Mynd i'r cynnwys
Home » Cyrsiau Byr » Arloesedd Methodolegol mewn Gwyddor Ymyrraeth Iechyd y Cyhoedd: Datblygu, Gwerthuso, Addasu A Gweithredu

Arloesedd Methodolegol mewn Gwyddor Ymyrraeth Iechyd y Cyhoedd: Datblygu, Gwerthuso, Addasu A Gweithredu


Dyddiad a lleoliad

Dydd Lun 1 – Dydd Gwener 5 Mehefin 2026 (5 diwrnod)


Manylion y cwrs

Cyflwynir y cwrs gan arbenigwyr ym maes gwyddor ymyrraeth iechyd y cyhoedd o DECIPHer a’n sefydliadau cydweithredol gan gynnwys Prifysgol Caerwysg, Prifysgol Sheffield ac eraill, i’w cadarnhau.


Beth fyddwch yn ei ddysgu

  • Egwyddorion allweddol sy’n sail i ddatblygu, gweithredu, gwerthuso ac addasu ymyriadau;
  • Safbwyntiau systemau cymhleth ar gyfer datblygu a gwerthuso ymyriadau;
  • Dulliau ymchwil ac adnoddau ar gyfer datblygu ymyrraeth;
  • Defnyddio modelau rhesymeg i lywio ymchwil ymyrraeth;
  • Dulliau ac egwyddorion cydgynhyrchu;
  • Addasu ymyriadau cymhleth ar gyfer cyd-destunau newydd;
  • Dulliau ac ystyriaethau allweddol ar gyfer gwerthuso dichonoldeb ymyrraeth, effeithiolrwydd, prosesau a chost-effeithiolrwydd.

Ar gyfer pwy mae hyn?

Ymchwilwyr, myfyrwyr PhD, ymarferwyr a llunwyr polisïau. Ni ragdybir y bydd gennych unrhyw wybodaeth flaenorol.


Lleoliad y cwrs

sbarc|spark, Prifysgol Caerdydd, CF24 4HQ


Ffi’r cwrs

£1,250

Gall ymwelwyr rhyngwladol ofyn am lythyr gwahoddiad ffurfiol gan Brifysgol Caerdydd, er mwyn ategu eu ceisiadau am Fisa Astudio Tymor Byr, drwy gysylltu â Zoe Macdonald: macdonaldz@caerdydd.ac.uk


Arweinwyr y cwrs

Dr Rachel Brown a’r Athro James Lewis


Archebu

Mae’r cwrs hwn yn llawn erbyn hyn, ac nid oes modd cadw lle arno bellach.

Cewch chi ddewis ychwanegu eich enw at y rhestr aros ar gyfer y cwrs hwn.