Education 2013; 113(6).
Murphy S, Tudor Edwards R, Williams N, Raisanen L, Moore G, Linck P, Hounsome N, Ud Din N, Moore L. The evaluation of the National Exercise Referral Scheme in Wales – Report for Welsh Government, 2010
National Exercise Referral Scheme – Welsh Local Government Association (WLGA) project information page
Murphy S, Tudor Edwards R, Williams N, Raisanen L, Moore G, Linck P, Hounsome N, Ud Din N, Moore L. An evaluation of the effectiveness and cost effectiveness of the National Exercise Referral Scheme in Wales UK: a randomised controlled trial of a public health policy initiative. Journal of Epidemiology and Community Health 2012, 66(8):745-53.
Moore G, Moore L, Murphy S. Integration of motivational interviewing into practice in the National Exercise Referral Scheme in Wales: a mixed methods study. Behavioural and Cognitive Psychotherapy Oct 2011, 3:1-18.
Moore G, Moore L & Murphy S. ‘Facilitating adherence to physical activity: Exercise professionals’ experiences of the National Exercise Referral Scheme in Wales. A qualitative study. BMC Public Health 2011, 11:935
Murphy S, Raisanen L, Moore G, Tudor Edwards R, Linck P, Williams N, Ud Din N, Hale J and Moore L. A pragmatic randomised controlled trial of the Welsh National Exercise Referral Scheme: protocol for trial and integrated economic and process evaluation BMC Public Health 2010, 10:352
Dyddiad dechrau
Mai 2006
Dyddiad gorffen
Ionawr 2010
Arianwyr
Llywodraeth Cymru, Yr Is-adran Hybu Iechyd
Swm
£642,906